Hydref 13, 2004

Gwyl Sgrin Caerdydd - 10-20 Tachwedd 2004

Felly, mae hi bron yr amser yna o'r flwyddyn eto - mae Gwyl Sgrin Caerdydd, gwyl ffilm fwya Cymru ar ein gwarthae ac mae'r rhaglen o ffilmiau a ddangosir dros y 10 diwrnod newydd gael ei chyhoeddi. Be da chi'n feddwl?

schizo.jpg

Dwi'n arbennig yn edrych mlaen at weld y ffilmiau Cymraeg a Chymreig: Mela (sy'n edrych ddim cweit mor saff ag oedd Sion a Sian y flwyddyn diwethaf) ac A Way of Life (dwi di son amdani'n gynt yma).

Dyma olwg dros brif themau yr wyl.

Dwi hefyd wedi clywed pethau da am:

The Machinist (ffilm dywyll ar y naw gyda Christian Bale yn llwgu ei hun dros ei gelf);
The Edukators (ffil gyda thri o actorion ifanc newydd mwya cyffrous yr Almaen ac Awstria);
The House of Flying Daggers (Zhang Yimou ar ei ail mission i ddallu a'i ddelweddau hyfryd);
The Woodsman (Kevin Bacon yn chwarae rhan pedoffeil sy'n ceisio dygymod a bywyd wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar);
The Green Hat (chydig o Hong Kong extreme);
Garden State (efo Zach Braff, y boi o'r gyfres comedi "Scrubs"ynddo, a Natalie Portman);
Tropical Malady (ffilm Thai am ddau ddyn hoyw oedd yn creu dipyn o buzz yng Ngwyl Caeredin);
The Parallax View (gan nad ydw i rioed wedi ei weld);

ac mae yna olwg-yn-ol ar ffilmiau Peter Sellers a ddylia fod yn ddifyr heb son am y ffilmiau byr Cymreig sy'n cael eu dangos. Gwledd yn wir.

Dwi'm yn gwbod dim am y ffilmiau o Seland Newydd nac y rhai o Estonia ond mae'n debyg yr ai i weld sut bethau ydyn nhw, gan na chai gyfle eto. Dyna sy'n gret am wyliau fel hyn ydi eich bod chi'n cael gweld ffilmiau sydd weithiau ddim yn cael eu rhyddhau o gwbl tu allan i'w gweldydd eu hunain.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Hydref 13, 2004 02:29 yh
Sylwadau

Cwpwl o betha nesh i fethu...

Mae yna ffilm Cymreig arall dwi di anghofio amdano 'fyd: - Powerless.

Ffilm a wnaed ar gyllideb criau esgid.

Hefyd mae yna ffilm schlock-horror-gore-fest o'r enw Creep Killers a gynhyrchwyd gan gwmni Cymreig ond a ffilmiwyd yn Sheffield.

Hefyd os da chi mewn i'ch ffilmiau byr bydd pob ffilm fer sy'n cystadlu yng nghystadleuaeth Gwobr DM Davies yn cael eu dangos dros 3 diwrnod - oll yn ffilmiau Cymreig, ac ambell un Cymraeg.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 15, 2004 04:24 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?