Dyma adolygiad o'r ffilm orau yn y byd. Dyma linc i'r IMDb, i bobl gael gweld pwy sy yn y ffilm, a dyma fi sgwennu un paragraff i grynhoi beth dw i'n meddwl andani. Mae'n wych!
A nawr dw i'n teipio yn y bocs "Extended Entry" - na fydd y stwff dw i'n ei deipio nawr yn ymddangos ar dudalen flaen y blog, ac felly fydd dim rhaid i bobl sydd heb ddiddordeb yn beth sy gyda fi i ddweud am y ffilm wych hon ddarllen y holl rwts 'ma.
Dyma linc i dudalen arall am y ffilm. Y tro 'ma dw i wedi cynnwys title o fewn y tag <a href="... er mwyn dweud rhywbeth am y linc.
Dw i'n meddwl bod y ffilm 'ma yn haeddu pum seren, ond yn lle dweud hynny yma, dw i'n rhoi y pump seren yn y bocs "Keywords", lle byddai'n nhw lot mwy o iws.
Drueni dydy bob ffilm, a bob adolygiad ffilm, cystal â hyn.
Postiwyd gan Nic Dafis ar Mai 5, 2004 10:11 ybA dyma fi'n gweld os yw'r sylwadau yn gweithio!
Postiwyd gan: Ifan, Mai 6, 2004 01:18 yb