(IMDb)
"OH! You ARE sick!" :D
Dychrynllyd, ffilm sydd mor ddwfn yn psyche David Lynch nad ydi'n hawdd ei wylio, ond eto...ma na rywbeth yn fy nhynnu nol. Mae 'na synnwyr dwi'n dweud wrth fy hun, mae hwn yn taro rhai nodau rywle yn fy mhen!
**Difethwyr MAWR gyda llaw** (er, dwn im faint o wahaniaeth ma hynny'n gneud efo'r ffilm hwn...)
Ydi o am ofn cael plant, cyfrifoldeb, y syniadaeth grefyddol-ffwndamenatalaidd fod rhyw a rhywioldeb yn bechod trahaus, am erthylu hyd yn oed? Oll o berspectif dyn, dyn sydd yn ofnus, bryderus, ansicr. Mae ei holl ofnau i'w gweld yn dod yn wir: mae ei wraig yn ei adael, mae hi'n gadael y babi, mae'r babi'n mynd yn sal a fyntau heb glem, mae'n cael ei ymwrthod gan y ddynes drws nesaf - y ddynes mae'n ei geisio er mwyn dianc ei fywyd tragwyddol wael, mae'n cael hunllefau am sberm anferth yn ei wely!
Ei unig gysur yw'r 'ddynes yn y radiator', y ddynes fochdew yn canu'r mantra "Yn y nefoedd, mae pob dim yn iawn": yn fy nhyb i, ei is-ymwybod yn dweud wrtho am ladd ei hun a'i faban (mae hi'n sefyll ar ei sberm), bydd popeth yn iawn Henry, pan ei di o'r byd hwn, fydd dim problem gen ti. Yn y diwedd mae ei euogrwydd am ladd ei blentyn (erthylu ei fabi?, dydi'r babi ddim wedi tyfu o gwbl drwy'r ffilm ac mewn rhyw stad o gyn-anedigrwydd ffoetysaidd, alien) yn ei anfon i ladd ei hun, gan ymuno a dynes y rheiddiadur mewn cwtsh cysurus yn y golau gwyn.
Dwi ddim yn deall y darn lle mae'r bachgen yn dwyn pen Henry a gwneud rwbiwr pensal allan ohono, er taw hon yw sail y ffilm...rhywun rhywle ar fwrdd negeseuon Eraserhead Imdb wedi amwgrymu fod hyn i wneud a'r bosys o fewn amgylchiadau dra-diwydiannol yn cymryd mantais o weithiwyr gymaint eu bod yn llythrennol ddefnyddio cyrff eu gweithwyr i wneud arian.
Dyma draethawd gan Ray Wolfe yn ceisio rhoi dadansoddiad llawnach na mhaldaruo i am y ffilm. (mhaldaruo - waw, ydi hwnna'n air Cymraeg?!)
A thipyn o wybodaeth gefndirol am y ffilm, yr actor Jack Nance, a'r trac sain.
Mwy ar Eraserhead o wefan ffan Lynch o'r Almaen (mae gwefan offisial Misdar Lynch yn PPV, oes bobols, ma raid talu.).
Allwch chi goelio fod hwn wedi ei gynhyrchu ym 1977? Ma dal i'w weld yn ffresh rwan i fi.
Faswn i'n falch o glywed unrhyw syniadau pellach am esboniad neu ddarlleniad i'r ffilm gyfrin hon sy'n gallu creu teimladau cryf o ddelweddau a synnau mor abstract. Hwyl, R.
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Awst 6, 2004 11:04 yhWelais i hwn yn diweddar hefyd, ac am y tro cyntaf. Ffilm hynod o wych, ond fel ti'n dweud, dryslyd iawn hefyd. Does gen i ddim problem gyda ffilmiau o'r fath, nhw yw'r fath o ffilmiau ti'n dod yn ôl atyn nhw drosodd a throsodd.
Does dim esboniad 'da fi i dy helpu di yma, dim ond joio'r ffilm fel gwaith celf afreal wnes i, heb boeni gormod am beth yw ystyr hyn a hyn o ddelwedd.
Sôn am gân y Ledi, wyt ti wedi clywed fersiwn y Pixies ohoni? Cwestiwn fwy pwysig wedyn, oes copi 'da ti?
Postiwyd gan: Nic Dafis, Awst 12, 2004 11:34 ybYdi wir, mae'n ffilm y gelli amsugno drwy dy pores fel petai! Yn hytrach na'i deall drwyddi draw y tro cynta (neu fyth...).
Mi sylwais i rhywle hefyd fod y Pixies wedi gneud cyfar o'r gan rywdro. Faswn i'n wir hoffi ei chlywed. Soulseekiaf hi heno.
Newydd fod yn gwrnado neithiwr ar soundtrack Mulholland Dr. hefyd gan Angelo Badalamenti. Son am gerddoriaeth i roi iasau lawr dy gefn pna ti'n ty ar dy ben dy hun!
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 12, 2004 01:51 yh