Awst 18, 2004

Tenkû no shiro Rapyuta (Hayao Miyazaki, 1986)

(IMDb)

Mae anime wedi bod yn wlad anhysbys i fi tan yn ddiweddar, pan wnaeth Spirited Away agor fy llygaid. Dyma ffilm gynharach gan yr un cyfarwyddwr.

Mae'r stori yn seiliedig, yn fras ddigon, ar Gulliver's Travels. Fel yn Spirited Away, mae safon yr animeiddio yn gallu edrych bach yn amrwd, wrth gymharu â chynhyrchion Hollywood cyfoesol, ond prif atyniad gwaith Hayao Miyazaki yw'r amgylchfydoedd hynod o gyfoethog mae e'n creu yn y ffilmiau. Yn Spirited Away, aeth teulu y ferch fach trwy "iêt hudol" i fyd arall, trosiad digon cyffredin yn y genre (drych Alice, cwpwrdd plant C.S.Lewis ac ati). Yn y ffilm hon, dyn ni'n cael ein taflu syth i mewn i fyd sy'n edrych yn debyg i'n un ni, ond sy'n wahanol mewn sawl ffordd pwysig. Y gwahaniaeth mwya amlwg yw'r peiriannau hedfan ffantastig, a'r elfen hudol ("Levistone" yn ôl y fersiwn yma o'r sgript, ond rhywbeth arall yn yr is-deitlau, dw i'n meddwl). Fy hoff ddarn i o'r ffilm yw'r gerddi tua'r diwedd, sy'n atgoffa i o waith Moebius.

Gwych o ffilm, a dw i'n edrych ymlaen at weld mwy gan Hayao Miyazaki.

Oes awgrymiadau amine eraill 'da chi?

Dolenni:

Gwe-ffan Tsieinëeg/Saesneg gyda llawer o sgrînluniau, copi o'r sgript, a llawer mwy.

Ffilm nesa Miyazaki - castell symudol arall.

Papurau wal. MP3au y trac sain, gyda llawer o "pop ups", os wyt ti'n defnyddio porwr Microsoft. Pam yn y byd wyt ti'n defnyddio hwnna?

Postiwyd gan Nic Dafis ar Awst 18, 2004 10:54 yb
Sylwadau

Shh, peidiwch a dweud wrth neb ond gallwch chi brynu'r set gyfan o ffilmiau Myiazaki o fan hyn am $69. 11 disk!

Methu ei fforddio ar y foment, ond mae gan fy ffrind y casgliad 6 disk sydd o safon da iawn (Siapanaeg gyda is-deitlau hefyd).

Nol hwyrach mlaen gyda chydig o awgrymiadau eraill...

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 18, 2004 12:01 yh

Sori 6 disk...a dwn im os mae na rai ar ol rwan. Bw hw.

Dwi'n meddwl fallai y buaset ti'n mwynhau Metropolis gan sy'n gyfuniad 3d/2d ond efo gogwydd 30'au(art deco)/dyfodol hefyd. Feri Fritz Lang. Gen i gopi ar DVD os ma rhywun isio menthyg.

Y ffilmiau sy'n codi ffys ar y foment yw Steamboy(dolen Saesneg)(Katsuhiro Otomo - gwneuthurwr Akira) ac Innocence(Mamoru Oshii - Ghost In The Shell). Mae'r frwydr ymlaen rhwng 2d traddodiadol a ffilm gyfangwbl 3d - mae sawl un yn y diwydiant yn dweud fod 2d yn farw, ond os na fydd Steamboy yn llwyddiant, fe allai hi olygu diwedd ar animeiddio gyfangwbl-2D Siapanaeg (ar wahan i Myiazaki, all wneud be bynnag mae o isio).

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 18, 2004 01:31 yh

Mae Totari No Totoro/My Neighbour Totoro hefyd yn wych, un arall sy'n delio a phlant yn dianc mewn i'w dychymyg i ddygymod a'u problemau (yn yr achos hwn symud i dy newydd fel Spirited Away, ond hefyd mam yn sal gydag afiechyd yn yr ysbyty). Mae hefyd yn ein cyflwyno i'r creaduriaid bach huddug sydd yn Spirited Away.

Mae Princess Mononoke yn llawer tywyllach o ffilm, sydd yn delio a phroblemau'r amgylchedd a threisio'r ddaear. Fel ti'n gweld dwi'n eitha hoff o anime...

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 18, 2004 01:48 yh

Dw i wedi gweld Metropolis (a ti wedi wneud sylw ar y cofnod!) ond wna i edrych am y gweddill ar Webflix nawr, diolch.

Postiwyd gan: Nic Dafis, Awst 18, 2004 01:49 yh

Mae Webflix heb lawer o ddewis. Oes 'na unrhywbeth yn y rhestr hon dylwn i weld? (Gan gofio bod fy rhestr WF â dros 120 o ffilmiau ynddi yn barod...)

Postiwyd gan: Nic Dafis, Awst 18, 2004 01:55 yh

Swn i'm yn synnu, dyw'r ddau nesh i grybwyll uchod ddim allan yn y wlad hon eto!

O dy restr mae Ghost In The Shell yn ffilm wych, os ychydig yn nyts ac annodd i'w ddeall (rhagflaenydd Innocence).

Mae Appleseed yn un o'r rhai h^yn, dwi heb ei weld ond mae fod yn dda iawn (bron i fi ei brynu ar VHS yn car bwt sel dydd Sad...). Mae'r fersiwn newydd, sydd oll yn CGI, yn edrych yn gachboeth.

Cowboy Bebop yn fod yn laff.

Kiki's Delivery Service - fel dwedes i mae rywbeth gan Myiazaki werth ei weld.

Mae na lot o dross yna 'fyd...

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 18, 2004 05:13 yh

Diolch Nwdls, wna i ychwanegu nhw ar y rhestr ddi-derfyn.

Postiwyd gan: Nic Dafis, Awst 20, 2004 11:26 yb

Dyma ryw fath o primer Anime gan Film Four - digon o wybodaeth ar pwy sy'n gneud be a thrafodaeth ar rai o'r clasuron.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 20, 2004 03:51 yh

Mae yna special ar Anime ar wefan Ffilm Siapaneiadd gwychach na gwych Midnight Eye. Yn cynnwys adolygiad o ffilm newydd "Steamboy" a chyfweliad gyda Mamoru Oshii a greodd "Ghost In The Shell" ac "Innocence". Mae yno hefyd, sdwff ar hanes Anime o'r dechreuad. Darllen difyr ar gyfer noson lawiog.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 28, 2004 02:28 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?