Wel, o'r diwedd dyma fforwm drafod ar gyfer y diwydiant ffilmiau Cymreig a gwneuthura ffilmiau Cymreig.
Dyma Filmwales.net
Mae nhw'n ceisio bod yn ateb Cymru i gylch trafod Shooting People. Gobeithio y llwyddan nhw, gobeithio gwelwn ni drafodaeth fywiog a rhannu syniadau, ffilmiau, cymorth, cyngor a barnau yn y misoedd/blynyddoedd i ddod.
Oes lle ar gyfer fersiwn Cymraeg dwedwch? Mae hyn yn codi cwestiwn ynglyn a maint fforymau gweithredol. Faint o wneuthurwyr ffilm Cymreig amatur sydd allan yno sydd eisiau defnyddio gwasanaeth o'r fath? Ydyn nhw jest am ddefnyddio'r un Saesneg gan fod rhagor o wybodaeth/cymorth/criw yn bownd o fod yno?
Mi geisiodd cwmni Those People osod fforwm ar y we ond heb lawer o lwc gan i'w server crasho a dileu eu holl wybodaeth. Mae ganddynt fwrdd neges functional ar y foment.
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Mehefin 4, 2004 12:39 ybMae angen rhyw critical mass o ddefnyddwwyr i wneud i fforwm gwe fynd. Ti'n sôn am y tebygrwydd y bydd siaradwyr Cymraeg yn defnyddio'r safle uniaith Saesneg 'na yn lle un Gymraeg eu hiaith, ond pam fyddai Cymry di-Gymraeg dewis defnyddio'r fforwm 'na yn lle yr un Shooting People?
Dyn ni'n gwybod bod 'na ddigon o siaradwyr (wel, darllenwyr) Cymraeg ar y we i gynnal trafodle cyffredinol ei apêl fel maes-e, a bod 'na ddigon o ddiddordeb yn y sîn roc Cymraeg i wneud unarddeg.com yn llwyddiant, ond unwaith ti'n cyfyngu dy hunan at bwnc mwy cynnil ei apêl, ti mewn trwbl.
Dydy gwefannau ddim yn llwyddo ar hap, yn enwedig fforymau trafod. Yn nyddiau cynnar maes-e ro'n i'n postio fel sbîdffrîc i gadw pethau fynd nes i ni gyrraedd pwynt lle oedd digon o aelodau cyson i gynnal y sgwrs. Dydy fforwm y Ffwrwm ddim wedi llwyddo (eto?) achos does dim digon o bobl i gynnal sgwrs, a'r rhai sydd wedi defnyddio yn cwrdd â'i gilydd yn gyson ta beth, felly does dim angen iddyn nhw ddefnyddio technoleg newydd (iddyn nhw) er mwyn trafod pethau.
Postiwyd gan: Nic Dafis, Mehefin 13, 2004 09:52 ybSori, mae hynny yn swnio'n negyddol iawn. Yn y bôn, dw i'n credu y gall unrhyw wefan lwyddo os ydy'r bobl sy'n ei rhedeg yn fodlon rhoi'r gwaith i mewn.
I roi enghraifft o'r maes, oedd "Cylch Trafod RET79" yn mynd fel y clapyrs amser oedd RET yn ei redeg, ac mae wedi arafu nawr. Pam?
Postiwyd gan: Nic Dafis, Mehefin 13, 2004 10:00 ybIe, dwi'n cymryd dy bwynt di am yr angen am bostwyr brwd iawn i gychwyn pethe'n rolio, ond dwi'n credu y gall rhywbeth fel Filmwales.net fod yn ddefnyddiol iawn amn y rheswm fod Shooting People yn llawer rhy dense rwan i fod o werth i bobol tu allan i Lundain. Mae'r holl screenings, swyddi, hyfforddi arno fel arfer yn Llundain a pwy o Gymru sydd fel arfer yn gallu fforddio mynd lawr yno'n aml.
Sy'n dod at y pwynt hefyd fod angen trafodaeth yng Nghymru am ffilm a phobol yn bod yn gritigol o Sgrin ac ati a cheisio gwella petha. Fasa hi'n syniad hefyd cael trafodaeth ar gynrychioldeb Gogledd Cymru a'r broblem Gogledd/De a fod yr holl weithgaredd cyfryngol bron i gyd yng Nghaerdydd, ma na bobol yn Wrecsam sy'n cael ffwc o amser calad cael sylw, ma fath bod Caerdydd i Wrecsam fel mae Llundain i Gaerdydd.
Mae na lot o bobol sydd eisiau gneud ffilmiau yng Nghymru, cwestiwn arall ydi os ydyn nhw yn rhinwedd eu gwaith yn bobol sydd yn boddran mynd ar forymau ar y we?
Pwynt teg am y Ffwrwm sydd hefyd yr un sefyllfa a fforwm Cyfrwng
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Gorffennaf 1, 2004 06:15 yh