Dyma'r ail ffilm gyda 'rhen Nic Cage fel y prif actor i fi ei gwylio mewn wythnos, yn dilyn Wild at Heart gan yr ardderchog David Lynch (rwy'n dipyn o Twin Peaks obsessive).
Cydweithrediad arall rhwng Spike Jonze a Charlie Kauffman yw'r ffilm hon, yn dilyn Being John Malkovich, ac yn wir, tua dechrau'r ffilm, fe welwn Kauffman (Cage) ar set y ffilm honno, yn cael ei anwybyddu gan John Cusack a Catherine Keener. Kauffman, chi'n gweld, yw'r sgwennwr, di-nod, artist sy'n ymdrechu yn y tywyllwch, heb i neb werthfawrogi ei athrylith amlwg.
Ffordd Kauffman, felly, o gael y sylw y mae'n teimlo y mae'n ei haeddu, yw trwy wthio'i hun i mewn i'r ffilm y mae'n ei sgwennu, sy'n seiliedig ar lyfr 'The Orchard Thief' am fenyw (Meryl Streep) sy'n cwrdd â dyn (Chris Cooper) sy'n arbenigo mewn dwyn tegeiriannau, a'r berthynas sy'n blaguro (boom boom) rhyngddynt. Fodd bynnag, dyma lle mae'r ffilm yn mynd ar chwâl yn fy marn i. Mae Kauffman yn chwarae â'r cysyniad gymaint, nes fod y ffilm yn troi'n rhywbeth hollol anghredadwy, gyda Streep yn ceisio lladd Cage (sy'n hollol groes i'w chymeriad blaenorol) a chymeriad Chris Cooper yn y diwedd yn cael ei ladd gan alligator (sydd ddim yn lladd Meryl Streep, damo)...
Dwi'n credu dy fod ti wedi methu'r pwynt i ryw raddau. Mae'r drydedd act mor wirion am fod Charlie Kaufman yn sgwennu ffilm am pa mor anodd yw e i sgwennu trydydd act. Dyna pam fo 'Deus ex Machina' gwirion yn lladd Cooper, a dyna pam bod cymeriad Streep yn newid mor gyflym. Mi fyswn i wedi rhoi pedair seren iddo'n bersonnol.
Postiwyd gan: Ifan Morgan Jones, Mai 21, 2004 01:48 yhOnd fy mhwynt i yw y gallwn ni ddweud 'ie, da iawn, Charlie, rwyt ti'n glyfar iawn', ond nad oes modd cyfiawnhau dweud 'mae'n anodd sgwennu diwedd ffilm' drwy wneud diwedd ffilm gwael. Clyfar, ond nid dyna pam rwy'n gwylio ffilmie.
Postiwyd gan: Geraint C, Mai 21, 2004 03:43 yhMae'r un peth â'r ffaith fy mod i'n casau The Darkness. Pam ddylwn i wrando ar 'spoof' o gerddoriaeth sai'n lico?
Postiwyd gan: Geraint C, Mai 21, 2004 03:45 yhDwi'm yn dweud y dylset ti ei hoffi fo, ond ar y darllen gyntaf doedd dy adolygiad ddim yn awgrymu dy fod ti wedi deall y pwynt roedd Kaufman yn ceisio ei wneud. Ond rwan fy mod i wedi edrych fyny 'cysyniad' yn y geiriadur, mi gei di fy maddeuant. (@_@;)
Postiwyd gan: Ifan Morgan Jones, Mai 22, 2004 07:57 yh