Awst 01, 2004

Sinemarwolaeth

piperlaurie.jpg

Tra'n edrych am luniau o Laura Betti, yr actores Eidaleg sydd newydd farw, mi ddes i ar draws wefan od Cinemorgue. Mae'n rhestru ac yn manylu marwolaethau sgrin cannoedd o actorion. Os da chi rioed wedi meddwl os ydi rhyw actor da chi'n hoffi wedi marw mewn ffilm, dyma'r lle (!). Dwi'm cweit yn siwr os ydi hwn yn rhywbeth fascinating neu rywbeth gan foi eitha sic. Diddorol serch hynny, er mae bach yn troubling fod y rhestr bron yn llawn menywod...ydi hynna jest yn adlewyrchiad o natur ffilmiau yn gyffredinol neu'n adlewyrchiad o ba bobl ma'r boi ma di penderfynu manylu?

Un peth difyr ddo, dydi Tom Hanks rioed wedi marw mewn ffilm yn ol hwn...damia...(be am Philadelphia?).

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Awst 1, 2004 01:26 yh
Sylwadau

Wedi edrych yn ddyfnach i'r wefan mae yna adran ar gyfer dynion hefyd, ac ydi, mae Tom Hanks yno. Bu farw 6 gwaith ar ffilm...

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 1, 2004 01:58 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?