Awst 20, 2004

Mies vailla menneisyyttä (Aki Kaurismäki, 2002)

Mies vailla menneisyyttä (Dyn Heb Orffennol) yw ail ffilm y cyfarwyddwr Aki Kaurismäki am ei wlad enedigol, Y Ffindir.

Yn y ffilm, dilynwn hanes M, gwr a welwn ar ddechrau'r ffilm yn cael ei guro'n anymwybodol gan hwliganiaid, yn marw'n yr ysbyty, cyn codi o farw'n fyw. Aiff ymlaen i gwrdd â theulu cardodol sy'n teimlo trueni drosto a chynnig llety iddo yn eu cartref o flwch dur ar ymyl y ddinas. Yn anffodus, wedi iddo gael ei guro, mae M wedi colli pob atgof a oedd ganddo unwaith - yr unig beth sydd ganddo i afael ynddo yw iddo fod ar drên unwaith, gyda thywyllwch o'i amgylch ym mhobman. Mae hyn, wrth reswm, yn achosi anffawd iddo, gan i ni ei weld yn chwilio heb lwyddiant am swydd, am rywle i fyw ac am ryw fath o syniad o pwy ydyw ac o ble y daw.

Yma gwelwn brif neges y ffilm, sef yr anghyfiawnder a brofir gan rywun ar yr ymylon, yn ceisio cael blaen troed ar gymdeithas, wedi'i gymryd i'r eithaf. Nid oes gan M yr hawl i gael swydd, a phan mae'n rhoi tystiolaeth i'r heddlu yn dilyn lladrad banc (lle caiff ei ddal yn wystl tra'n dadlau os caiff agor cyfrif banc), mae bron yn cael ei garcharu ei hun am fod yn gardotyn am na all roi manylion am byw ydyw i'r heddlu. Mae'n cael ei achub cyn hynny gan gyfreithiwr sy'n cael ei anfon i orsaf yr heddlu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth, drwy law Irma.

Yr un peth sy'n ei achub rhag llithro ymhellach i bydew tywyll bywyd yr ymylon yw Irma, menyw y mae'n cwrdd â hi sy'n gwneud gwaith gwirfoddol dros Fyddin yr Iachawdwriaeth. Hi sydd yn ei helpu i'w helpu ei hun, gan roi dillad a gwaith iddo, ac yn bwysicaf oll, yr amser a'r gofal y mae'n amlwg nad yw M yn ei gael fel arall gan rannau mwy cyfoethog a llewyrchus y gymdeithas. Serch hynny, llwydda M i wyrdroi'r hyn sy'n cael ei bregethu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth, drwy ddylanwadu'r band i ddechrau chwarae roc a rôl (un o'i angerddau), ac ymestyn i'r bobl eraill sydd ar yr ymylon gydag ef drwy ddulliau cyfoes. Yr hyn sy'n cael ei gyfleu yma yw'r gwerthoedd Cristnogol o gyd-dynnu a charu eich cyd-ddyn, ond heb y rigmarol sy'n rhan arferol o Gristnogaeth.

Mae aberth yn thema bwysig i'r ffilm hefyd. Mae'r bobl dlawd yn fwy na bodlon i aberthu dros ei gilydd, boed hynny'n fwyd neu loches, yn dra gwahanol i'r bobl gyfoethog a welwn, sydd yn ddigon bodlon troi eu cefnau ar y 'gwehilion' neu gymryd mantais ohonynt. Mae Irma, hefyd, drwy ei hymlyniad wrth werthoedd Cristnogol yn fodlon aberthu ei chariad tuag at M, wedi iddo ddarganfod pwy ydyw, a'i fod yn briod. Ond, pan aiff M (neu Jaakko Antero Lujanen) yn ôl at ei wraig a'i chariad newydd (roeddent wedi gwahanu cyn iddo ddiflannu), mae'n darganfod mai lle oeraidd a heb frawdoliaeth yw'r bywyd maestrefol dosbarth canol. Mae'n dychwelyd i'r ymylon i fod gyda'r bobl sy'n dangos y mwyaf o haelioni a chariad.

Yr hyn a geir yma yw ffilm sy'n llawn hiwmor tywyll, ac yn aml sy'n cyfleu anobaith, wrth i M wynebu brigau a chafnau llwyddiant a methiant bob yn ail. Ond neges greiddiol y ffilm yw fod gobaith a chariad yn hollbwysig i'r bod dynol, ac er i lechen bywyd gael ei glanhau o'r newydd o bethau materol bywyd, dyma sydd yn aros yn y cof ac yn y galon.

Postiwyd gan Geraint Criddle ar Awst 20, 2004 12:23 yh
Sylwadau

Swnio'n wych, gobeithio bydd hi'n dod i Aberteifi. Welaist ti Kauas pilvet karkaavat (Drifting Clouds)? Ffilm rhyfedd iawn, anodd i'w charu, ond un sy'n aros yn y cof.

Postiwyd gan: Nic Dafis, Awst 22, 2004 09:12 yh

Heb weld honna'n anffodus, ond mae Dyn Heb Orffennol yn sicr yn aros yn y cof - trwy gydol y ffilm, doeddech chi ddim yn siwr os oedd y ffilm yn hynod ddifrifol neu'n llawn comedi tywyll! Bydd yn rhaid i fi wneud ymchwil i weddill ei ffilmiau, mwn...

Postiwyd gan: Geraint C, Awst 23, 2004 10:44 yb

Wedi ei gwylio heddiw - od iawn. Faswn i efo diddordeb gwybod beth oeddet ti'n meddwl am steil ac arddull y ffilm. Roeddwn i'n ffeindio hi'n annodd ymdrochi (cyf: immerse!) ym myd y ffilm oherwydd y deialog a setiau theatrig a'r diffyg emosiwn, arwynebol beth bynnag, gan y cymeriadau. Eto fyth, mae na elfennau sy'n treiddio'n ddwfn a ti'n taro'r hoelen ar ei phen wrth son am Gristionogaeth heb y rigmarol arferol. Mae'r caredigrwydd i'w weld yn naturiol iawn, ond dim ond ymysg pobol sydd a dim y mae'n digwydd.

Ffilm fach annodd i'w gloman-dyllio(!), dwi rioed di gweld ei debyg rhaid cyfadda. Ond roedd yr agraff a ges i ar ei diwedd yn un positif iawn er fy mod yn cael trafferth braidd efo'i annaturiaeth.

Mae ei waith i fod yn debyg iawn i waith Jim Jarmusch, ond dim ond chydig o Dead Man dwi 'di weld ganddo, ag oedd honno'n ddim tebyg. Rhywun ag unrhyw awgrymiadau Jarmusch?

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 12, 2004 12:55 yb

home loan And it was calculated to strike asked-for into the idoscientos of the spectators. Home loan albeit they of Didst do somewhat re-instituted behind us, yet their outward home loan disconcerts inwardly d

Postiwyd gan: home loan, Tachwedd 10, 2005 12:15 yb

home loan And it was calculated to strike asked-for into the idoscientos of the spectators. Home loan albeit they of Didst do somewhat re-instituted behind us, yet their outward home loan disconcerts inwardly d

Postiwyd gan: home loan, Tachwedd 10, 2005 12:16 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?