
Dod adre o gyfarfod staff neithiwr, a thrafod sustem gwres ein cyd-diwtor a rhoddwr-lifft, Richard Vale, sef “pwmp gwres o’r awyr”, rhywbeth do’n i ddim wedi clywed amdano o’r blaen.
Yn y bôn, mae’n gweithio fel oergell, ond y ffordd arall rownd; mae’n tynnu gwres o’r awyr tu allan, ac yn ei ail-ddosbarthu yn y tŷ. Yn ôl Richard, mae’r sustem yn gweithio mewn tymheredd mor isel â -15° Celsius. Hynny yw, yn y tywydd oer ofnadwy cawson ni adeg y Dolig, roedd sustem Richard yn twymo ei dŷ gan dynnu gwres o’r awyr tu allan – awyr oedd yn oerach na’r awyr wedi bod yng Nghymru ers meityn.
Nawr, ro’n i wedi blino ar ôl holl gyffro’r cyfarfod staff, wrth reswm, felly do’n i ddim yn dweud beth oedd yn fy meddwl, rhag ofn mod i’n swnio’n dwp: sut yn y byd mae rhywbeth yn gallu sugno gwres ma’s o awyr sy 15 gradd o dan y rhewbwynt?
A dim ond y bore ’ma ydw i’n sylweddoli pa mor dwp fyddai’r cwestiwn yna. Dydy’r ffaith bod dŵr yn rhewi ddim yn golygu bod dim gwres yn yr awyr, dim ond bod dim digon i gadw dŵr mewn ffurf hylifol. Yn fy meddwl bach i, mae “minws pymtheg gradd” yn golygu un deg pump gradd o oerfel, yn hytrach nag 258 gradd o wres.
Felly, yn hytrach nag edrych yn dwp o flaen Richard a Philippa, dw i wedi sgwennu blogiad amdano. Lwcus bod dim sut peth â thwpdra absoliwt.