Pwy fydd yn meddwl am y plant?

Newydd gweld hwn ar Golwg360, am y poster diweddaraf gan Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain.

Mae’r posteri’n dangos plant yn sefyll o flaen y neges, gyda disgrifiadau amdanyn nhw – “Plentyn Catholig, Plentyn Protestannaidd, Plentyn Mwslim, Plentyn Hindŵ a Phlentyn Sikh”.

Er bod y llun ar wefan Golwg ddim yn ddigon o seis i’w ddarllen yn hawdd, mae’r poster hefyd yn cynnwys y disgrifiadau eraill, megis Plentyn Dyneiddaidd, Plentyn Anffyddiol, a fy ffefryn i, Plentyn Ôl-Fodernaidd.

Does dim sôn am y rhain yn yr erthygl, sy’n ddiddorol ynddo ei hunan.

3mx12m_w565

Dw i’n methu’n lân gweithio ma’s beth sy’n wneud y poster yma yn “beryg i blant”, chwedl Linda Morgan, cynghorydd Dinas Caerdydd. Dyw’r poster ddim yn sôn am beidio dysgu plant am grefydd, na ddim hyd yn oed am fynd â nhw at eglwys neu fosg, dim ond i beidio eu labeli cyn iddyn nhw gyrraedd oedran pan allen nhw ddewis eu labeli eu hunain.

Ond mae newyddion da i gael, hefyd:

Er ei bod yn cydnabod bod gan Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain “yr hawl i gyfathrebu neges o’r fath” doedd y cynghorydd, Linda Morgan, sy’n Gristion a Cheidwadwr, ddim yn licio’r syniad, meddai.

Dw i’n falch gweld nag yw Cyng. Morgan yn meddwl bod dim hawl i Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain godi’r fath bosteri achos byddai dweud rhywbeth fel hynny yn ffasgaidd. Felly, diolch am beidio bod yn ffasgydd, Linda. Mae hynny’n golygu llawer. Ond mae hefyd yn ddiddorol gweld bod chi’n eistedd ar Cyngor Sefydlog Ymgynghorol dros Addysg Grefyddol yn y Brifddinas. Does bosib bod eich safbwynt ar bosteri’r Dyneiddwyr wedi’i liwio gan eu hymgyrch ehangach yn erbyn ysgolion ffydd?

Posted in Newyddion | Tagged , | 5 Comments
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

Hen Bysgodyn

Syndod i weld Morfablog mewn rhestr o 10 Blog “Amatur” Gorau ar wefan Golwg360. Ddim yn siwr beth dw i wedi wneud i haeddu’r fath sylw. Fel mae’r erthygl yn awgrymu, prif nodwedd Morfablog yn diweddar yw fy mod i’n sôn byth a beunydd am roi’r gorau i’r blogio yn gyfan gwbl.

Mae Carl yn tynnu sylw at y gair “amatur” yn y darn. Ond fel dwedais i yn mewn sylw ar yr un cofnod, mae’n fwriad gen i i beidio bod mor negyddol trwy’r amser, felly dw i am gofleidio’r anrhydedd â chalon agored, a dechrau gweithio ar strategaeth i adael i fi oddiweddyd Dogfael a Rhys erbyn Nadolig. Bydd pasio gîcs Metastwnsh yn hawdd wedyn. Byddan nhw i gyd yn rhy fishi chwarae gyda’r teclynnau newydd mae Siôn Corn wedi stwffio yn eu sanau i sylwi bod yr hen bysgodyn am godi eto.

Bwahaha!

Posted in Blogio a'r We, Morfablog | Tagged | 4 Comments
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

Dal Dim Gair

Mae dros 6 blynedd ers i mi sgwennu cofnod yma a oedd yn dwyn y teitl Dim Gair Diolch. Cwyno o’n i yn y cofnod hwnna bod pobl yn tueddu anfon dogfennau MS Word fel atodiadau, heb feddwl a fyddai’r bobl oedd yn eu derbyn yn gallu eu hagor, ac heb boeni chwaith am yr amser sy’n cael ei wastraffu yn y broses. Soniais i yn 2003 am yr ymgyrch yn erbyn atodiadau MS Word; dw i’n falch o weld bod y wefan yna dal yn bodoli, ond prin iawn bod ei neges wedi lledu yn bell.

Ces i ebost neithiwr oedd yn cario atodiad 560KB Microsoft Word.

Am hwyl, ar ôl i mi lawrlytho’r peth, a’i agor yn Google docs, wnes i copi a gludo’r testun mewn i Textedit, i weld faint o wybodaeth defnyddiol oedd wedi’i gynnwys yn yr hanner megabeit yna.

4KB.

Read More »

Posted in Blogio a'r We, Morfablog, Technoleg | Tagged , , | 4 Comments
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

Bica’n Codi

Bica

Llun gwreiddiol gan papalamour ar Flickr, wedi’i cymesureddo ar Llangrannog Symmetry.

Posted in Blogio a'r We | 1 Comment
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

Taith Pen Dinas gan Carol

[Blogiad gwadd gan Carol Holloway, dysgwraig yn fy nosbarth Pellach yn Aberteifi. Mae fy sylwadau i ar y daith fan hyn. Diolch yn fawr i Carol am hyn.]

Cwrddon ni ym maes parcio Pwll Gwaelod. Roedd pymtheg ohonon ni, dysgwyr Cymraeg, pobl sy’n rhugl neu bron yn, a phobl sy’n siarad Cymraeg yn naturiol.

Roedd y cynllun i gerdded o gwmpas Pen Dinas mewn cylch gan arweinydd Mark Ellis-Jones. “Dyw e ddim yn ras,” meddai fe; dechrau da.

Dw i wedi ffeindio’r ffordd i fyny Pen Dinas yn eitha serth yn y gorffennol, ond doedd dim problem o gwbl amser hyn! Roedden ni mor brysur siarad gyda’n gilydd, yn Gymraeg wrth gwrs, ac yn mwynhau yr amgylchoedd yn yr awyr adfywiol.

Ar y ffordd i fyny

Cymeron ni doriad fach pan cyrhaeddon ni gopa Pen Dinas. Roedd y golygfa yn wych i’r gogledd, o Drefdraeth ac o Garningli, ac i’r de, o’r fferi Abergwaun i Roslair. Doeddwn i ddim yn gallu gweld y goleudy ar Ben-Caer (Strumble Head) ond dysges i y gair! (Dysges i “adfywiol”, “yn yr hwyr” a “hyd yn hyn” hefyd.)

Criw llawn, gan Howard

Cyrhaeddon ni Gwm yr Eglwys tua chwarter wedi canol dydd. Roedd y lle bach yn gysgodol a’r tywydd yn braf iawn. Mae tipyn bach o hanes yno, dim ond un mur o’r eglwys yn sefyll y dyddiau yma. Roedd barddoniaeth am Gwm yr Eglwys gyda Philippa, gan gynnwys cerddi gan Waldo Williams a Gwenallt.

Eglwys Brynach Wyddel

Roedd y ffordd yn ôl i’r maes parcio yn hawdd ar y llwybr lefel sy’n mynd yn y bwlch rhwng Pen Dinas a Chroes Dinas. Wedyn roedd cyfle am fwy o glonc yn y “Sailors Rest”.

Yn bendant, roedd popeth yn llwyddiannus iawn. Diolch yn fawr i Mark, ac i Dyfed, Siân, Howard a Philippa am y gwaith trefnu.

Posted in Crwydro | Tagged , , , | 1 Comment
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

Dim Ffineg plîs, Ffinwyr ydyn ni

Fel mae bob dysgwr a chyn-ddysgwr Cymraeg yn gwybod, un o broblemau mwya am ddysgu’r iaith, yn waeth na’r treigladau, y berfau afreolaidd na’r prinder o gerddoriaeth dda ar y radio, yw’r ffaith bod pob Cymro/Cymraeg yn gallu siarad Saesneg. Mae rhaid i’r dysgwr bod yn groendew weithiau a mynnu siarad Cymraeg gyda Chymro sy’n ymateb yn Saesneg.

Nid problem Cymru yn unig yw hon, mae’n debyg:

Something unusual happened to me yesterday — somebody refused to speak to me in English. In Helsinki. They were under 70 years of age and over 7, stone-cold sober and very polite. And I am very grateful to them.

[..]

Having begun speaking in Finnish and soon running out of the vocabulary to describe this unfortunate turn of events, I politely asked the librarian if he spoke English. It’s a kind of non-question that I use by way of a polite request which is invariably answered in English in the affirmative. But to my surprise, the man said, in Finnish, “I speak English badly and you speak Finnish so we can talk in Finnish.” This I could hardly deny and even the recognition that I could speak Finnish at all I took as a huge compliment.

Dw i dal yn cofio’r tro cyntaf i rywbeth fel hyn ddigwydd i fi, yn siop Oriel, ble o’n i’n gweithio amser o’n i’n dysgu’r Gymraeg. Ro’n i’n gweithio tu ôl i’t til, cyfro amser cinio, siwr o fod (do’n nhw ddim yn ddigon ff⊚l i fy ngadael i ma’s ar lawr y siop fel arfer) pan daeth cwsmer ata i a gofyn am rywbeth yn Gymraeg. Er mod i wedi dechrau’r sgwrs yn Gymraeg, oedd y peth oedd e’n gofyn amdano tipyn bach tu hwnt i fy sgilau ieithyddol, a des at at ffwl stop. “Mae’n flin ’da fi,” dwedais i, “dw i’n dysgu Cymraeg, a dw i ddim yn deall beth dych chi moyn. Allwch chi esbonio yn Saesneg?”

“Popeth yn iawn,” daeth yr ateb, “wna i drial eto yn y Gymraeg. Mae dysgu Cymraeg yn fwy pwysig na phrynu llyfrau’n glou.”

Roedd hyn yn wers a arhosodd gyda fi, a dw i’n cicio fy hunan bob tro dw i’n dal fy hun siarad Saesneg â rhywun sy wedi mynd ati i ddysgu’r Gymraeg.

(Diolch i Wil James am y ddolen!)


Mae ochr arall i’r ceiniog ieithyddol yn y Ffindir, hefyd. Er mod i wedi clywed am Svenskfinland, do’n i ddim yn gwybod bod y sefyllfa rhwng grwpiau ieithyddol yna mor fregus ei fod yn beryglus siarad Swedeg weithiau.

An 18-year-old woman was assaulted on Wednesday evening by a pair of Finnish-speakers because she was speaking Swedish. The incident happened in at restaurant Amarillo in Åbo-Turku.

According to the police, such incidents are very unusual and this is an individual occurance. However, the chairman of the student union at Åbo Akademi, Finland’s largest Swedish-speaking university which is based in the city, said that he is aware of violence occuring against people just because they speak Swedish.

Dylai’r ferch fod wedi siarad Saesneg. Llawer saffach.

Posted in Iaith | Tagged , , , | 3 Comments
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

Agenda Cudd

Pan fues i yng Nghaergrawnt wythnos o’r blaen, prynais i gopi o’r gylchgrawn Agenda, gan fod rhifyn “Cymreig” arbennig oedd e, gyda traethawd ar David Jones, a cherddi gan Mererid Hopwood, Gwyneth Lewis, Tony Conran, a llawer mwy.

Dw i ddim wedi darllen hanner ohono fe eto, ond nawr dw i’n gweld bod atodiad arlein ar gael, sy’n cynnwys cerddi gan Sheena Pugh, Tony Conran, Damian Walford Davies a mwy, a lluniau gan Mary Lloyd Jones a Nancy Wynne-Jones.

Hefyd mae’r portread gwych isod o Tony Conran. Sdim sôn am y ffotograffydd yn anffodus.

Tony Conran

Tony Conran

Posted in Celf, Llyfrau | Leave a comment
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

Land of Dope and Stories

Braf i weld, o’r No Good Boyo, bod criw o Gyfeillion Bryn y Briallu am ryddhau eu bro o ddylanwad drwg Ein Prif Pen Pabi, yr hen Iolo Morgannwg. Fel y wyddoch, siwr o fod, mae cofeb i’r sgamster mawr wedi’i ddadorchuddio ar y bryn blodeuog yn Llundain yn diweddar. Dyw’r Cyfeillion ddim yn hapus:

Friends chairman Malcolm Kafetz said: “The man in question, Edward Williams, otherwise known as Iolo Morganwg, had an extraordinary and interesting but not necessarily praiseworthy life. He had a bookshop, wrote poems and folk songs and discovered a series of influential medieval chronicles. It was only after some 100 years that these were discovered to be forgeries. The Friends do not want monuments on the Hill, but particularly not this one.

“This chap was bankrupt and a forger. A bloody criminal. This plaque has just appeared out of nowhere. It is a diabolical cheek.”

Yn gwmws.

I ddangos fy undod gyda Chyfeillion y Briallu, os byddan nhw’n llwyddiannus yn eu hymdrechion i gadw’r bryn yn lân o gofebion i Gymry amheus, fe wnaf i fy ngorau glas i gael gwared â’r llechen i Edward Elgar ar wal yr ardd gymunedol yn Llangrannog. Dw i’n gwybod bod Elgar yn gyfansoddwr gwych, ond mae rhaid cofio ei fod e hefyd yn “ardent Wolverhampton Wanderers fan” ac yn “keen amateur chemist”.

Na fydd unrhyw cysylltiad rhwng fy ymgyrch yn erbyn y llechen a’r ffaith bod Elgar yn Sais ac yn gyfrifol am un o gonglfeini mwya cenedlaetholdeb ei wlad. Dw i’n derbyn bod Elgar yn bwysig i Saeson diwylliedig, ac i’r rhai sy’n mynd i Noson Olaf y Poms hefyd, ond does dim ots ’da fi. Os nag oes lle i Iolo ar Fryn y Briallu, fydd dim lle i Elgar wrth ymyl Rhaeadr y Gerwn. Os nag yw safle geni Gorsedd y Beirdd yn werth ei gofnodi, mae’n anodd gweld sut i gyfiawnhau “Elgar came here once on his holidays” fel sail cofeb barhaol.

Beth amdani, Gyfeillion? Fancy a bit of mutual cultural cleansing?

Cofeb i Iolo Morgannwg, yn Llundain

Cofeb i Iolo Morgannwg, yn Llundain


Cofeb i Edward Elgar, yn Llangrannog

Cofeb i Edward Elgar, yn Llangrannog

Dylwn i wneud yn glir, gan fy mod i ddim mor fedrus â’r brwsh direidi a’r Boio, mod i ddim o ddifri am dynnu’r llechen i Elgar. Er mod i’n cofio bod bach yn bemused pan clywais i am y cynllun gwreiddiol, dw i’n derbyn bod Elgar yn artist mawr, ac nid dim ond yn llygaid Lloegr chwaith. (Dw i’n eitha hoff o’i Cello Concerto fy hunan.) A bod yn onest, mae’r plac i Dylan Thomas ar y Pentre Arms yn fy moddran i llawer mwy, gan fod y dafarn yna yn lleoliad o bwysigrwydd diwylliannol go iawn, ond gan fod mwy o dwristiaid wedi clywed am Dylan nac am Fois y Cilie, well i mi beidio wneud gormod o ffws am hwnna chwaith.

Posted in Hanes, Newyddion | Tagged , , , | 2 Comments
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

Pwll Gwaelod ac Eglwys Brynach Wyddel

Mae grwp cerdded newydd yn ardal Aberteifi, sef Cerddwyr Cylch Teifi, sy wedi tyfu ma’s o’r grwp oedd Aled yn ei drefnu nes iddo adael ei swydd gyda’r Bwrdd yn Aberteifi.

Philippa yw un o’r trefnwyr y grwp newydd, sy’n golygu bod ‘na fwy o reswm nag arfer i fi fynychu’r teithiau. Dw i wastad yn mwynhau pan dw i’n mynd, ond dw i’n ddiog tu hwnt. Peth da, felly, bod Philippa wedi ymuno â’r pwyllgor.

Ddoe oedd y daith gyntaf yn y tymor newydd, ac aethon ni i Bwllgwaelod, ar bwys pentre Dinas yn Sir Benfro. Aethon ni i fyny ac o gwmpas Pen Dinas, lawr i Gwm yr Eglwys ac yn ôl i’r dafarn fach ym Mhwllgwaelod. Mae mwy o luniau ar fy nhudalen Flickr.

Ar y ffordd i fyny

Criw llawn, gan Howard

Eglwys Brynach Wyddel

Am y daith nesa, byddwn ni’n ymuno â chriw Cymdeithas Edward Llwyd ar y 24ain o Hydref, i grwydro ardal Tre-Saith a Phenbryn. Manylion yn y rhaglen.

Posted in Crwydro | Tagged , , | 2 Comments
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

Bookmarkify

Newydd ychwanegu Bookmarkify, a gyda cryn dipyn o drafferth, wedi llwyddo ei gyfieithu, ac i’w gael yn y lle iawn. Wnaeth e gymryd rhyw awr i fi ffeindio’r ffeil cywir yn Thematic i’w olygu er mwyn ychwanegu’r teclyn ble dw i moyn e. Y pethau dyn ni’n wneud.

Mae’r teclyn yn dod â rhestr o dros 50 o safleoedd rhwydweithio cymunedol a bookmarcio ac ati; y rhan fwya ohonyn nhw dw i ddim wedi clywed amdanyn nhw o gwbl. Felly dw i ond wedi cynnwys saith hyd yn hyn, ac un sy’n gadael i chi hala linc mewn ebost yn hawdd (ddim bod copio a gludo linc o’r we mewn i ebost yn ormod i ddarllenwyr annwyl Morfablog, wrth gwrs).

Oes ‘na wasanaethau dw i ddim wedi eu cynnwys, oherwydd fy niglem-rwydd, sy’n anhepgor i syrffwyr ymyl don gwaedlyd y we yn yr unfed ganrif ar hugain*? Oes ‘na unrhywun sy’n darllen Morfablog sy’n ysu rhannu fy mherlau gyda darllenwyr Fark, er enghraifft? Fel y hwren yr ydwyf, dw i moyn wneud e mor hawdd ag sy’n bosibl i chi hybu fy mlog dros y we i gyd.

Oherwydd ei fod mor bwysig, dych chi’n gweld?

* Sori, ond pan dw i’n cymysgu fy metafforau, maen nhw’n aros yn gymysglyd.

Posted in Blogio a'r We, Morfablog | Tagged , , | Leave a comment
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]
  • Now Available in the Language of Your Choice (More or Less)

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar