Mawrth 10, 2006

Gwyl Ffilmiau WOW! (Aber, 10-16 Mawrth)    

Mae'r Wyl ffilmiau deithiol WOW! wedi cyrraedd Aber a dwi'n edrych mlaen yn eiddgar i weld y ffilmiau tramor sydd ganddyn nhw. Mae'r wyl yn adnabyddus am ddangos ystod o ffilmiau tramor sydd byth fel arfer yn cyrraedd sgriniau pellafion Cymru.

Dyma blyrb Cymraeg y Ganolfan Gelfyddydau [gan nad oes gair o Gymraeg ar wefan yr wyl ei hun...]:

"Croesawn Wyl Ffilmiau WOW! Cymru a'r Byd yn Un gyda dewis ardderchog o ffilmiau o bedwar ban byd. Cawn fwynhau'r dangosiad cyntaf ym Mhrydain o ddwy ffilm - o Afghanistan 'Earth & Ashes' ac o Tsieina 'Night & Day', enillydd y brif wobr yng Ngwyl y Tri Chyfandir yn Naoned y llynedd! O America Ladin, cawn gomedi o'r enw 'Sex With Love', a disgwyliwn ffilm ddogfen arbennig o Giwba sy'n dapestri gweledol o ddelweddau hudolus o ddinas Havana. Gweler wefan y gwyl www.wowfilmfestival.org, neu cliciwch ar y doleni am fanylion pellach ac i archebu ar-lein, neu cysylltwch a'r Swyddfa Docynnau ar 01970 623232."

Mae'n bur debyg felly fod holl bosteri a deunydd marchnata yn uniaith Saesneg hefyd. Pam fod hyn yn cael digwydd? Mae na reolau iaith gyda arian cyhoeddus shwrli? Mynd bach yn erbyn yr holl ethos yr wyl peth fymryn yndi ddim? Gawn ni ddangos holl amrywiaeth gwych y byd a'u ieithoedd egsotig gwych...ond sna'm lle i'r Gymraeg.

Ta waeth, geith y ffilmiau siarad drostynt eu hunain - dwi'n mynd i weld yr ennillydd Oscar am ffilm dramor orau hen - Tsotsi.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig am 12:46 yh | Sylwadau (1)
Gwyliau Ffilm

Mawrth 06, 2006

Penwythnos Ffilm Amgen Rêl Institiwt    

Gwener 10fed & Sadwrn 11eg Mawrth 2006 | Neuadd Goffa Betws-y-coed

£3 y ffilm neu dim ond £5 am y penwythnos!
www.relinstitiwt.org


Gwener 10fed Mawrth
adloniant 7yh ffilmiau 7.45yh

Dancer in the Dark 2000, Lars von Trier, 140m
Y ffilm gerdd mwyaf anhebygol erioed, yn drist ac yn anffodus, tra bod y rhan fwyaf yn hapus a llon.

Bjork yw Selma, mewnfudwraig o’r wlad Siec yn Stad Washington yn 1964. Mae hi’n clywed cerddoriaeth yn sain a ffatri, yng nghlecian y tren, ac mae’r rhythmau hyn i gyd yn ffrwydro yn ei meddwl, ac yn troi yn ganu a dawnsio.
Mae’r ffilm herfeiddiol hwn dal yn y côf dyddiau yn ddiweddarach, a dyna’r ymateb gorau gall unrhyw artist obeithio gael i’w waith.

Rhagor...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig am 07:55 yh | Sylwadau (0)
Gwyliau Ffilm

Chwefror 15, 2006

Wiwerod sinema    

Bach o hwyl...cwis sinema wiweraidd.

[Diolch Elliw!]

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig am 09:51 yb | Sylwadau (0)
Gwefannau

Chwefror 13, 2006

Gwyl Ffilmiau Myfyrwyr Ffresh, Aberyswtyth (16-17 Chwefror plys ambell inoson arall!)    

I chi bobol Aber a'r cyffinia, dwi'n siwr eich bod chi wedi gweld ambell i boster Monty Python-aidd o gwmpas y lle yn hysbysebu Gwyl Ffilm Myfywrwyr Ffresh ond jest yn meddwl baswn i'n rhoi mensh arall i'ch annog chi i gefnogi (a chefnogi'r maeswyr sydd â ffilmiau yn cystadlu!).

newsplash-bg.gif

Yn ogystal â'r deuddydd o wobrwyo, seminarau a sesiynau yn ystod yr wyl ei hun bydd tair noson ffilm go arbennig:

Rhagor...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig am 09:34 yb | Sylwadau (0)
Gwyliau Ffilm

Ionawr 31, 2006

Pictiwrs Yn Y Pyb - Caerdydd, Sul y 5ed Chwefror 2006    

Pictiwrs Yn Y Pyb

Rhaglen lawn i ddilyn...

Rhagor...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig am 02:05 yh | Sylwadau (0)
Gwyliau Ffilm

Ionawr 17, 2006

Brokeback Mountain (Ang Lee, 2005)    ****

(IMDb)

Yn dilyn ei ymdrech brin i greu ffilm 'blockbuster' wirioneddol, mae Ang Lee, cyfarwyddwr 'Crouching Tiger, Hidden Dragon' a 'The Ice Storm' wedi dychwelyd i'r sgrin fawr â ffilm feiddgar sydd wedi achosi cryn storom eisoes yn America. Mae'n adrodd hanes, Ennis Del Mar a Jack Twist sydd, un haf yn nechrau'r chwedegau, yn cael eu hanfon i fyw ar fynydd yn gofalu am ddefaid rhag coyotes ac anifeiliaid gwyllt eraill. Ond yn y pen draw, ynddyn nhw y mae natur yn gafael, nid y defaid.

Rhagor...
Postiwyd gan Geraint Criddle am 09:44 yh | Sylwadau (5)
Ffilmiau

Ionawr 12, 2006

Pictiwrs... ar ei newydd wedd?    

Mae criw Pictiwrs wrthi'n ystyried newid pryd a gwedd y wefan i'w gwneud yn fwy deniadol i bobl ei darllen, a, gobeithio, ei gwneud yn haws i bobl gyfrannu. Felly, mae tîm A-Teamaidd yn cael ei roi at ei gilydd, gyda Nic Dafis fel Murdoch (telerau i'w trafod), Mair fel Face, Rhodri Nwdls fel Hannibal, a fi fel B.A. Baracus. O bosib. Falle bydd y rolau'n newid gydag amser. Y system sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd yw Drupal.

Wna' i ddim hyd yn oed dechrau ymddangos fel 'mod i'n gwbod am beth ydw i'n sôn, ond os oes gennych chi unrhyw syniadau am yr hyn hoffech chi ei weld ar Pictiwrs yn y dyfodol agos, anfonwch neges at geraint@pictiwrs.com neu rhodri@pictiwrs.com

Postiwyd gan Geraint Criddle am 08:57 yh | Sylwadau (0)
Gwefannau

Deg Uchaf (hwyr) Pictiwrs 2005    

Wel, wel, bu 2005 yn flwyddyn gymysg o ran ffilmiau. Roedd ambell i glasur, sawl stincar, a blwyddyn lle na wnaeth y blockbusters bondigrybwyll gystal â'r disgwyl. A beth, meddech chi, yw dadansoddiad adolygwyr Pictiwrs o'r holl sefyllfa? Wel, isod, mae casgliad o'n hoff ffilmiau ni o'r flwyddyn a fu...

1. Sideways - ffilm hynod ddigrif gan Alexander Payne am helyntion Miles a Jack yng ngwinllanoedd California
2. Der Untergang (Downfall) - hanes dwys a thywyll dyddiau olaf y Drydedd Reich, drwy lygaid Traudl Junge, ysgrifenyddes Adolf Hitler
3. A History of Violence - clasur arall gan Cronenberg, gyda Viggo Mortensen fel cyn-gangster sy'n wynebu'i orffennol
4. Un long dimanche de fiançailles (A Very Long Engagement) - ffilm hanesyddol arall, a leolir yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan Jean-Pierre Jeunet
5. Closer - addasiad o ddrama Patrick Marber, gyda chast cryf wedi'i arwain gan yr hynaws Clive Owen
6. Sin City - ffilm/llyfr comics wedi'i chyfarwyddo'n rhannol gan Tarantino, yn olrhain straeon tywyll trigolion Basin City
7. Hotel Rwanda - y drydedd ffilm hanesyddol yn ein rhestr, am y gyflafan yn Rwanda ym 1994, ac ymdrechion un dyn i leihau'r niwed
8. The Life Aquatic with Steve Zissou - ffilm ddiweddaraf Wes Anderson, gyda Bil Murray yn rhagorol fel capten llong wyddonol sydd ar ôl siarc mytholegol
9. Mysterious Skin - ffilm na chafodd rhyw lawer o sylw, ond mae perfformiad Joseph Gordon-Levitt fel dyn ifanc sy'n puteinio'i hun mewn tref fechan yn y Mid West werth ei wylio.
10. Bombon (El Pero) - ffilm o Batagonia yn yr Ariannin sy'n sicr o godi gwên, lle mae hen ddyn anlwcus yn dechrau magu ychydig o lwc ar ôl cael ci yn anrheg am ei garedigrwydd.

Mae'n argoeli y gallai 2006 fod yn flwyddyn ragorol, gyda sawl ffilm dda ar y gweill, felly cadwch lygad ar Pictiwrs, ac am y rhestr nesaf mewn blwyddyn!

Postiwyd gan Geraint Criddle am 08:49 yh | Sylwadau (3)
Ffilmiau

Ionawr 09, 2006

Match Point (Woody Allen, 2005)    ***

(IMDb

Dyma ni, felly, ail ffilm gan Woody Allen i ymddangos mewn llai na blwyddyn (Melinda and Melinda oedd y llall wrth gwrs). Y tro hwn, mae’r cast yn llawer cryfach, gyda pherfformiadau cryf gan Jonathan Rhys Meyers a Scarlett Johansson yn enwedig. Yn anffodus, wrth i Allen symud o’i gynefin yn Efrog Newydd i amgylchiadau anghyfarwydd Llundain, ymddengys ei fod wedi colli tipyn o’i ddealltwriaeth o bobl a chynefin.

Rhagor...
Postiwyd gan Geraint Criddle am 10:05 yh | Sylwadau (0)
Ffilmiau

Rhagfyr 22, 2005

KING KONG (PETER JACKSON, 2005)    *****

Ail-wneuthuriad o King Kong (1933) sy’n cynnwys Naomi Watts, Jack Black, Adrien Brody ac Andy Serkis. Mae difetha diwedd King Kong ychydig bach fel difetha diwedd Passion of the Christ, ond mae’r adolygiad yma’n cynnwys difethwyr mawr mwncïaidd.

Rhagor...
Postiwyd gan Ifan Morgan Jones am 05:48 yh | Sylwadau (2)
Ffilmiau

Rhagfyr 20, 2005

Joyeux Noël (Christian Carion, 2005)    ***½

Ymddengys mai 2005 yw’r flwyddyn lle mae’r Almaen yn dod i delerau â hanes y wlad yn yr ugeinfed ganrif. Yn dilyn y ffilm ardderchog ‘Downfall’, oedd yn ymdrin â thestun llawer mwy sensitive dyddiau olaf Hitler, cawn 'Joyeux Noël', ffilm sy’n olrhain hanes y cadoediad enwog hwnnw adeg Nadolig 1914, pan chwaraeodd milwyr o’r ddwy ochr gêm â’i gilydd. Mae’r ffilm hon yn deimladwy, er yn ordeimladwy ar adegau, wrth iddi drin a thrafod yr emosiynau cymhleth a’r materion sensitive a oedd ynghlwm â’r achos anhygoel hwn.

Rhagor...
Postiwyd gan Geraint Criddle am 08:51 yh | Sylwadau (0)
Ffilmiau

Rhagfyr 05, 2005

Lluniau Gwyl Sgrin: Delweddau Digidol    

Ambell i lun o bremiere 8 ffilm fer Gymreig newydd (gan gynnwys un Cymraeg, 'Iawn Dol' gan Bethan Marlow), oedd oll wedi eu cynhyrchu fel rhan o gynllun gan Sgrin Cymru a'r BBC, ar gyllideb o £10,000. Beth am chwarae gêm hawdd hawdd iawn o Ble mae Wali Rhodri...

digital visions full cinema.jpg
digital visions directors.jpg
digital visions 4.jpg

Postiwyd gan Mair Thomas am 02:43 yh | Sylwadau (0)
Gwyl Sgrin Caerdydd

Tachwedd 28, 2005

Eisteddfod 2006: Cystadleuaeth Ffilmiau Byr Cymraeg    

Sgennoch chi sgript ffilm 10-munud Gymraeg? Awydd cash am ddim i'w chynhyrchu hi a chydig o hyfforddiant yn y fargen? Darllenwch 'mlaen...

Mae yna un gystadleuaeth ffilm wedi'i chuddio yng nghrombil cynfansoddiadau'r Eisteddfod. Y llynedd doedd yna ddim ond dau ymgeisydd a dim enillydd (am nad oedd y ddau gais yn gymwys! un yn rhy hir o lawer a'r llall ddim yn sgript ffilm). Mae'r nifer o ymgeiswyr yn y blynyddoedd cynt wedi bod yn o sal hefyd, gyda rhai blynyddoedd heb un cais!

Eleni, mae Cyfle wedi newid y gystadleuaeth rywfaint gan alluogi i'r ennillydd gynhyrchu eu ffilm dan hyfforddiant er mwyn ei dangos yn ystod yr Eisteddfod ei hun.

Mae hyn yn gam da mlaen gyda'r gystadleuaeth yn fy marn i ond mae angen rhagor o arian (£500 + hyfforddiant sydd ar gael) a rhagor o sylw i hyn. Pam hefyd nad oes yna gystadleuaeth ar gyfer ffilm fer orffenedig Gymraeg yno eto? Mae cymaint ohonynt yn cael eu cynhyrchu ac mae'n drueni nad ydynt yn cael eu cydnabod fel celf gydradd a theatr a'r chelf gweledol eraill.

Beth bynnag, os mae digon o bobol yn cystadlu, efallai y sylwan nhw fod na le i ffilm ar faes y steddfod a fod angen rhoi abwyd i ddatblygu mwy ar y sgriptwyr a chyfarwyddwyr sydd allan yno'n ceisio creu ac yn aml yn gorfod creu gwaith yn y Saesneg. Felly dyma'r manylion...

** Dyddiad Cau: 31 Ionawr **

Ysgoloriaeth Geraint Morris mewn cydweithrediad â Cyfle

116. Sgript drama deledu neu ffilm 10 munud o hyd

Cystadleuaeth yn agored i unigolion dros 18 oed – nid yw’n agored i awduron sydd wedi ysgrifennu drama neu ffilm a gafodd ei chynhyrchu a’i darlledu. Rhaid i’r ddeialog fod yn wreiddiol i’r cystadleuydd ond caniateir i’r stori fod yn seiliedig ar ddigwyddiad neu waith arall ond rhaid nodi hyn gyda’r gwaith. Rhaid i’r sgript fod yn y Gymraeg.

Rhagor...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig am 06:37 yh | Sylwadau (0)
Cymru ar ffilm

Tachwedd 25, 2005

Cyfres Ffilmiau Amnest Rhyngwladol    

Heno, bydd gŵyl ffilmiau newydd yn dechrau yn Chapter, â'r nod o amlygu trais yn ebryn menywod mewn cymdeithas. Cydweithrediad rhwng Amnest Rhyngwladol a Chapter yw hon, a bydd yn para am un diwrnod ar bymtheg, tan y degfed o Ragfyr.

Rhagor...
Postiwyd gan Geraint Criddle am 04:50 yh | Sylwadau (1)
Gwyliau Ffilm

Tachwedd 22, 2005

Dawn yn Dathlu DM Davies    

"Dawn", ffilm fer Shreepali Patel ac Antony Hurley enillodd wobr DM Davies eleni mewn seremoni yng Ngwyl Sgrin Caerdydd nos Wener. Ond doedd y cyfarwyddwr ddim yn gallu bod yno gan ei bod yn priodi y diwrnbod canlynol, ond casglwyd y wobr gan yr awdur Antony Hurley a'r cynhyrchydd Kate Crowther.

Mae'r tri hyn a weithiodd ar y ffilm yn Gymry talentog iawn ac yn llawn haeddu clod a bri am eu gwaith a'r cyfle i symud mlaen i wneud rhagor o ffilmiau.

Gallwch ddarllen y sdori lawn ar wefan Gwyl Sgrin Caerdydd

Yn anffodus, hon yw'r unig ffilm o'r chwech ar y rhestr fer nad oes posib ei gwylio ar-lein! Ond os da chi lawr ym Mryste, gallwch ei gweld hi ddydd Gwener y 25ain yng Ngwyl Ffilmiau Byr Brief Encounters.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig am 02:31 yh | Sylwadau (0)
Gwyl Sgrin Caerdydd

Tachwedd 18, 2005

Dark Horse (Dagur Kari, 2005)    ****

(IMDb)

Yn 2003 glaniodd y cyfarwyddwr Dagur Kari ar y sin ffilmiau anibynnol gyda’i ffilm gyntaf Noi Albinoi (Noi yr Albino) gan ennill gwobrau lu mewn gwyliau ffilm ledled y byd. Roedd y film honno yn ddarlun trasig-ddoniol o fachgen ar gyrion cymdeithas mewn pentref bach yng Ngwlad yr Ia. Llwyddodd i ddal unigrwydd a unigolrwydd y bachgen od hwnnw, ac mae’r ffilm hon eto’n dilyn sdori bachgen gwahanol iawn ar y cyrion.

Mae Daniel yn artist graffiti ar log, ac wedi bod yn ddiwaith ers blynyddoedd, yn wir does ganddo ddim dealltwriaeth o beth yw gwaith. Mae o’n freuddwydiwr llwyr, ei ben mor bell yn y cymylau nad yw’n deall ei fod mewn trafferth gyda’r gyfraith o’r swyddfa dreth i’r heddlu. Mae’n gwisgo ei glustffonau a chau allan y byd go iawn, gan arnofio drwy ei fyd yn gwneud ei gelf a chwarae pel droed gyda’i ffrind Grandpa, sydd yn hollol obsesif am fod yn reffari pel droed.

Rhagor...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig am 05:38 yh | Sylwadau (0)
Ffilmiau

Tachwedd 15, 2005

Howl's Moving Castle (Hayao Myiazaki, 2005)    ***½

HOWLS_MOVING CASTLE_273x407.jpg

(IMDb)

Hawliwyd y ffilm animeiddiedig, Sprited Away (Hayao Myiazaki, 2001), fel un o gampweithiau mwyaf animeiddio ar ei rhyddhau yma yn 2003 (bron i 2 flynedd union wedi iddi gael ei dangosiad cyntaf yn Siapan). Yn wir hawliwyd hi fel nid yn unig ffilm animeiddiedig orau'r flwyddyn, ond un o holl ffilmiau gorau'r flwyddyn, o bob genre. Felly, roedd gan y ffilm ddiweddaraf i ddeillio o'r anorchfygol Stiwdio Ghibli fynydd go uchel i'w dringo er mwyn cyrraedd uchafion ei rhagflaenydd. Ydi Myiazaki wedi llwyddo ei barhau ei rediad enillol ddi-derfyn neu oes craciau'n ymddangos yn waliau'r palas breuddwydion?

Rhagor...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig am 11:46 yh | Sylwadau (4)
Ffilmiau

Cystadleuaeth DM Davies lawr i'r chwech olaf    

dmdavies.gif

Neithiwr cyhoeddwyd y chwech ffilm a'u cyfarwyddwyr sydd wedi cael eu dewis i fynd mlaen i'r chwech olaf yng nghystadleuaeth ffilmiau byr DM Davies.

Bydd y rhain rwan yn mynd ymlaen i gael eu dewis gan y rheithgor wadd anibynnol sydd yn cynnwys: Michael Kuhn, Dagur Kari, Jay Duplass, Frances Hendron and Alan Edmonds.

Dyma'r chwe ffilm:

Life Before Death (Helen Iles o Abertawe) (gwyliwch y ffilm)

Mabel (Wyndham Price o Gaerdydd) (gwyliwch y ffilm

Dawn (Shreepali Patel o Gaerdydd)

The Playhouse (Dafydd Bedwyr Hughes o Drawsfynydd) (gwyliwch y ffilm)

Carmen (Massimo Salvato o Gasnewydd) (gwyliwch y ffilm)

Say it With Flowers (Wyn Mason o Gaerdydd) (gwyliwch y ffilm)

Rhagor...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig am 09:42 yb | Sylwadau (0)
Gwyl Sgrin Caerdydd

Tachwedd 14, 2005

The Puffy Chair (Jay Duplass, 2005)    ****

(IMDb)

Cread y brodyr Duplass yw'r ffilm hon, dau sydd heb wneud eu henw eto ond, ar dystiolaeth y ffilm hon, a ddylai wneud yn y dyfodol os oes cyfiawnder yn bodoli yn y byd. Mae'r ffilm yn olrhain Josh (Mark Duplass), ei gariad (Kathryn Aselton) a'i frawd Rhett (Rhett Wilkins), wrth iddynt deithio o Efrog Newydd i Atlanta i roi cadair i'w tad yn anrheg pen-blwydd. Ond mae'r ffilm yn llwyddo i bortreadu cymaint mwy.

Rhagor...
Postiwyd gan Geraint Criddle am 07:47 yh | Sylwadau (0)
Ffilmiau | Gwyl Sgrin Caerdydd

Cyfweliad â Dagur Kari yn yr Wyl Sgrin    

Dyma gyfweliad oddi ar wefan Gwyl Sgrin Caerdydd rhwng James Nee, un o gyd-drefnwyr yr Wyl (ac fy nghyd-wneuthurwr a chyfarwyddwr ar ffilm fer o'r enw "Y Fargen" fydd wedi'i gorffen yn fuan iawn! *plyg plyg*! sori!), a Dagur Kari, cyfarwyddwr y ffilm Dark Horse, sy'n dangos ar y 15fed am 7yh ac eto ar y 17eg am 5yh.

Roedd ffilm gyntaf Kari, Noi Albinoi, yn hit ar daith y gwyliau ffilm gan gymysgu comedi deadpan a swreal â chymeriadu hyfryd, dros sdori dwymgalon ond hynod drist - dwi'n edrych mlaen yn fawr i weld ei ail-gynnig...

Felly dyma gyfweliad y ddau:

Rhagor...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig am 03:02 yh | Sylwadau (0)
Gwyl Sgrin Caerdydd

The Devil and Daniel Johnston (Jeff Feuerzeig, 2005)    ****½

devil.jpg
(IMDb)

Premiere Cymraeg - Chapter 11.11.05

“There's certainly a devil, and he knows my name.”
(Daniel Johnston)

Do’n i erioed wedi clywed cerddoriaeth Johnston, na gweld ei gartwnau celfydd, ond o fewn funudau o gychwyn y ddogfen yma, ro’n i ysu i ddysgu mwy amdano, a sut y bu iddo fod mor agos, mor aml, at gyrraedd enwogrwydd a llwyddiant sylweddol cyn plymio i iselder manig a cholli’r trywydd.

Rhagor...
Postiwyd gan Mair Thomas am 09:42 yb | Sylwadau (0)
Ffilmiau

Y Lleill (Emyr Glyn Williams, 2005)    **½

y lleill.jpg
Premeiere Byd Eang - Chapter 10.11.05

Ymdrech cyntaf Emyr Glyn Williams i sgwennu, cyfarwyddo a chynhyrchu drama wreiddiol Cymraeg. Mae sefydlydd label Ankst ar dir cyffredin fodd bynnag, wrth ymhél a bywydau chwech o gerddorion ifanc, a’u perthynas bregus wrth i’w band, Y Lleill, nesáu at anterth eu hymosodiad byr ar y Sîn Roc Gymraeg.

Rhagor...
Postiwyd gan Mair Thomas am 09:38 yb | Sylwadau (3)
Ffilmiau

Tachwedd 13, 2005

Gary Slaymaker yn rhoi pryd o dafod i S4C    

Yn ystod y sesiwn holi ac ateb ar gyfer 'Caerdydd' ddoe, gwnaeth Gary Slaymaker, compere y sesiwn (a chompere Pictiwrs yn y Pyb yn y Cwps y mis hwn) yn siwr ei fod yn cael dweud ei ddweud wrth yr haid oedd wedi ymgynnull o S4C, y sianel a fydd yn darlledu cyfres newydd Ed Thomas. Yng nghanol y trafod, cofiodd ddiolch yn sarcastig i'r holl bobl na ddaeth i ddangosiad Y Lleill am "eich cefnogaeth i'r unig ffilm Gymraeg yn yr Wyl. Da iawn chi".

Afraid yw dweud mai tawedog oedd y gynulleidfa yn dilyn y sylw pigog.

Postiwyd gan Geraint Criddle am 04:08 yh | Sylwadau (2)
Gwyl Sgrin Caerdydd

Caerdydd (Ed Thomas, 2005)    

Neithiwr, bues i'n hobnobio (wel yn cwato yn y cefn) yn nangosiad swyddogol cyntaf o gyfres ddrama newydd S4C, 'Caerdydd'. Syniad y gyfres yw creu delwedd newydd, gyfoes o'n prifddinas, un sydd yn adlewyrchu'r newid yn ein cymdeithas, mewn modd y bu 'Dinas' yn gwneud gynt.

Rhagor...
Postiwyd gan Geraint Criddle am 04:03 yh | Sylwadau (0)
Gwyl Sgrin Caerdydd

Tachwedd 10, 2005

The Brothers Grimm (Terry Gilliam, 2005)    **½

(IMDb)

Mae ffilm ddiweddaraf Terry Gilliam yn ymwneud â’r frwydr gysyniadol rhwng rhesymeg Goleuedigaeth Ffrainc a hud a lledrith Rhamantiaeth yr Almaen, gyda’r Brodyr Grimm Jacob (Heath Ledger) a Will (Matt Damon) yn dioddef wrth law byddinoedd Ffrainc a oresgynnodd ran orllewinol yr Almaen yn ystod Rhyfel Napoleon. Caiff y ddau eu harbed rhag y gilotîn ar yr amod eu bod yn darganfod pam mae 10 merch wedi’u herwgipio mewn coedwig hynafol mewn pentref anghysbell.

Rhagor...
Postiwyd gan Geraint Criddle am 01:59 yh | Sylwadau (0)
Ffilmiau

eXTReMe Tracker