Felly mae Gwyl Ffilm Caeredin ar droed gyda ystod eang o ffilmiau newydd sbon danlli. Fyddai ddim yna, go drapia, ond mae gen i ambell ysbiwr yn edrych ar ambell ffilm a gobeithio gallu riportio nol i fi gael rhoi rhyw syniad o beth sy'n codi ffys a beth sydd angen ei redag drosodd gan fys (*ow* sori!).

Dyma rai dolenni defnyddiol:
Meicro-wefan Film Four sydd yn rhoi rhagolwg ar rai o'r prif ffilmiau yno.
Adran gynhwysfawr Caeredin gan Guardian Film - newyddion, rhagolwg, ac adolygiadau o ddydd i ddydd (dyma un Dead Man's Shoes gan Shane Meadows i gychwyn).
Meicro-wefan BBC Films ar y 58fed Wyl
Adran The Scotsman ar yr wyl am olwg leol.
Nai ychwanegu sdwff at y sylwadau pan glywai fwy...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Awst 20, 2004 04:15 yhLlun 23 Awst
Dead Man's Shoes (Shane Meadows, 2004)
Wel, mae'r dangosiad diwydiant y ffilm newydd ddod i ben ac mae'n swnio fel ei bod yn return to form ar gyfer Meadows, a gollodd stem gyda'i ffilm siomedig ddiwethaf. Mae'n debyg fod y ffilm yn mynd yn ol i'w seiliau cyllideb-isel ac ei fod llawer hapusach i fod yn nol eto gyda'r dechneg camera 'dal-yn-y-llaw' a ddefnyddiodd yn Twenty Four Seven sydd yn ychwanegu at deimlad o glosrwydd at y cymeriadau a'u teimladau.
Stori ddial ydi hi, gyda Paddy Considine yn ceisio talu'r pwyth am lofruddiaeth ei frawd, oedd ag anhawsterau dysgu. Yn ol fy nharddle mae'r actio'n wych, y steil gweledol yn drawiadol ac mae hon yn sicr yn ffilm i'w dal pan ddaw hi allan yn y sinema.
Kill Bill yn Swydd Derby. Ond heb y lledar melyn.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 23, 2004 05:14 yhMawrth 24 Awst
Ae Fond Kiss (Ken Loach, 2004)
Yasmin (Kenny Glenaan, 2004)
Dwy ffilm sy'n delio a moslemiaid yn y Brydain gyfoes, ac yn ol y son dwy ffilm sydd yn iawn, ond ddim yn taro'r nod rywsut. Mae'n debyg fod trafodaethau yn dilyn y ffilm wedi troi rownd y ffaith fod methiant y ddau ffilm yn deillio o'r ffaith fod cyfarwyddwyr a sgwennwyr y ffilmiau yn ddynion gwyn ac efallai y buasai cyfarwyddwr(aig) moslemaidd wedi gallu rhoi yr elfen goll yna fewn iddi. A chan fod cyn lleieid o gyfleoedd i wneuthurwyr ffilm moslemaidd ac asiaidd pam nad oedd hynny yn digwydd...y broblem o gynrychioldeb, problem sy'n gyfarwydd iawn i ni yng Nghymru, ond trafodaeth arall ydi honno...
Manion eraill
Edrych fel bod The Hamburg Cell (Antonia Bird, 2004), ffilm am fomwyr tyrau'r World Trade Center, yn cael ymateb da iawn - ond, ni fydd ar sgrin sinema mae'n debyg. Mae'n edrych fel taw teli fydd yn ei dangos gynta mwya'r piti.
Bu tipyn o drafod hefyd am ddiffyg ffilmiau wir glitzy ar gyfer yr wyl eleni, gyda'r ffilm arthouse - Motorcycle Diaries - yn agor yr wyl a 2046 gan Wong Kar-Wai wedi'w raglennu i gau (ond iddo gael ei dynnu wythnos cynt...).
Dyna'r oll am rwan, hwyl.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 25, 2004 04:13 yhMercher 25 Awst
Dyma restr y Best Of The Fest, y ffilmiau mae pawb wedi bod yn trafod ac sy'n haeddu dangosiadau ychwanegol...ac mae'n debyg y rhai fydd yn codi stwr mewn misoedd i ddod. Allai dystio fod Old Boy yn un myddarffycar o ffilm od, ond yn wych mewn sawl ffordd hefyd.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 25, 2004 04:25 yhDyddiadur Caeredin cynhwysfawr ar wefan Inside Out Film.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 26, 2004 11:50 ybMercher 25 a Iau 26 Awst
Oce, fethish i gael gafal ar y contacts ddoe, felly dyma wompyn o ypdet i chi.
Yn gyntaf mae'r ffilm epig - Hero - gan Zhang Yimou (Raise The Red Lantern) i fod yn 'mindblower'. Yn ol y son mae pob golygfa yn gelfyddyd a'r steil yn ffresh iawn. Ac yn lwcus fydd dim rhaid aros yn hir iawn amdani bydd hi yn ein sinemau ym mis Medi, debygol iawn o fod yn hit wnaiff groesi drosodd i'r myltiplecs.
Rhai o'r ffilmiau od i chi ffans yr headfuck Lynch-aidd ydi The Green Hat (Hong Kong), The Far Side Of The Moon (Canada), The Incident At Loch Ness, a Hanging Offence (Ffrainc).
Mae na ambell i ffilm Sbaeneg wedi hitio;r radars a chael ymateb ffafriol: Summer Clouds (Felipe Vega) yn ffilm i oclhi drosto chi a gadael teimlad braf, a Take My Eyes (Icíar Bollaín) sydd yn ymdrin yn sensitif ag ymdrechion cwpwl i ddelio a thrais domestig ac ymladd drwyddo a heibio drwy eu cariad.
Un sydd am fod yn hit arthouse arall ac a oedd hefyd yn llwyddianus yn Cannes yw Comme Une Image (Agnès Jaoui) sydd yn ddoniol iawn.
Un bach arall i chi pyncs allan yna: Ramones: End Of The Century - os da chi'n ffan o'r gerddoriaeth mae peidio gweld hon yn debygol o gael chi wedi'ch banio o Metro's.
Dyna ni am y tro(ns), mae'r sisial a mwmian yn dweud ei bod hi wedi bod chydig yn siomedig ar y cyfan, gydag un neu ddau ffilm wych oedd ddim yn syrpreis, ambell ffilm oce, a lot fawr iawn o pwps oen blwydd.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 26, 2004 05:57 yhCrynodeb o ffilmiau gorau'r wyl gan Hannah Patterson o Kamera.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 30, 2004 08:52 yh