Yr ail ffilm i ddeillio o nofelau Robert Ludlum, eto yn serennu Matt Damon fel Jason Bourne, yr aelod CIA a fu'n wltra-cudd sy'n ceisio torri'n rhydd o'i fywyd fel asiant ond sydd wastad yn cael ei dynnu nol mewn i'r ffae.
Mae'n fy synnu rywfaint fod Paul Greengrass wedi llwyddo mynd o ffilm fel Bloody Sunday, oedd yn wych iawn ac yn un o'r ffilmiau prin hynny i wneud y symudiad o deledu i'r sgrin fawr yn llwyddiannus, i ffilm action-thriller fel hwn. Ond chwarae teg, mae o wedi rhoi mwy iddo na'r bloneg xXx-aidd arferol sy'n ein mogi yn y myltiplecs. (Allai ddim meddwl ar y foment o ffilmiau eraill sydd wedi gwneud y ffasiwn symudiad? Unrhyw syniadau?)
Mae na deimlad gorthrymaidd o lwyd yn tyfu fwyfwy fel yr aiff ymlaen - cychwyn yn Goa boeth is-drofannol, gyda'n arwr yn ymlacio a gorffen yn Moscow yn yr eira, a'r pwysedd mewnol yn uchel. Mae ganddo bopeth sydd ei angen mewn thriller, mae'r stakes mor uchel i Bourne a'r siawns ohono'n dianc o'r llanast mae ynddo mor brin na allwch chi goelio ei fod am allu gwneud unrhywbeth, ond, yng ngwir ysbryd James Bond (ac mae hwn llawer gwell nac unrhyw un ers Moore) mae'n llwyddo, rywsut, drwy sgiliau bron tu-hwnt i allu dyn.
Mae'r car-chases (unrhyw awgrymiad am gyfieithiad?) yn wych, gyda'r ceir bron yn dawnsio efo'u gilydd ar un adeg. Mae'r ffîd adrenalin yn gyson hefyd, dyw Bourne byth yn cael amser i ymlacio - fydd na ddim cysgu yn y ffilm hon dwi'n gaddo. Mi welish i'r cyntaf ar DVD peirat (rhag fy nghywilydd...) a'i mwynhau, a dyna f'ysgogodd i fynd i weld hon, a ches i mo'n siomi.
Mae Matt Damon yn siwtio rol yn dda - boi caled ond galluog, boi clen i rai ond di-faddeuant i eraill - mae'n gallu cyfleu yr oll yn llywddiannus iawn.
Roedd na fwy iddi na spy-thriller's arferol gyda llawer o sdwff gweledol graeniog, yn arbennig adegau flashback amnesiac Bourne, oedd yn ychwanegu at y ffilm ac yn cydfynd yn dda a'r lleoliadau oer Berlin a Moscow. Dyw hi ddim yn glasur ond os am rhywbeth safonol o'r genre i godi curiad eich calon ryw bripsyn wel dyma hi.
- "Pwy 'Di Pwy" yn y Bourne Supremacy?
- Cyfweliad a Paul Greengrass (Times)
- Cyfweliad a Brian Cox (neshi gwrdd a fo ha ma!) (Guardian)
- Cyfweliad a Matt Damon (Independent)
Dwi'n ystyried mynd i weld hon, ond heb weld y ffilm gyntaf. Ydy gweld y llall yn hanfodol? Heb wylio'r gyntaf o'r blaen gan ei bod yn edrych fel trash spei gwael iawn, ond dwi'n amlwg yn anghywir.
Postiwyd gan: krustysnaks, Awst 25, 2004 08:19 yhDdim yn hanfodol, galli di gael gist y ffilm yn reit gyflym (dwi'n meddwl ei bod hi am fod chydig yn wahanol ar gyfer Infernal Afffairs 2...). Mae 'na ddigon o gliwiau a thrafod hanes Bourne i ti gael syniad go dda o'r ffilm gynta heb fod yn or-expositional (be ffwcsyn di hynna'n Gymraeg dwad?). Mae pace y ffilm yn ddigon i gario'r mwya blinedig drwy'r ffilm.
Ac MAE hi'n trash sbei yn y bon - jest trash fatha'r trash ti'n gael mewn car bwt sel, difyr iawn. Ne jest fi di hwnna?
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 26, 2004 12:09 ybHehe ie dwi'n deall be ti'n feddwl am trash diddorol. Dwi'n hoffi'r mathau o drash sy'n deall eu bod nhw'n drash (Drop Dead Gorgeous) a'r math yma o drash (ydy o'n Ronin-aidd?). Dwi'n falch bod dim angen rhentu cyn gwylio'r ail - £1.50 am 3 noson yn lot!
Postiwyd gan: krustysnaks, Awst 26, 2004 11:40 yhMae Ronin yn gymhariaeth deg (mae 'na drafodaeth car chase Ronin vs car chase Bourne i gael rywle hefyd dwi'n meddwl...(Car Chase Database)). Faswn i'n dueddol o ddeud fod y ddau ffilm Bourne yn well na Ronin a deud y gwir. O drwch adenydd gwybedyn ynde.
Mae'r sinematograffi ar cymeriadau'n fwy diddorol. Mae Ronin chydig o hotch potch tra bod hwn efo rhai bach mwy crwn (efo ochrau sbeici).
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 27, 2004 12:59 ybAng-ffycin-hygoel! Dydi'r bas data, so called cynhwysfawr, ddim yn cynnwys un o'r ffilmiau car gorau erioed - Rendezvous (Claude LeLouche, 1976). Er dydi o ddim strictly yn car chase nacdi...
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 27, 2004 01:01 yb