Medi 11, 2004

Dim byd i'w wneud heno?

Ydach chi rywle downtown yn Dallas, Tecsas, heno?
Ddim yn ffansio gweld tom-cruise-yn-chwarae-harrison-ford yn collateral, neu Kim Basinger yn sgrechian-pledio i atgyfodi'i gyrfa am ddwyawr yn Cellular?
Ydach chi'n hiraethu am y dyddie da pan oedd dyn yn gallu mynd i'r pictiwrs heb orfod gwylio ffrwydriadau, pobol hoyw, cyffuriau, merched mewn hotpants na Michael Moore ar y sgrin?


Os felly, ella y byddai hi'n syniad i chi fynd i lawr i'r Studio Movie Grill, cartref yr wyl ffilm gyntaf o'i bath: yr American Film Renaissance Film Festival.

Gwyl sy'n dal yn dynn mewn hen werthoedd 'gwladgarol' Americanaidd a Christnogaeth; gwyl sy'n sownd mewn timewarp lle ma' Reagan i'w weld ar y sgrin arian ac yn y Ty Gwyn. Eu harwyddair? "Doing Films The Right Way".

Yn ystod y penwythnos, fe fydd 'na saith première byd: ffilmiau am Gomis budur, cameraderie y bois mas yn Fietnam, Elian Gonzales, rheolau gynnau llaw: ac wrth gwrs, gelyn pennaf (a tharget mwyaf) y Dde Americanaidd, Michael Moore.

Wrth ddarllen am raglen y penwythnos (gan feddwl i ddechrau mai gwyl i ddathlu rhamant-go-iawn, tarten afal a'r ail amendment oedd hi), ges i sioc braidd o weld dwysder ac eithafiaeth rhai o'r ffilmiau: gwrth Arabaidd, gwrth heddychaidd, gwrth 'Gomiwnistaidd' (brîd oeddwn i'n meddwl fod McCarthy wedi ei difa ar goelcerth fawr yn y 50au).

Dwi dal ddim wedi deall pwrpas sgrinio tri diwrnod llawn o bropaganda 'to the converted', ond mae'r peth yn sicir wedi procio'r meddwl. Be' fydda gwyl debyg yng Nghymru'n dangos? Petha fel 'Hedd Wyn'? A phwy ydi Michael Moore Cymru? Siawns y gallwn ni wneud yn well na Seimon Brwcs? (er, mi fyddai'n hwyl ei weld o mewn fatsuit).

Ta beth, jest digwydd meddwl wnes i...

Postiwyd gan Sara Huws ar Medi 11, 2004 09:54 yh
Sylwadau

"Doing Films The Right Way!"

Diolch i Dduw am morally-decisive citizens...

Dwi'n lecio hon yn arbennig:

"Germany. China. Cambodia. The Soviet Union. Rwanda. How the path to tyranny to these and other 20th century dictatorships began with the implementation of gun control. Warning: This film contains graphic images that may be unsuitable for some viewers" (!Ffyc-y-deri-dando!)

Ma pawb angen deud eu deud yn rhywle decini. Dwi'm yn meddwl fydd llawer o bobl eraill yn gwrando ond y rhai sydd a diddordeb, fel ti'n deud. Difyr iawn...o ia - croeso i'r Pictiwrs Sara. Da dy gael di yma yn ein mysg! A mysg hynod gysurus fel sedd UGC sydd gennym.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 12, 2004 12:30 yb

Oes na ffilmiau/ffilmiau dogfen gwir wleidyddol, radical yn cael eu creu yng Nghymru?

Yr unig le dwi'n gwybod mae hyn yn digwydd yn gyson ydi drwy grwp Undercurrents yn Abertawe sydd a gwyl eu hunain ar y 19eg a 20fed Tachwedd 2004.

Dwi wedi gweld rywfaint o'u sdwff a mae o gyd yn reit Michael Moore/Mark Thomas ac yn cynnwys bob dim o animeiddio (oedd yn syfrdanol o dda) i ddogfennau lleol ac o dramor. Eu briff gan fwya ydi dangos newyddion na welwch ar y teledu. Werth checko nhw mas (er fod na ddiffyg unrhyw ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg ymysg eu gwaith - dwi'n credu eu bod yn awyddus i ffeindio pobol sydd eisiau gwneud hyn gyda llaw...fids o brotestiadau ac ati)

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 12, 2004 12:37 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?