Tra'n pendroni am ffilm ddogfen Parallel Lines (Nina Davenport, 2004) welais i ar BBC 4, fel rhan o gyfres Storyville sy'n hynod gyson ei wychder, fe ddechreues i feddwl am foesoldeb gwneud ffilmiau dogfen a pha mor bell all rywun fynd er mwyn adrodd sdraeon.
Roedd y dogfennydd dan sylw yn holi pobl am bethau personol iawn, ac yn aml yn dod a'u problemau dyfna i'r agored, mae'n debyg drwy ei arddull agored a sympathetig. O'n i'n teimlo braidd ei bod hi fel serial-upsetter yn mynd o gwmpas yn hel clecs am be sy'n boen yng nghalonnau pobl. Ac fel y dwedodd hi yn y ffilm (sy'n dilyn ei thaith o LA i'w chartref yn Efrog Newydd yn Rhagfyr 2001, wedi iddi fod i ffwrdd o adre tra'r digwyddodd 9/11) ac mewn cyfweliad a BBC4:
"BBC Four: Sadness seems to be the constant in the interviews.
Nina Davenport: A lot of the stories I heard were quite sad. I'm still not sure if it was because I was sad or because everyone was sad about 9/11 or whether that sadness was pre-existing. I tend to think it's a combination - that 9/11 gave people a way to release their own private sadness onto this more national tragedy."
Mae gan pawb eu sdori drist...dwi'n ama'n gryf fod 9/11 wedi bod unrhywbeth i wneud a'r peth. Dyma, yn ei hanfod, oedd yn fy ngwneud yn anghyffyrddus - ei bod hi'n projectio'r tristwch yma ar bobl er mwyn gwneud ffilm. Mae'n anghygoel clywed y sdraeon hyn ond yn y cyd-destun mae'n dod drosodd chydig yn lletchwith
Ddes i ar draws erthygl yn kamera.co.uk yn trafod moesoldeb gwneud elw o raglenni/ffilmiau dogfen
Mae yna hefyd wefan gynhwysfawr MediaRights ar hawliau gwneuthurwyr ffilmiau dogfen, sy'n rhoi ochr arall y sdori i ni. Pethau efallai y dylai gwpiau fel Cymdeithas yr Iaith a Chymuned fod yn gwneud rhagor efallai. Dogfennu protestiadau a chyhoeddi'r dystiolaeth. Ella ddylian nhw siarad efo criw actifyddion digidol Undercurrents...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Medi 16, 2004 05:26 yh