Wrth adolygu ambell ffilm fan hyn o'n i'n cael y teimlad mod i yn mynd mewn i ryw fath o strwythr llac ond weithiau ddim yn llwyddo i ddeud yn union be o'n i'n geisio deud. Wrth gwrs ma pawb yn datblygu eu steil eu hunain. Ond ro'n i'n meddwl: oes na unrhyw ganllawiau defnyddiol i adolygu ffilmiau ar gael ar yr interweb allai helpu fi i wella fy adolygiadau a gneud nhw'n fwy clir a mynegi'n hyn yn well.
Yr un cynta welais i oedd "A Peculiar Form of Journalism - The Art of Film Reviewing", project MA gan ryw foi o'r enw Ealasaid A. Haas. Un reit ddifyr a thrwyadl ac yn taflu rhai syniadau difyr o ran be ydi yn hytrach na thips.
Mae "The Offended Critic: Film Reviewing and Social Commentary" gan Adrian Martin [o Senses of Cinema] yn edrych yn fanylach ar sut mae adolygwyr yn amal yn cymryd y moral high-ground er "lles" y cyhoedd. Ydyn nhw'n gneud hyn jest er mwyn denu darllenwyr a'u histrionics neu ai eu lle nhw ydi gneud hyn?
Mae'r pedwar isod yn fwy o gam-wrth-gam eejits geid i adolygu ond yn werth taro cip olwg drostynt, yn arbennig yr un cyntaf:
1. The Four Functions of Film Reviewing
2. The Essential Elements of Film Reviews
3. A Film Review Rubric
4. Rating Films
[o wefan Film Appreciation Debbie Twyman a Craig Whitney]
Trafodaeth bellach am adolygu ffilmiau ar negesfwrdd Greencine.
Argraff dwi'n dueddol o'i gymryd o adolygiad fel arfer beth bynnag. Pori dros sawl un yn ysgafn gan drio cael teimlad os oes rhywbeth at fy nant yn y ffilmiau, felly yn hyn o beth dwi ddim yn edrych am astudiaeth lawn o bob peth cyn gweld ffilm ond dwi yn hoffi mynd nol i adolygiadau wedi'w strwythyro yn ol pob gwahanol agwedd o'r ffilm wedi i fi ei gweld, yn arbennig rhai fel sydd yng nghylchgrawn Sight and Sound lle mae ganddoch chi restrau cast ac ati (dwi byth yn cofio un enw o'r credits, ddim ots faint ydw i'n trio...).
Pah, pwy sydd isio Film Critics beth bynnag?
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Medi 14, 2004 06:43 yh