Mae'n werth piciad draw i wefan cylchgrawn ffilm Sight and Sound bob mis gan eu bod nhw'n rhoi ambell i erthygl ac adolygiad i roi blas os nad ydych chi'n ei brynu'n y siop. Neu, os da chi'n Nolgellau, does na mond un copi'n cyrraedd bob mis a ma na ryw ddiawl wastad yn ei fachu cyn i chi gyrraedd Siop Y Cymro...
Mae eu sdwff nhw'n arbennig o dda fel arfer ac yn werth mynd ac edrych nol arnyn nhw ar ol i chi weld ffilm er mwyn cael ongl newydd, dreiddgar.
Mis yma mae erthygl ar ffilm ramant "y byd go iawn", Before Sunrise gan y cenhedlaeth x-ydd, Richard Linklater; golwg ar sut aeth Federico Fellini ati i roi rhoi pellter rhyngtho a'i wreiddiau Neo-Realaidd ac ail-asesiad o'i waith llai enwog.
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Gorffennaf 30, 2004 05:27 yhLluniau Fellini gan y BBC
Postiwyd gan: Nwdls, Awst 1, 2004 01:49 yh