Mai 06, 2004

Capturing The Friedmans (Andrew Jarecki, 2003)

(IMDb)
(Gwefan Swyddogol - mae hon yn WYCH!)

Ffilm ddogfen (arall!) ar gyfer y sgrin fawr, sy'n mynd trwy ddillad budr teulu'r Friedmans a gafodd eu rhwygo'n ddarnau gan arest y tad, Arnold a'i fab, Jesse am dreisio plant yn y gwersi cyfrifiaduron roeddent yn cynnal gartref. Y sbin ar hon ydi fod y mab hynaf, David, wedi recordio hyn oll ar gamera fideo - gan ddal sawl ffrae, treial, denial a nosweithiau olaf y ddau a gyhuddwyd.

Mae hon yn un annodd i'w gwylio. Mae'r ffilm, a'r holl bobol a gyfwelid ynddo, yn gwrthddweud ei hun sawl gwaith: ydyn nhw'n euog, ydyn nhw ddim, ydyn nhw chydig bach, wnaeth yr heddlu wthio'r plant yn rhy galed am gyffesiad. Mae'r holl bethau yma'n reslo efo'u gilydd yn eich bren tra mae drama'r teulu ffycd yp ma'n cael ei ddarlledu'n uniongyrchol mewn i'ch ymennydd. Mae bron yn amhosib gwybod pwy sy'n dweud y gwir erbyn y diwedd ag o'n i'n tueddu i fynd mewn i dristwch dwys am yr holl sefyllfa a phawb oedd ynglwm ynddi. Mae na wirioneddau cadarn yno ond mae'r mannau llwyd rhwng y pegynnau gwrthwynebol hynny yn lletach o lawer ac yn lleihau dim erbyn y diwedd, dyw'r gagendor mond yn agor yn hwy.

O ran y ffilm ei hun, doeddwn i ddim yn gweld be oedd yn gwneud hi'n gymaint mwy sinematig na tasai ar y teledu, iawn mae na themau mawr yma: pedoffilia; mass hysteria; dinistriad yr uned deuluol; ffyddlondeb teuluol, ond yn weledol doedd hi ddim yn hynod ddyfeisgar. Efallai taw'r gwrthdaro yma rhwng safbwyntiau, y pov personol sy'n rhoi chi mewn mannau moesol annodd a'r cwestiynu cyson o'r gwirionedd sy'n gneud hi be ydi hi?

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Mai 6, 2004 11:45 yh
Sylwadau

Diawch, o'dd hi ond y dim i fi fynd i weld hwn, ond ro'n i am aros gartre' i wylio Barca yn curo Real Madrid ar Sgorio... RHAID i fi gael pas sinema UGC go glou!

Fe ddywedodd fy ffrind a aeth i'w gweld ar y pryd fod y stori'n go amwys, ac nad wyt ti'n gallu penderfynu wir yr un ffordd neu'r llall, hyd yn oed ar y diwedd. A fyset ti'n cytuno?

Postiwyd gan: Geraint C, Mai 7, 2004 03:13 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?