Awst 12, 2004

Gweld A Chlywed: Rhifyn Medi 2004

Mae rhifyn newydd o gylchgrawn Sight and Sound allan a rhagor o ddileits ar eu gwefan:

Prif thema y mis yw Cerddoriaeth Ar Ffilm sy'n cynnwys astudiaeth o sut mae sgorio (na, nid y math da chi'n gneud yn y siop doji na ar Sblot Road) ffilm yn ei effeithiol, ffefrynnau, cyfarwyddwyr yn edrych ar gerddoriaeth eu ffilmiau eu hunain a be fasa cerddorion eraill yn hoffi ail-sgorio.

Hefyd y mis hwn mae Julian Graffy yn edrych ar rôl y tad (afradlon?) mewn ffilmiau Rwsiaidd newydd, ac yn canolbwyntio'n arbennig ar y ffilm "Father and Son" (Aleksandr Sokurov, 2003).


Yn ogystal â hyn, mae yma adolygiadau o Fahrenheit 9/11 gan Meical, Hellboy Mr del Toro, G a Spartan gan David Mamet.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Awst 12, 2004 01:45 yh
Sylwadau

Bygar, a doedd fy nghopi i ddim yn Smiths Aberteifi. Amser i mi fynd yn ôl at gael e trwy'r post falle?

Postiwyd gan: Nic Dafis, Awst 12, 2004 05:37 yh

Dwi'n reit lwcus ein bod ni'n cael o'n gwaith, er nad ydw i'n cael gafal arno fo am wsnos wedi iddo fo gyrradd. Ac mae'n braf cael cadw nhw tydi.

Mae Screen International yn reit dda hefyd gyda adolygiadau bell o flaen llaw (ac wrth gwrs am sdwff diwydiant) yn ystod y prif wyliau ffilm, mi oedd eu cynnwys nhw'u gyd yn arfer bod am ddim ar screendaily.com, ond dwi'n credu taw dim ond yr adolygiadau sydd am ddim rwan, os hynny.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 12, 2004 07:25 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?