Mae'r Guardian wedi bod yn rhedeg cyfres o erthyglau diddorol yn dilyn sawl addasiad(/trosiad?) ffilm gwahanol. Yr wythnos hon mae'r gyfres yn troi ei sylw at un o fy hoff ffilmiau plant - Willy Wonka & the Chocolate Factory (Mel Stuart, 1971) a addaswyd o'r llyfr Charlie and the Chocolate Factory (Roald Dahl, 1964).

Yn ol be mae'r erthygl yn dweud doedd Roald Dahl ddim yn hapus o gwbl efo'r trosiad oedd yn cynnwys ambell i newid oedd yn tywyllu'r sdori chydig yn fwy. Wnaeth hynny ddim drwg yn fy marn i, ac mae'r cymeriad Willy Wonka mae'r athrylith Gene Wilder wedi dod i'r sgrin yn rhywbeth arbennig sy'n codi ofn arswydus bron gan wybod ei ochr filain ond eto, fo sydd gan y pwer i wireddu eich breuddwydion ifanc. Mae hi'n ffilm sydd yn parhau i gydio yn nychymyg plant (ac oedolion...) ac sydd jest a'r sbrincl yna o hud a lledrith (ond dwi dal yn deud fod angen rhyddid i'r Oompa Loompas. Craduriad bach.)
Dolenni:
Roald Dahl.com - gwefan Flash-ey iawn
Roalddahlfans.com - gwefan llawer mwy cynhwysfawr mewn ffordd ac wedi ei anelu fwy at ffans hy^n Dahl.
Traethodau...: "Charlie and the Political Correctness Factory" ac un arall: "Willy Wonka and the Chocolate Factory as Judeo–Christian Allegory" (heh!)
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Medi 17, 2004 12:24 yb