Fel rwy' wedi dweud nifer o weithiau ar Maes-E, un o fy hoff ffilmiau yw Miller's Crossing. Un o'r prif resymau am hyn yw'r sgript ardderchog gan y brodyr Coen, Ethan a Joel. A oes brodyr mwy dawnus erioed wedi mynd ati i greu ffilmiau?
Yn ogystal â'r sgript wych, mae'r perfformiadau'n arbennig o dda, gyda Gabriel Byrne yn arbennig yn dwyn y sioe. Mae ei gymeriad, Tom Reagan, yn llwyddo i'ch swyno, tra'n cadw gwen ddireidus yn dawnsio ar ei wefusau drwy'r cyfan oll i gyd.
Yn bennaf oll, mae'r ffilm yn dwyn i gof oes Raymond Chandler, drwy gymeriad Tom a'r 'gift of the gab' cynhenid sy'n llwyddo i'w gael i ddianc nifer o droeon trwstan, a'r sinematograffeg hyfryd a gwreiddiol o ran teimlad.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Mai 5, 2004 11:14 ybDyw'r ddolen i'r sgript ddim yn gweithio.
Postiwyd gan: Ifan Morgan Jones, Mai 9, 2004 03:57 ybWel Mistar Criddle mi ges fenthyg y ffilm 'ma yn sgil eich cymhelliad, mi o ni di diflasu ar yr holl siarabang erbyn rhyw ddeng munud i fewn i'r ffilm a wedi rhyw ddeng munud arall mi o ni'n barod i glwydo am y nôs. Dechre reit dda - ma Albert Finney yn unrhyw ffilm yn arwydd da iawn, ond mi oedd y ffilm yn ddeialog-drwm a'r steil Raymond Chandler-esq yn y niflasu. Dwi'm yn ffan o Gabriel Byrne o gwbwl (falle fod hynny'n sbwylio'r ffilm gyment ag unrhywbeth i fi) 3 allan o 10, diwedd rant.
Postiwyd gan: Illtud Dunsford, Mehefin 21, 2005 04:21 yh