Mae’r byrddau hysbysebu’n gosod y cwestiwn:
“Dare You See Saw?”
Ateb: “Yes. Seen ‘Saw’, saw shite”
Mae’r ffilm yn cychwyn gyda dau foi yn gaeth mewn stafell fudr gaeedig wedi’w cadwyno gerfydd eu coes, mae corff marw gerllaw yng nghanol y stafell. Wrth ddod at eu coed mae nhw’n ffeindio eu bod wedi cael eu gosod yno gan lofrudd ailadroddus (Cyf? serial killer) sy’n dweud fd rhaid i Dr.Lawrence Gordon (Cary Elwes) ladd y llall cyn chwech o'r gloch neu bydd y llofrudd yn lladd ei wraig a'i blant.
Roedd y trailer a'r hysbysebion yn gaddo gymaint, rwan dwi'n teimlo fel gymaint o sucker. Gesh i’n sugno mewn ganddynt, a diweddu fyny’n teimlo fel mod i wedi cael fy nhwyllo.
Rydyn ni’n cael ein denu i geisio datrys y pos gyda’r ddau garcharor, wrth wneud hyn rydyn ni’n cael y stori-gefn yn raddol. Mae’n edrych at gyrraedd uchelfannau Se7en o ran tensiwn, posau, mw^d, troeon, siociau ac mae’n llwyddo mewn rhai mannau. Ond gan fwyaf mae'r actio mor syfrdanol o wael eich bod chi’n chwerthin am ben y ddau actor ma (cyd-awdur y sgript (Leigh Whannell) ydi un ohonynt...cadwa at y sgriptio washi) ac yn cael eich tynnu allan o sefyllfa beryglus y ddau gan golli unrhyw densiwn a lwyddodd y cyfarwyddwr i’w greu ac mae'ch empathi’n diflannu’n chwim. Mae’r deialog hefyd yn chwerthinllyd o annaturiol ar adegau a'r effeithiau digidol yn creu rhagor o bellter rhyngthoch chi a'r digwyddiadau.
I fod yn deg, mae ‘na sawl ochr fach ddifyr iddi gyda troeon gwir annisgwyl, plotio tynn iawn ac mae hi'n weddol wreiddiol. Pethau sydd yn ei godi uwch na sdwff syth i DVD, ond da chi, os da chi’n gweld hon a Switchblade Romance nesaf i'w gilydd yn y Siop Fideos Aberllanbidibidlan ewch am y Ffrancwyr – ma nhw’n LOT mwy sgeri.
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Hydref 7, 2004 04:28 yhGwyliais i hwn heddiw. Ti'n iawn, mae hi'n gachbeth. Dwi'n meddwl wna i droi at Pictiwrs yn lle Empire (4 seren? Be goblyn?) am fy adolygiadau yn y dyfodol. ;)
Postiwyd gan: Ifan Morgan Jones, Tachwedd 8, 2004 02:57 yb