Discogs

Nid oes ar uffern...

Wedi dechrau wneud rhestr o fy recordiau i gyd ar discogs.com. Mae hyn yn mynd i gymryd sbel, ond efallai bydd yn arwain at dynnu fy hen gasgliad o senglau 7″ o’r to, a hyd yn oed y bocsys o gasetiau (er bod dim byd deca ’da fi i chwarae’e rheiny arno).

Bydd y bocs isod yn cael ei ddiweddaru wrth i mi fynd trwy’r casgliad. Dim ond rhyw 80 o bethau sy ’na wrth i mi sgwennu hyn, a rhoi’r ffidl yn y to am y diwrnod.

Alejandro Jones

Diolch i Carl am bwyntio ma’s bod un o sêr Separado!, y canwr Alejandro Jones, wedi ymddangos ar Morfablog pum mlynedd yn ôl, yn sgil y stori amdano gael ei rwystro rhag swyddogion mewnfudo wrth iddo ymweld â Chymru:

“I told them that I’d come to see the land of my ancestors, but they didn’t know anything about Wales’ links with Argentina. During the interrogation they asked me the same questions over and over again to see if I was lying.”

Diddorol bod y cysylltiad wedi dod i’r amlwg. Gwelais i’r ffilm yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni, ac mae’n hollol wych. Ar ôl y ffilm daeth Gruff Rhys a Dyl Goch i’r llwyfan i ateb cwestiynau’r cynulleidfa. Y cwestiwn cyntaf oedd gan ferch o Swydd Efrog:

Gruff, loved the film, and sorry if this is a stupid question from someone who knows very little about Welsh history, but isn’t the whole thing a hoax?

O ymateb y bobl eistedd o’m cwmpas i, nid hi oedd yr unig un yn y babell oedd wedi bod yn meddwl hyn.

Ateb Gruff?

Yes, we made it all up. We filmed the whole thing in Snowdonia. The only thing that really happened the way we show it was the teleportation scenes.

Seren.

Dw i’n mynd i weld y ffilm eto, mewn sinema gyda seddau go iawn, wythnos nesaf, ac edrych ymlaen yn arw at gael y DVD. Tybed a fydd cyfle ar hwnna i glywed hanes Alejandro a swyddogion mewnfudo Lloegr?

Dyma’r treilar eto, rhag ofn i chi beido gweld eto.

Gwaed ar yr Eira Gwyn

(Diolch i Dyl Mei am drydar hyn.)

Alun Tan Lan a Richard James yn canu clasur Tecwyn Ifan.

Dw i ddim yn gwybod amdanoch chi, ond ma’n well gen i’r fersiwn hwn, na’r gwreiddiol. A finnau’n Gymro ail-iaith, sy ddim wedi’i fagu ar ganu ysgafn Cymraeg y 60au a’r 70au, mae cerddoriaeth yr adeg yn gallu swnio’n hen ffasiwn iawn. Dw i’n methu gwrando ar Dafydd Iwan o gwbl, er enghraifft, ac er mor fawr fy edmygedd o Tecwyn Ifan, mae ei steil yntau yn rhy gapelaidd i fy nant i, a phrin iawn dw i’n gwrando arno. Mae’n cymryd rhywbeth fel yr ail-fersiwn hyfryd yma, wedi’i wneud gan ddau a gafodd eu magu ar ganeuon clasurol yr adeg (dw i’n cymryd) i wneud i fi weld pa mor wych yw’r gân.

Cymru yn y “Dead Zone”

Map Cymru yn y ffilm "The Dead Zone"

O’n i wedi anghofio am yr hen sgrîn-lun yma, wnes i dynnu wrth wylio’r ffilm David Cronenburg, The Dead Zone. Mae’r ffilm yn addasiad o’r nofel gan Stephen King, ac yn un o emau prin yr 80au. Byddwn i’n ei rhoi yn agosach at gopa rhestr addasiadau nofelau King na’r boi ’ma, yn sicr. Ymysg y tair uchaf, dwedwn i, er bod hi’n anodd gwahanaethu rhwng hon, The Shining a Stand By Me; ffilmiau mor wahanol i’w gilydd, a phob un yn glasur o’i math.

Ond mae’n amhosibl bod yn wrthrychol am y ffilm unwaith ti wedi sylwi bod cymeriad Christopher Walken â lliain sychu llestri Cymru ar wal ei fflat. Hoffwn i feddwl bod mam Johnny Smith (Walken) wedi bod draw i Gymru fach ar ei holidês rhywbryd, a dod â’r lliain iddo fel anrheg. Rhywle rhwng sylweddoli bod Martin Sheen yn mynd i ddinistrio’r byd, a phenderfynnu bod rhaid iddo farw, roedd rhaid i Johnny ffeindio pinnau bawd a hongian map bach kitsch o Gymru ar ei wal.

“Thanks, Mom.”

(Diolch i Carl am “ffefrynnu” y llun ar Flickr, a dod â’r atgoffion yn ôl.)

Llun Llangrannog a’r Comins Creadigol

Rhag ofn eich bod chi wedi colli’r ddolen iddo reit lawr ar waelod y blog, dyma’r llun o draeth Llangrannog sy bellach yn addurno’r hen flog, yn ei lawn ogoniant:

The annual Llangrannog beachorama / traethorama 2007

Mae’r llun gan papalamour, hen gyswllt i fi ar Flickr – mor hen, dw i ddim yn cofio’n iawn sut des i ar draws ei ffrwd, ond debyg taw trwy’i luniau gwych o Langrannog des i i nabod ei waith. Diolch iddo fe am gyhoeddi ei luniau dan drwydded Comins Creadigol, sy’n golygu bod unrhywun yn gallu eu hail-ddefynddio, ac hyd yn oed eu hail-ficsio nhw, cyhyd ag y rhoddir cydnabyddiaeth i waith gwreiddiol papalamour, a ddim yn wneud arian ma’s o’r gwaith newydd.

Tra bod ni ar y pwnc, mae Carl Morris wedi bod yn meddwl yn uchel am hawlfraint yn diweddar, ac yn y bôn dw i’n cytuno â fe. Wedi dweud hynny, dw i ddim yn cytuno bod angen sustem hawlfraint newydd i Gymru, a ddim yn gweld sut byddai hynny’n gweithio tra bod Cymru a Lloegr yn rhannu cyfundrefn cyfreithiol yn gyffredinol. Pan daw’r chwyldro gogoneddus, wrth gwrs, bydd popeth yn wahanol, ond tan hynny dylai fod yn ddigon i hybu defnydd o’r Comins Creadigol mor eang ag sy’n bosibl, yng Nghymru fel yng ngweddill y byd.

Bygythiad Tawelwch

Mi aethon ni i weld The Threat of Silence heno yn Theatr Mwldan. Mae’r sioe wedi’i datblygu ar y cyd gan y cyfarwyddwr Jill Greenhalgh (sy’n byw yn Llangrannog), yr awdur Margaret Cameron, y sielydd Nicola Thomas, yr artist fideo Zoe Christiansen, a’r “perfformwr”, Eddie Ladd. Mae rhaid cyfadde taw’r enw ola yna wnaeth fy nenu i’r perfformiad; byddwn i’n mynd i weld Eddie Ladd dawnsio’r llyfr ffôn, fel petai. Ond oedd y perfformiad cyfan yn wych, y gerddoriaeth, fideo, y geiriau a llais a symudiadau Eddie Ladd yn ymhlethu i wneud cyfanwaith cywrain a chyffrous.

Un peth wnaeth daro fi oedd bod teitl y darn yn uniaith Saesneg, ac er bod y testun sy’n ymddangos ar y sgrîn tu ôl i’r perfformwyr (o waith Margaret Cameron, o Awstralia) hefyd yn uniaith Saesneg, oedd Eddie Ladd yn adrodd, canu ac hyd yn oed ystumio y geiriau yn ddwyieithog, yn ei ffordd naturiol, hypnotig ei hunan. Pe tasai’r perfformiad wedi ei hysbysebu’n ddwyieithog, dw i’n siwr byddai Theatr Mwldan wedi gwerthu llawer mwy o docynnau. Er i mi weld sawl un dw i’n ei nabod o ardal Llangrannog, doedd dim llawer o Gymry Cymraeg yna o gwbl. Colled mawr.

Mae’r sioe yn teithio i Abertawe fory (10fed Medi), wedyn bydd yn Chapter, Caerdydd rhwng 23ain a’r 25ain o Fedi ac yn bennu yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, 27ain a 28ain o Fedi.

Blogsbam cyntaf yn yr heniaith

Newydd weld sylw sbamllyd ar hen flogiad sy wedi llwyddo dod trwy fy hidlau sbam gan ei fod yn Gymraeg. Dw i ddim cweit yn siwr beth yw ystyr

Ydych chi wedi bod yn twyllo wyneb i lawr

ond mae’n ddigon diddorol i gael aros yna.

Dw i’n gweld o Google bod martinbrooksdesk@gmail.com yn gwneud yr un peth ar flogiau mewn sawl iaith gwahanol, ond dydyn nhw ddim wedi gadael dolen i unrhyw wefan gyda’r sylw, felly dw i ddim yn siwr beth yw’r pwynt. Dw i’n gywbod mod i wedi dweud bod Google Translate yn mynd i newid y byd, ond do’n i ddim yn disgwyl hyn.

Ydy rhywun arall wedi cael hyn eto?

D.Gwalia – In Puget Sound

D.Gwalia - In Puget Sound. Clawr y CD.

D.Gwalia - In Puget Sound

Ces i CD D.Gwalia yn y post y bore ’ma, sy’n sleisen tywyll gwych o “gothig Rhydychen”, genre dw i newydd wneud i fyny. Er ei fod yn byw bellach ymysg tyrrau breudwyddiol y Sais, bachan o Odre Ceredigion ydyw D.

Mae’n disgrifio ei gerddoriaeth fel “Melodramatic Popular Song” ar ei dalen MySpace, ac mae drama yma yn y storiau mynegiadol, wedi’i lliwio gan offer acwstig hen ffasiwn. Dych chi bron â bod yn gallu aroglu’r llwch o’r harmoniwm mewn caneuon fel “And She Is”; dyma un o’r CDs mwya analog dw i wedi clywed ers meityn.

Mae adleisiau yma o Nick Cave a’r Red House Painters, ac hefyd efallai Rheinallt H. Rowlands, ac er bod ’na hiwmor yma hefyd, dyw e ddim ag ofn dweud stori drist mewn llais trist. Mae perygl yn y steil ’ma o gerddoriaeth o fod yn rhy po-faced, wrth gwrs, rhywbeth mae Nick Cave wedi gor-gompensêto amdano yn diweddar nes ei fod e bron yn hunan-barodi. Does dim sut ofn yng nghaneuon D.Gwalia – mae e’n cerdded y wifren uchel rhwng y Grand Guignol a’r pantomeim heb edrych i lawr.

Mae sawl cân ar gael ar sianel YouTube D.Gwalia, gan gynnwys fy ffefryn hyd yn hyn The Cruel Ship’s Captain, mae MP3 i’w lawrlwytho fan hyn, ac mae’r CD ei hun ar gael gan gysylltu â D.Gwalia trwy ei dudalen MySpace.

Hacio iTunes

Wedi lawrlwytho iTunes 10 neithiwr, do’n i ddim yn hapus i weld bod Ping yn ymddangos fel eicon di-angen yn y bar ochr. Yn ôl beth o’n i’n gallu ffeindio ar y we, yr unig ffordd i droi hyn bant yw i fynd i mewn i ddewisiadau “Rheoliaeth Rhieni” iTunes a datddewis “iTunes Store”. Felly dyna beth wnes i. Nawr dw i hyd yn oed yn llai tebyg i ddefynddio siop Apple i brynu MP3s.

Sori, Steve.

Tra mod i’n chwarae o gwmpas gyda iTunes, dw i wedi wneud bach o waith trosi ar y ffeil Localizable.strings, er mwyn cael rhyngwyneb (arwynebol) Cymraeg. Dw i ddim wedi mynd yn ddwfn iawn efo’r cyfieithiad, ond mae popeth dw i’n gweld fel arfer wedi’i drosi, sy’n ddigon da i fi.

Oedd ’na brosiect anffurfiol blynyddoedd yn ôl i leoli llawer o raglenni Apple i’r Gymraeg, ond dw i ddim yn cofio a gâth iTunes ei wneud amser hynny. Rhywun arall yn gybod?

(O.N. newydd sylwi mod i wedi camsillafu “Teclynnau” yn y trosiad. Y twpsyn.)

Pethau Bychain

Prin iawn bod chi ddim wedi clywed am hyn eto, ond mae’n ddiwrnod Pethau Bychain heddiw ’ma, ac mae’r rhithfro ar dân fel Ysgol Fomio Penyberth ers talwm. Yn anffodus, bydd rhaid i mi golli’r rhan fwya o’r miri wrth iddo ddigwydd, gan ein bod ni’n disgwyl ymwelwr arbennig yn y man, ond byddai’n trial dal i fyny nes ymlaen.

Dw i wedi dechrau blog bach ar yr ochr, sy jyst yn gasgliad (dyddiol? gawn ni weld) o gerddi dw i wedi dod ar eu traws ac yn hoffi am un rheswm neu’r llall.

Diwedd y Byd O’r Parsel Canol

Ddim yn siwr sut ydw i wedi colli hwn hyd yn hyn, ond mae’r blog O’r Parsel Canol yn edrych yn wych. Does dim amser ’da fi nawr i fynd trwy ei archif i gyd (dechreuwyd y blog ym mis Ebrill y llynedd) gan ein bod ni ar ein ffordd heddi i dreulio wythnos wlyb mewn pabell yn sir Faesyfed (syniad da ar y pryd). Ro’n i’n ddiolchgar iawn i weld bod Gwenddolen wedi postio manylion sioe Troedyrhiw Diwedd y Byd; gwelon ni hwn neithiwr yng Nghapel Crannog, ac roedd e’n fendigedig. Os cewch chi gyfle i weld un o’r perfformiadau sydd ar ôl, ewch, da chi.

Nos Sul, 11 Gorffennaf (7.30) – Capel Bethesda, Llanwrtyd, Sir Frycheiniog
Nos Fawrth, 13 Gorffennaf (8.00) – Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, Gwynedd
Nos Fercher, 14 Gorffennaf (7.30) – Capel Siloam, Cwmystwyth, Ceredigion
Nos Iau, 15 Gorffennaf (8.00) – Capel Trelech, Sir Gaerfyrddin
Nos Fercher, 28 Gorffennaf (7.30) – Capel Seion, Crymych, Sir Benfro

Pob tocyn: £4.00

Gan ein bod ni’n mynd i Bowys nawr, dw i’n meddwl am fynychu’r perfformiad nos Sul yn Llanwrtyd, er ei fod yn clasho gyda rownd derfynol Cwpan y Byd. Naill ai hwnna, neu’r un nos Fercher yng Nghwmystwyth. Yn bendant, mae’n rhywbeth sy’n werth ei weld mwy nag unwaith, os cewch chi gyfle.

Reit, bant â ni!

Separado!


(Gwyliwch y fersiwn fwy, mae’n lot well.)

Dw i’n edrych ymlaen yn arw at weld Separado!, ffilm gan Dylan Goch am ymdrechion Gruff Rhys i ganfod y cerddor o’r Wladfa, René Griffiths. Bydd ymddangosiad yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd, y lle delfrydol i weld ffilm ffordd seicadelig Gymreig, tybiwn i.

Mae rhifyn newydd Sight & Sound yn cynnwys adolygiad da o’r ffilm, sy’n ddiddorol o agored ynglyn ag anwybodaeth cyffredinol y Sais am hanes Cymru:

..the most striking (especially for anyone outside of Wales unaware of this particular historical byroad) is the sheer strangeness of Argentines named Griffiths or Jones dipping from Spanish into Welsh [..] Not knowing any better, one might be tempted to take this for an elaborately staged leg-pull..

Drueni am capsiwn y llun aeth gyda’r erthygl: Powys ranger: Gruff Rhys. Sdim ots bod Gruff ddim yn dod o Bowys, mae e’n Gymro, ac yn gwisgo helmed. Dim byd mawr, wrth gwrs, ond digon i gadw fi ar-dihun y bore ’ma am bump o’r gloch, ar ôl dihuno i fynd i’r tŷ bach.. Rant i flog arall, falle.

Anrhegion Annisgwyl

Mae rhywun, sa i’n gwybod pwy, wedi bod yn garedig iawn ac anfon tocyn Amazon ata i, ond heb gynnwys neges i ddweud pwy ydyn nhw.

Gan fy mod i’n methu peidio gwario pethau fel hyn yn syth, dw i wedi ordro The Harvest Years gan Shirley a Dolly Collins. Dw i wedi bod yn gwrando ar Anthems in Eden gan y chwiorydd yn diwetha, ac mae’r caneuon i gyd o’r albym prin yna ar y detholiad dw i wedi ordro.

Diolch yn fawr iawn, pwy bynnag yr wyt!

Golygwyd: Dyna siom. Daeth yr arian o Amazon eu hunain, wedi i fi gau cyfrif “associates” gyda nhw. Do’n i ddim wedi sylwi (a dw i’n synnu) bod unrhyw credyd i gael o fan ’na.

Ar fin cerddoriaeth fyrfyfyr

“On The Edge” oedd addasiad Channel 4 o lyfr gan y gitarydd byrfyfyr Derek Bailey. Dyma rhan un ohoni.

Mae Bailey yn enw dw i wedi bod yn hanner ymwybodol ohono ers sawl blwyddyn, ond dim ond nawr dw i wedi dechrau gwrando ar ei waith. Y peth wnaeth ysgogi fi yn y diwedd oedd clywed podlediad “Little Atoms” gyda’r beirniad David Stubbs. Mae agwedd iach iawn ’da Stubbs ar beth mae pobl yn meddwl amdani fel “cerddoriaeth anodd”. Y broblem yw, yn ôl Stubbs, bod pobl yn treulio gormod o amser ac egni ceisio deall cerddoriaeth arbrofiadol, yn lle ymddiried yn eu chwaeth a synhwyrau eu hunain, a neidio mewn.

Dw i wedi bod yn sblasho o gwmpas yn y pen bas ers blynyddoedd, heb adael i’r stwff dod yn uwch na’m pengliniau. Un o’r rhesymau dw i wedi mwynhau aduniad Van der Graaf Generator cymaint yw bod bob perfformiad yn wahanol, ac yn anrhagweladwy. Does gen i ddim diddordeb yn y byd gweld hen ddeinosoriaid prog fel Genesis neu Pink Floyd creu copiau carbon o ganeuon eu gogoniant, er mwyn topio lan eu pensiynau; dydy VdGG ddim yn penderfynnu ar eu set list mwy nag awr cyn iddyn ddod i’r llwyfan, ac hyd yn oed wedyn does neb yn gwybod beth yn union bydd yn digwydd. Er eu bod yn chwarae caneuon sgwennodd Hammill 40 mlynedd yn ôl, maen nhw’n llwyddo eu cadw yn ffres gan adael digon o le i’r band fyrfyfyrio (ai hwnna yw’r gair? swnio’n lletchwith i fi); pan mae hyn yn gweithio’n dda maen nhw’n creu swn fel dim byd dw i wedi clywed o’r blaen. Dyw e ddim yn gweithio bob tro, ac mae hynny’n rhan o’r cyffro.

Band “prog” arall dw i wedi ymddiddori ynddyn nhw’n fwyfwy yn y blynyddoedd diwetha yw Henry Cow. Roedden nhw’n ffito’r label “prog” yn llai cyfforddus na Van der Graaf hyd yn oed, ac oedd byrfyfyrio’n rhydd yn rhan anhepgor o’u perfformiadau. Ar drothwy un ymweliad â Norwy yn 1976, ffeindiodd y band eu bod nhw wedi colli un o’u haelodau, ac heb amser i ail-strwythuro caneuon sy ddim yn arbennig o syml yn y lle cyntaf, penderfynwyd mynd ymlaen gyda’r cyngerdd, i fyrfyfyrio y gerddoriaeth i gyd, ac i chwarae mewn tywyllwch llwyr. Duw a ŵyr beth wnaeth heads Trondeim o hyn, ond mae’r canlyniad ar gael ar CD erbyn hyn, ac mae’n fendiffycingedig.

Trwy gwrando ar Henry Cow, a dechrau dilyn gyrfaoedd sawl aelod (yn enwedig Fred Frith a Chris Cutler), dw i wedi dod, yn ara deg a fesul tipyn, i wlad y byrfyfyrwyr pur, fel Derek Bailey. Heno ’ma, gwrando ar ei Pieces For Guitar ar yr iPod wrth gerdded adre, wnes i sylweddoli taw dyma’r gerddoriaeth orau yn y byd. *

Wrth Gwglo am fwy o stwff gan Bailey i gadw fi fynd nes bod CDs yn dechrau cyrraedd, ffeindiais i’r ffilm uchod. Bailey yw cyflwynydd y rhaglen, sy’n edrych ar hanes byrfyfyrio mewn bob steil o gerddoriaeth, o Mozart i John Zorn. Mae’r ffilm yn awr o hyd, yn rhan un o bedair (dim ond un rhan arall dw i wedi ffeindio hyd yn hyn), ac am wn i, dyw e ddim ar gael ar DVD neu VHS. Mae’n anhygoel meddwl bod llai nag ugain mlynedd wedi pasio ers i Channel 4 gomisiynu’r cyfres yma, a’r sefyllfa sydd ohoni nawr, lle mae gwaelod y barel yn cael ei grafu am yr unfed tro ar ddeg. Yr unig lle fyddai rhywbeth fel On the Edge yn cael ei ddangos nawr yw ar BBC4, ond hyd yn oed wedyn, prin iawn byddai’r Yentobistas â digon o geilliau i wneud 4 awr ar gerddoriaeth fel hyn.

* Ymwadiad: mae’n hollol bosibl taw Pintsize sy’n iawn ynglŷn â cherddoriaeth orau’r byd, a dw i’n twyllo fy hunan fan hyn. Amser a ddengys, if we’re spared.

Yr Hen Amerig Ryfedd

'harry smith gets props' gan pheezy ar flickr

Llun gan pheezy ar Flickr

Mae Old, Weird America yn flog MP3 sy’n teithio trwy hanes cerddoriaeth draddodiadol gogledd America, gan ddefynddio blodeugerdd Harry Smith fel map. Mae pob cofnod ar y blog yn tarddu o un trac ar yr Anthology, gan ddechrau gyda “Henry Lee” gan Dick Justice. Mae 80 cân yn y set, ac mae’r blog wedi cyrraedd rhif #36, felly mae bron yn hanner ffordd trwy’r daith. Mae pob cofnod yn dod â llwyth o MP3au sy’n ymwneud â’r gân dan sylw (14 fersiwn o “Henry Lee” yn y cofnod cyntaf; 25 cân am gŵn o’r enw “Blue” yn yr un diweddaraf), a phob math o drysor digidol arall.