Mai 09, 2004

Shaun of the Dead (Edgar Wright, 2004)

Comedi rhamantus am sombiaid, gyda Simon Pegg a Nick Frost.

Mae'n amlwg nad ydyw'r pobl a wnaeth hwn yn gyfarwydd gyda gwneud ffilmiau. Mae'r comedi yn ddoniol iawn, ond mae'r darnau difrifol wedi ei gollwng mewn i'r ffilm yn boenus iw gwylio ymysg yr holl chwerthin. Mae hi bron fel mwynhau sioe gomedi sefyll mewn angladd; un funud mae gofyn i ni chwerthin am farwolaeth, y nesaf i grio drosto. Mae'r diweddglo yn wan hefyd, gyda syniad am drydedd act sydd wedi ei wneud i farwolaeth yn barod, a cyfarwyddo reit wael o'r 'action' sy'n disgyn yn flat. Mae'r diweddglo hefyn yn Deus Ex Machina a fydd yn gadael y mwyafrif yn crafu'i pennau.
Ond eto am fannau gwan y ffilm gyfan mae'n ddoniol iawn ar adegau. Ac yn dreisgar dros ben, i'r rheini sy'n mwynhau gweld perfedd dynol yn cael ei fwyta gan sombis llwglyd. Mae'n codi ofn ar adegau hefyd, er fod lot gormod o fraw yn cael ei greu gan frawiadau-annilys yn yr hanner awr cyntaf a dim digon gan y sombis ei hunain.
Beth yw neges y ffilm, felly? Ein bod ni i gyd yn sombis, yn y bon, yn cerdded trwy fywyd yn hanner cysgu. Yn anffodus, mae ffilm sombi, y Dawn of the Dead gwreiddiol, wedi gwneud y gymhariaeth eironig yma dau ddeg saith mlynedd yn ol, ac i effaith lot gwell.

Postiwyd gan Ifan Morgan Jones ar Mai 9, 2004 01:48 yb
Sylwadau

*Difethwyr*
Oes wir angen i'r ffilm gael neges fwy na hynny? Comedi ysgafn ydi hi ia ddim? Mae'n debyg y bydd cryn dipyn o gynulleidfa'r ffilm heb weld y Dawn of the Dead cyntaf, felly bydd y neges wreiddiol yn dal i sefyll heddiw.

Roedd y darn lladd y fam yn anghyson braidd, ond wnaeth o ddim amharu'n ormodol ar bleser y ffilm, gan fod y pace wedi nghario i. Iawn does na ddim gwir deimlad sinematig iddo fo, ond fel comedi Brydeinig sydd o leia'n gneud i fi chwerthin (o'r diwedd) mae angen rhoi clod iddo.

Mi gydiodd strygl Shaun fel yr arwr anisgwyl arna i ag o'n i'n eitha attached iddo erbyn y diwedd, ag, yn wahanol i Ifan, o'n i'n reit falch o weld y cavalry'n cyrraedd i'w achub! Oeddan nhw wedi gneud digon o waith calad beth bynnag yn toeddan, oeddan nhw'n haeddu bach o help llaw ;)

Beth bynnag, dwi di gwylio hi ddwywaith rwan, ella taw jyst ffan o Spaced ydw i ag yn sgimio dros unrhyw wendidau a joio'r reid. Mae'r oygfa taflu records ar y zombies yn glasur.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Mai 9, 2004 12:06 yh

Wel mi roes i 3/5 iddo! Tydw i ddim yn mynd i fod yn neisach i'r ffilm am ei bod hi'n 'gomedi brydeinig' chwaith. Wn i ddim, debyg roedd pysen bach o dan fy set drwy'r ffilm neu rywbeth tebyg.

Postiwyd gan: Ifan Morgan Jones, Mai 9, 2004 04:29 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?