Awst 27, 2004

Dragon yn dechrau dechrau eto?

Mae'r BBC yn adrodd fod y gwaith ar fin cychwyn ar Stiwdios "Dragon" yn Llanilid ger Llantrisant (ond fe ddwedon nhw hyn ym mis Ionawr).

Fydd raid i ni aros i weld pa wir fudd a ddaw o hyn i fffilm a sinema yng Nghymru, mae'n amlwg y buasai menter o'r fath yn datblygu sgiliau drwy'r cynifer o swyddi fydd yno (dros fil?), ac efallai y buasai hyn yn cael effaith knock-on ar weithgareddau gwneuthura ffilmiau Cymreig. Ond o ran rhoi cyfleoedd i wneud ffilmiau mae'n anhebyg o fod yn ffrwythlon iawn. Peiriant arian ydi o wedi'r cyfan, nid peiriant magu diwylliant ffilm.

[Dim dolen i wefan y stiwdio ei hun ar y foment sori]

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Awst 27, 2004 07:10 yh
Sylwadau

Pa les gwirioneddol y'ch chi'n meddwl y bydd hyn yn ei roi i Gymru? Pwy fydd yn cymryd y swyddi 'ma? Faint o brynu lleol fydd y lleoliad yn ei wneud? A fydd y lleoliad yn rhoi hwb i ffilmiau Cymreig a Chymraeg? Sai'n or-hyderus...

Postiwyd gan: Geraint C, Awst 31, 2004 03:58 yh

Ie, mae hi'n annodd iawn dweud beth yw'r union gynlluniau ar hyn o bryd. Mae'n debyg y bydd yna le i ffilmiau Cymreig a Chymraeg ffilmio yno, ond y byddant yn gorfod deall taw project preifat ydi o ac y byddan nhw'n ceisio denu ffilmiau mawr sy'n mynd i wneud arian. Mae'n debyg y bydd yr rhan fwyaf o'r gwasanaethau y byddan nhw'n eu defnyddio'n dod o Gymru, beth fasa'r pwynt dod a phethau o Lundain (onid USP y stiwdio yw y bydd hi'n rhatach na ffilmio yn Llundain ac i wneud hyn rhaid...cyflogi'n lleol...).

Beth bynnag, dwi wedi ffeindio'r wefan erbyn hyn: http://www.dragonstudios.info mae na ragor o wybodaeth yno.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 3, 2004 01:42 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?