Medi 28, 2004

Ying Xiong / Hero (Zhang Yimou, 2002)

(Imdb)(Anoffisial)

Wedi hir ymaros (2 flynedd ers ei ryddhau yn y Dwyrain Pell), mae Hero, ffilm ddiweddaraf y cyfarwyddwr llewyrchus, Zhang Yimou (Red Sorghum, Raise The Red Lantern), wedi cyrraedd sgriniau arian Cymru. Oedd hi'n werth yr aros?

Moon02.jpg

Tsieina, 3ydd ganrif CC, ac mae'r wlad fel y gwyddom hi nawr wedi ei rhannu mewn i 7 talaith. Mae arweinydd grymus didrugaredd y dalaith fwyaf, Qin, a'i fryd ar goncro'r taleithiau eraill i greu Tsieina unedig bwerus. Yn anffodus i'r taleithiau eraill mae hyn yn golygu eu concro drwy bob ffordd dan din posib heb falio dim am y pobol yn ei ffordd. Mae'r dalaith agosaf, Zhao, wedi bod dan lach y gorthrym hyn yn ddi-baid, ac wedi ceisio anfon eu asasiniaid gorau i ddifa'r arweinydd unbenaidd hwn, ond heb lwc. Dyw'r arweinydd ddim yn dwp ac mae'n cau ei hun yn ei balas anferth wedi'w amgylchynu gan fyddin anferth gan beidio gadael i unrhyw westai ddod o fewn 100 llath iddo drwy ofn cael ymweliad gan asasiniaid.

At giatiau'r palas hwn daw ein arwr, Di-enw (Jet Li) (a enwyd felly oherwydd ei blentyndod amddifad), gyda phrawf ei fod wedi difa'r tri asasin peryclaf yn nhalaith Zhao a rhyddhau'r brenin o'i garchar hunan-osodedig. Mae ganddo dri cledd yr asasiniaid Broken Sword (Tony Leung), Flying Snow (Maggie Cheung) a Sky (Donnie Yen) ac mae'n cael mynediad at orsedd y brenin i adrodd sut y llwyddodd i drechu'r tri anorchfygol.

Felly, mae'r ffilm yn digwydd oll mewn flashbacks, gan gychwyn fel sdori y credwn sy'n wir ond sydd yn fuan yn gwyro ac yn cael ei ailadrodd o berspectifau gwahanol wrth i wir gymhelliadau Di-enw ddod yn glir.

Mae hyn yn gweithio'n iawn o ran strwythr y ffilm, ond fod y straeon unigol yn dibynnu'n ormodol ar y ddelwedd ac ar y cwffio (sydd yn gadael rhywun yn gegrwth), yn hytrach nag unrhyw gymeriadu a phlotio. Mae hyn yn gadael y ffilm yn wan iawn, a braidd yn esgyrniog o ran swmp a sylwedd. Rydyn ni'n neidio nol a mlaen rhwng adroddiad Di-enw o'i dri brwydr ac yna o ddadansoddiad y brenin o'r brwydrau hyn; sy'n cael yr effaith annatod o ddileu un sdori rydych newydd ffurfio yn eich pen, ac yn anffodus, yn creu gwastraff braidd o hanner cynta'r ffilm.

Does dim dadlau, serch hynny, fod hon yn un o'r ffilmiau mwyaf trawiadol yn weledol i mi ei gweld, erioed efallai. Mae pob un ffram wedi ei cysodi mor gelfydd ac yn gymaint o wledd i'r llygaid (a'r clyw, mae'r sain yn ffantastig) fel eich bod yn gyson mewn awe (parchedig ofn?!), ac yn aml yn gallu maddau y diffyg stori. Mae'r themau lliw mor gryf ac yn newid rhwng pob persbectif gwahanol y cewn ni, gan ein galluogi i wybod lle rydyn ni yn y fflashbacks (Cyf: ôl-neidiau?). Gallech chi bron ddweud ei bod hi'n werth mynd i weld hon ar gyfer yr aesthetau yn unig. Bron, ond ddim cweit.

Ers ei gweld dwi'n mynd yn llai a llai hoff ohoni ac yn methu helpu ei chymharu a'i chwaer ffilm, "Crouching Tiger, Hidden Dragon", oedd ddim cweit mor gyfoethog ei darluniau a hon ond oedd yn sicr a llawer gwell sdori, ac yn antur go iawn gyda chymeriadau gyda dyfnder a gwrthgyferbyniadau diddorol (ac hefyd yn serennu yr hyfryd Zhang Ziyi, sydd yn chwarae rhan Moon yn y ffilm hon, ac och, mae hi'n neis pan ma hi di gwylltio!).

Ac y peth olaf oedd yn selio'i ffawd i fi oedd y syniad sy'n dod drosodd o bwysicrwydd Tsieina unedig, ac ei bod hi'n well ildio i'r syniadaeth o undod ac unbeniaeth er mwyn galluogi pawb i fyw mewn heddwch, a helpu i annog pawb i gyfathrebu a'u gilydd (yn yr un iaith unffurf hyd yn oed…). Syniad afiach sy'n drewi o daeogrwydd y cyfarwyddwr i'w lywodraeth ac i ymerodraeth Tsieina. Fel Cymro, mae hyn yn troi rhywun i wingo drwy'r ffilm, ac yn fy ngadael i'n oer tuag ato.

Os mae rhywun yn coelio mewn hawliau gwledydd bychain a'r unigolyn, nid arwr ddylia teitl y film fod ond bradwr.

Dolenni

Cyfweliad gyda Zhang Yimou

Cyfweliad gyda Zhang Ziyi yn yr Independent

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Medi 28, 2004 01:21 yh
Sylwadau

Adolygiad gwych - dw i heb weld y ffilm, ond neis yw gweld safbwynt arall arni. Dyna beth sy'n dda am y wefan hon, nid dim ond adolygiadau cymraeg sydd yma ond rai o safbwynt cymreig. Ond debyg fy mod i dal am fynd i weld Hero, allan o ddiddordeb.

Postiwyd gan: Ifan ap Morgan-Prys, Medi 28, 2004 04:19 yh

Diolch Ifan. Dwi'n credu taswn i heb gael y nghorddi gymaint ganddi, faswn i di rhoi sgor uwch iddi. Tyrd nol a deud dy ddeud pan ti di gweld hi, berig bo fi di chael hi'n hollol rong!

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 29, 2004 01:39 yh

Es i i weld hon neithiwr a rhyfeddu llwyr drwy'r cyfan. Yn weledol, mae'n ffilm hyfryd, a beryg fod yr argraff yna (a'nhuedd i ymgolli yn y delweddau ac anghofio darllen yr is-deitlau!)wedi pylu cynddaredd yr unigolyn bach yma.

O'n i'n hoff o'r creu ac ail-greu storiol, a'n falch fod hyn o leia'n tynnu sylw i'r ffaith fod persbectifau gwahanol ar bob sefyllfa, a dim UN gwir holl-bwysig. Ond cytunaf mai siom oedd gorffen y ffilm ar nodyn lle mae'r cymhlethdodau cyfrin yna yn gorfod cyfaddawdu neu marw.

Amau fod angen i mi fynd i'w gweld hi eto er mwyn penderfynnu...


O.N. 'Ol-fflachiadau' oedd y term hynod o hyll o'n ni'n ei ddefnyddio am 'flashbacks' adeg Lefel A :-)

Postiwyd gan: Mair Thomas, Medi 30, 2004 12:43 yh

Hei Mair! Pwy ti'n galw'n fach! Digwydd bod fod gen ti sail i dy honiad ond nid dyna yw'r pwynt! ;)

Dwi'n cyfadda falla fod dwy seren yn greulon braidd ac mi roedd hi'n fora Sul, yr adag rong i nal i mewn hwylia da yn amlwg. Wedi deud hyn, dwi dal yn meddwl fod sail y ffilm yn ei thanseilio'n gyfangwbl, motsh faint mor brydferth ydi hi.

O'n i hefyd wedi gweld Moulin Rouge y noson cynt am y tro cynta, felly o'n i'n chwilio am rwbath efo bach o sylwedd ella ;) ond a'i ddim mewn i hynna neu fyddan ni yma am byth.

Hwyl

Rhodri "Stumpy" ap Dyfrig

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 30, 2004 07:55 yh

Hang on dwi newydd sylwi, nid cyfeirio at yr unigolyn bach hwn oeddat ti! Ond atat ti dy hun. Wps!

Sglodyn ar fy ysgwydd am fod yn llai na penglin sioncyn y gwair? Na, nid fi!

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 30, 2004 08:21 yh

Bysen i'm yn meiddio insyltio ti felly a tithe'n amlwg mor sensitif am y peth Rhodri! Ata i o'n i'n cyfeirio.

Dal i feddwl nad yw'r cyflwyniad o rhinweddau undod ac unbeniaeth yn hollol ddu a gwyn - ond fy nehongliad i yw hynny, ac mae'n bosib (/debyg) fod anwybyddiaeth o arddeliaid y cyfarwyddwyr yn fy ngwneud i'n naif...

Welais i Wimbledon y noswaith cyn i mi wylio Hero - meddwl mai fi sy'n ennill yn y 'despret am bach o sylwedd' stakes ;)

Postiwyd gan: Mair Thomas, Hydref 1, 2004 10:19 yb

Ie, weles i ryw adolygiad yn deud fod y ffaith ei fod yn sgwennu "Our Land" yn y tywod (h.y ei fod ddim yn set in stone)yn awgrymu fod na rywfaint o danseilio ei neges allanol. Ges ti'r argraff yna?

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 1, 2004 01:39 yh

'Nath hynna ddim taro fi, na - ond, o'n i'n teimlo fyse hi'n anodd iawn i unrhywun wylio hylltra golygfa'r 'merthyrdod' a derbyn mai safbwynt Qin sy'n iawn. Mond y brawddegau o esbonio wedi hynny sy wir yn gwthio dehongliad lle mae'r weithred er lles cenhedlaethau dilynol. Hefyd, gen i theori fod ystyr ddwysach i'r ffordd mae ôl corff Dienw yn gadael ffin yn y mur o saethau... falle :S

Postiwyd gan: Mair Thomas, Hydref 1, 2004 04:41 yh

Edrych ymlaen at weld hyn yn arw iawn, ar ôl gweld y treilars. Mae'n edrych fel Kurosawa ar spîîîîîîd.

Postiwyd gan: Nic, Hydref 4, 2004 05:23 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?