Os oes gennych chi ddiddordeb sgriptio ffilm eich hun, mae Cwmni Opus yn cynnal gweithdai fel cam cyntaf yn y broses o edrych ar syniadau ar gyfer comisiwn am 7 ffilm fer.
Wedi’r gwethdai diwethaf crewyd Naw Ffilm fer ddeinamig oedd yn dweud rhywbeth am Gymru heddiw, gan gynnwys Moses Pantybrwyn, a ennillodd gwobr Bafta Cymru am ddrama unigol orau 2003.
Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd dros y bythefnos nesaf. Mae’r cyfan am ddim, ac yn parhau rhyw dair awr. Mae gofyn i chi baratoi stori (ar un ochr A4) a fyddai yn gallu cynnal 10 munud o sgript.
Os oes gennych chi ddiddordeb, ffoniwch Eryl Huw Phillips yn Teledu Opus ar 02920 223456 neu danfonwch ebost i eryl@opustv.com
Helo Mair, croeso mawr i'r pictiwrs, da dy gael di yma ymysg y llygaid sgwariog. Edrych mlaen i ddarllen dy gyfraniadau.
Y cyfle uchod yn swnio'n ddifyr gyda llaw...ellai gai go arni!
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 17, 2004 01:35 yhDiolch am y croeso!
Meddwl bod digon o lefydd ar ôl i'r gweithdai - ddylei fod yn brofiad gwych.
Postiwyd gan: Mair Thomas, Medi 17, 2004 03:15 yh