Gorffennaf 01, 2004

B-Mwfis: Hoffi'ch ffilmiau'n wael?

Jest yn meddwl baswn i'n cronni'r dolenni b-mwfis dwi di bod yn hel dros yr wythnosau diwethaf. Rhag ofn fod na rywun efo'r un obsesiwn a fi ar y foment...

BadMovies.org: Un o'r llefydd gorau am adolygiadau ffilmiau gwael a chlipiau sain a fideo.

The Bad Movie Report: "Face It We Love Crap": Taro'r hoelen ar ei phen a gwefan neis a slic 'fyd.

Adran adolygiadau ffilm a theledu SomethingAwful.com: Mae yma hefyd downloads sain a fideo.

Jabootu's Bad Movie Dimension: Mae'r adolygiadau sydd yna yn drwyadl iawn. Gwefan angan bach o help dylunydd serch hynny.

Bad Movie Planet

BadMovies.net

Fforwm BadMovieZone: Fforwm cynhwysfawr, os yn canolbwyntio chydig yn ormod ar ffilmiau diweddar i fi.

Fforwm B-Movie Central: Ddim llawar o fynd ond mae o yna.

Rhestr ffilmiau o raglen Mystery Science Theatre 3000: Rhaglen gomedi o'r 90'au oedd yn cymryd y pys o b-mwfis cach.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Gorffennaf 1, 2004 10:04 yh
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?