Ffilm hir-ddisgwyliedig Walter Salles wedi'w addasu o ddyddiaduron Ernesto "Che" Guevara ac Alberto Granado am eu taith fel dynion ifanc ar eu bangar o fotobeic Norton 500, o'r Ariannin i Venezuela. Taith fuasai'n dylanwadu'r ddau, yn arbennig Ernesto, a newid trywydd bywydau'r ddau yn gyfangwbl.
Mae'n debyg taw o ddyddiaduron Alberto yn hytrach na Che mae llawer o'r geiriau troslais yn y ffilm wedi dod, ac taw teitl llyfr Che a hanes y daith yw'r unig wir ddarnau a gymerwyd ohono. Sy'n gwneud synnwyr gan fod iaith y cofnodion yn swynol ac yn syndod o farddonol. Mae hefyd yn trosglwyddo i naws y ffilm sy'n dawnsio rhwng adegau dwys heb fod yn or-ddramatig i ddarnau doniol iawn. Mae'r sinematograffi yn parhau i fod yn wych a chadw at safon uchel Salles (mae'n werth gweld Under The Sun am hyn yn unig) gan ddal y diniweidrywdd a'r delfrydedd.
Mae 'na naws ddogfennol iddi mewn mannau gyda rhyngdoriadau du a gwyn graeniog yn dangos y werin dlawd sydd ym meddwl Che sydd yn peri poendod calon dwys iddo gan arwain at danio ei ymwybyddiaeth gwleidyddol a'r pen-siwrnai hon. Mae hyn, yn ogystal a pherfformiadau hollol naturiol y ddau brif actor, Gael Garcia Bernal a'r Archentwr Rodrigo de la Serna, yn rhoi stamp realiti ar y ffilm a'u sdori gan wyrdroi rhywun rhag gor-sentimentaleiddio a galluogi'r gynulleidfa i weld beth a ffurfiodd y fath angerdd.
Felly ffilm dda iawn (a gafodd glap harti gan y gynulleidfa ar y diwedd hefyd) sydd yn osgoi eiconograffi crys-t amlwg o che ac yn gadael i siwrnai'r ddau ffrind a chymrawd wneud y siarad gan wneud i chi feddwl am anghyfiawnder yn eich cyd-destun personol.
Erthygl am Alberto Granado sydd dal yn byw yn Cuba rwan ar ol sefydlu ysgol Feddygaeth yno wedi iddo fynd yno ar wahoddiad Che yn 1960.
Cyfweliad a Walter Salles yn y Times.
Cyfweliad a Gael Garcia Bernal plus crynodeb o be arall ma bobol yn feddwl yn y Guardian
Archif ar-lein Che Guevara yn cynnwys ei draethodau, delweddau ac ati.
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Awst 26, 2004 01:13 ybGwych! Edrych 'mlaen yn fawr iawn iawn i gael gweld y ffilm hon - ers misoedd lawer â dweud y gwir. Ble welest ti hi? Rhaid aros tan wythnos nesaf i fynd i'w gweld hi yn UGC mi dybiaf.
Postiwyd gan: Geraint Criddle, Awst 26, 2004 11:48 ybYn yr UGC, roedd ganddyn nhw ddangosiad rhagblaen neithiwr.
Dwisio motobeic...
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 26, 2004 11:53 ybDamia chi efo'ch sinemau mawrion sy'n cael ffilmiau da o fewn mis i'r ffilm yn cael ei ryddhau a sydd ddim efo'r un ffilm "boblogaidd" ar run tair wythnos drwy'r amser.
Postiwyd gan: krustysnaks, Awst 27, 2004 12:01 yhMi nes i fwynhau, ond mymryn yn rhy sentimental efallai (y nofio arwrol rhwng y ddau wersyll yn rhy amlwg ei symboliaeth ac yn ordeimladol). Hefyd Che yn cael ei bortreadu fymryn fel ffigwr Meseianaidd?
Postiwyd gan: Llewelyn Richards, Medi 13, 2004 01:04 yhDwi'n cytuno efo ti Llywelyn, mi o'n i'n crinjo braidd efo'r olygfa hynny yn arbennig ar ol ei araith impromptu! Dros ben llestri yn sicr, ac mae Che yn dod drosodd fel cymeriad gwynnach na gwyn braidd tra mai Alberto yw'r un sydd a'r "diffygion" bach yn ei gymeriad.
Serch hynny, dwi'm yn meddwl ei bod yn sbwylio'r ffilm, mae'r to^n yn spot-on gan fwyaf. Cytuno?
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 13, 2004 01:41 yhMi roedd y rhan fwyaf o bethau eraill yn sbot-on, a'r gwaith camera yn farddonol. Cwestiwn ehangach wedyn: wnaeth y ffilm ddad-greu'r myth o amgylch Guevara, yntau creu myth o'r newydd? Wnaeth y ffilm eich argyhoeddi mai 'felna-roedd-o'/hi-go-iawn'?
Postiwyd gan: Llewelyn Richards, Medi 13, 2004 02:13 yhCyfweliad a'r sgwennwr, Jose Rivera, gan y Writers Guild of America.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 24, 2004 10:06 ybLicio'r darn yma mae Jose Rivera yn gyfeirio ato:You can easily say at the beginning of Che's journey across Patagonia, which is long and flat and desolate, that these boys do not know where they are going. They are empty vessels waiting to be filled. And when they are climbing Machu Picchu, they are climbing into a greater consciousness.
Postiwyd gan: Llewelyn Richards, Hydref 1, 2004 03:44 yh