Medi 12, 2004

Ffilmiau Tanddaearol Paris yng Ngwir Ystyr y Gair

Yn sicr mae hon yn un o'r straeon mwyaf difyr ac anghygoel o intriguing i fi ei ddarllen yn y flwyddyn diwethaf - darganfyddiad gan Les Flics ym Mharis o olion sinema a bwyty cudd 18 metr tan y daear yng Nghatacombs Paris. Am syniad ffantastic - cineastiaid Ffrengig yn cynnal cyfarfodydd cudd yng nghanol nos i wylio ffilmiau gan sibrwd ymysg eu gilydd a sipian Pastis!

Mae'r Guardian yn adrodd heddiw eu bod wedi darganfod aelodau'r grwp oedd yn gyfrifol - La Mexicaine de La Perforation (The Perforating Mexicans) - ac yn cyfweld a'u 15 aelod.

Mae'n debyg fod llawer iawn, iawn yn fwy o sdwff cudd yn mynd 'mlaen yn y catacombs dan strydoedd Paris. Am ddelwedd wych.

Lle fasa hi'n bosibl cynnal y fath beth cyffrous yng Nghymru? Dan Yr Ogof unrhywun? Ma na canals dan Gaerdydd yn ol bob son...

[o greg.org]

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Medi 12, 2004 01:51 yb
Sylwadau

Waw! Dwi wastad eisiau bod yn rhan o rywbeth felna, rhyw fyd na wyr neb arall amdano. Bron fel Lion, the Witch and the Wardrobe dydi? Dwi'n siwr bod hen fap o gamlesi Caerdydd i'w gael yn rhywle?

Postiwyd gan: Llewelyn Richards, Medi 13, 2004 04:31 yh

Sinemau anghyfreithlon yw'r raves newydd wyddost ti ddim!

Gallai gael gafael ar projector digidol, blanced wen a chwareydd DVD. Gyd sydd angen rwan ydi safle cudd, trydan a stemar i wneud y couscous!

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 13, 2004 04:42 yh

Cyfweliad diddorol gyda Lazar Kunstmann, llefarydd grwp cudd "La Mexicaine De La Perforation"

[o Greg.org]

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 12, 2004 02:42 yh

Y rhestr lawn o'r ffilmiau a ddangoswyd yn yr wyl sinema danddaearol.

Mae nhw'n gudd, yn cwl heibio unrhyw ddiffiniad, AC mae ganddyn nhw dast da mewn ffilmia. Ffycars.

[eto o greg.org]

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 12, 2004 05:17 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?