Five Easy Pieces (Bob Rafelson, 1970). Un o'm hoff ffilmiau o'r adeg aur ffilm Americanaidd. Roedd y DVD braidd yn siomedig, gyda dim byd arno fe ond y ffilm a "Talent Bios" am Nicholson, Black a Rafelson.
Prynais i siaced newydd heddi, sy'n edrych fel yr un mae Nicholson yn gwisgo yn y ffilm.
Ydw, dw i yn mor drist â hynny.
Sgript gwreiddiol y ffilm sy'n rhoi llawer mwy o gefndir cymeriad Nicholson nag sydd yn y ffilm fel y mae.

Bande à part (Jean-Luc Godard, 1964). Tro cynta i mi weld ffilm Godard, am wn i. Dyna un o'r pethau gwych am ffilmiau, mae wastad rhywun mawr i'w ddanganfod am y tro cyntaf. Diolch i'r drefn am DVDs!
Mae'r ffilm yn fendigedig, wrth gwrs, gyda chymaint o golygfeydd clasurol ro'n i'n teimlo fy mod i'n nabod y ffilm er i mi fod yn siwr dw i erioed wedi ei gweld o'r blaen.
Mae DVD yn llawn o bethau ychwanegol da hefyd, gan gynnwys "A-Z of Bande à part", rhyw 50 o glipiau o'r ffilm gyda sylwadau rhyw foi, a chyfweliadau â phobl fel Anna Karina, Hal Hartley (a wnaeth ail-wneud yr olygfa enwog Madison, i gerddoriaeth Sonic Youth, yn ei ffilm Simple Men), a Quentin Tarantino (a wnaeth "benthyg" steil yr olygfa yn Pulp Fiction).
Dyma erthygl ar ddylanwad Bande à Part o'r BFi. Llawer mwy yma.
Dolls (Takeshi Kitano, 2002). Wedi bod yn aros am hon ers i mi ymuno â Movietrac. Ffilm fach od, ac annhebyg iawn i bethau Beat Takeshi eraill dw i wedi gweld. Mae'n bert ofnadwy, ac yn araf, ac yn drist, heb fod yn ddiflas o gwbl. Rhaid cytuno â phenderfyniad Kitano i beidio castio ei hunan fel yr hen Yakuza (gormod o baggage). Amser i mi ail-wylio mwy o'i ffilmiau.
Wyt ti'n lico ffilmiau Takeshi, Nwdls (dw i'n cymryd taw ti yw'r unig person sy'n darllen hyn).
His Girl Friday (Howard Hawks, 1940). Clasur, wrth gwrs. Hoff ffilm fy nghyn-wraig. Prin iawn mae comediau modern yn dod yn agos at hon (y ffilm, nid y gyn-wraig).
Le Peuple Migrateur (Jacques Cluzaud, Michel Debats a mwy, 2001). Ffilm hyfryd sy'n dilyn adar dros y byd. Cerddoriaeth gwych hefyd, gyda caneuon gan Robert Wyatt, Nick Cave ac eraill.
Erthygl Warren Oates yng nghylchgrawn Razor, ar safle ardderchog Ted Strong.
Mae rhestr Yahoo Warren Oates yn fwyiog iawn ar hyn o bryd. Mae rhywun newydd bostio MP3 o'r trac "United States of Warren Oates" gan Dave Graney and the Coral Snakes.
My Life Without Me (Isabel Coixet, 2003). O, wych, ffilm am ferch sy'n marw o canser. Just what the doctor ordered.
Na, roedd hon yn ffilm hyfryd, ddim yn maudlin o gwbl, actorion da i gyd, hyd yn oed y plant. Mae'r ferch 'na o Pulp Fiction a Henry and June braidd yn irritating, ond oedd hi'n chwarae rôl jôc yn hon, felly popeth yn iawn.
Dal: Yma/Nawr (Marc Evans, 2003). Tro cyntaf i mi flogio ffilm sy ddim yng nghronfa ddata IMDb. Tro cyntaf i mi flogio Ffilm Gymraeg ei hiaith. Tro cyntaf i mi weld ffilm Gymraeg ei hiaith sy'n werth blogio amdani.
Ffilm wych. Cer i weld hi nawr. Mae T.Llew Jones ynddi.
A John Cale.
Ro'n i'n joio popeth amdani, o'r ffaith nad oedd yr un actor o Bobol y Cwm ynddi (wel, mae'n debyg bod Rhys Ifans wedi wneud, ond ti'n gwybod beth sydd 'da fi), i'r darn gyda Ioan Gruffudd a Matthews Rhys yn eistedd ar draeth rhywle yn America yn darllen geiriau Dafydd ap Gwilym, mwy camp na maes yr ieuenctid.
Oes trac sain ar gael?
Talaye sorkh (Jafar Panahi, 2003). Rhaid mod i'n colli rhywbeth yma, achos ro'n i'n meddwl taw hon oedd y ffilm mwya diflas dw i wedi gweld ers sbel. Oedd cwpl o bethau da, fel yr olygfa pan oedd Hussain yn rhannu pizza gyda'r milwyr, a phan oedd e'n cerdded o gwmpas y fflat moethus, ond... Na, sori.
24 Hour Party People (Michael Winterbottom, 2002). Bach yn siomedig. Mae Coogan yn dda iawn fel Tony Wilson, ond y peth mwya twatlyd amdano yw ei fod yn meddwl bod Shawn Ryder yn athrylith. "A better poet than Yeats." Mmm.
Drum (Steve Carver a Burt Kennedy, 1976). Rhentais i hwn achos bod Warren Oates ynddi, ond nid hyd yn oed ynteu yn gallu arbed hon. Ych a fi.
Nostalghia.com - gwefan gwybodaeth Tarkovsky.
Nostalghia (Andrei Tarkovsky, 1983). Ai hon yw'r ffilm mwya prydferth dw i wedi ei gweld erioed? Anhygoel. Amser i newid trefn fy rhestr ffilmiau gyda Movietrak a Lovefilm i gael gweld mwy o Tarkovsky cyn gynted â phosib - Solaris yw'r unig un dw i wedi gweld o'r blaen, a doedd honna ddim yn fy nharo cymaint â hon.
Tuscany Tarkovsky - rhai o'r lleoliadau defnyddwyd yn y ffilm.
In the Cut (Jane Campion, 2003). Ffilm gynta yng Ngwyl Ffilm Theatr Mwldan, ac un gref iawn i ddechrau. Ffilm ddewr iawn i Meg Ryan fod ynddi, gan ei bod hi'n dangos llawer mwy o'i hunan (mewn mwy nag un ystyr) nag ydyn ni'n disgwyl o seren ffilmie fel When Harry Met Sally a Sleepless in Seattle. Ffilm a fydd yn werth gweld eto. Ddim yn gallu dweud hynny am lawer o'r ffilmiau sy wedi'u wneud yn America yn ddiweddar.
Score, baby - traciau sain grwflyd o'r 60au a'r 70au. Gyda samplau MP3, ond ddim yr holl draciau, yn anffodus.
Dw i wedi ymuno â LOVEFiLM.com fel arbrawf, gan ddefnyddio cynnig arbennig oddi wrth Freeserve (mis am ddim). Mae eu rhestr nhw yn ehangach na'r un Movietrak, a'r wefan yn llawer haws i'w ddefnyddio, felly os ydy popeth arall yn iawn, tebyg y bydda i'n newid i hyn fel fy mhrif ffynhonell am dvds i'w rhentu.
Cockfighter (Monte Hellman, 1974). Dyma tro cyntaf i mi weld hon ar y teledu. Prynais i'r dvd (wedi'i fewnforio o Sbaen) ar eBay y llynedd, a dw i weld ei gwylio ar y Macafal, ond mae'n llawer well ar sgrin mwy o seis.
Mae'n amlwg y bydd unrhyw ffilm ar bwnc mor ddadleuol yn peri amheuaeth yn y gwyliwr. Fyddai hon ddim yn cael ei wneud y dyddiau 'ma, a pheth da yw hynny. Ond wedi dweud dweud hynny, ac er y creulondeb sydd ynddi, dw i'n meddwl bod y ffilm 'ma y peth nesa i berffaith. Sy'n fy mhoeni i. Sut alla i fod mor hoff o ffilm am ladd anifeiliaid am hwyl? Anhebyg iawn fyddwn i'n moli ffilm am hela cadno â chwn, felly pam ydw i'n gallu canu clod ffilm am geiliogod talwrn?
Wn i ddim. Rhaid meddwl mwy am hyn.
Gweler yr erthygl hon am fwy am sinematograffi Cockfighter, a wnaethpwyd gan Néstor Almendros.
Nodiadau ar y ffilm gan Hellman, Corman a Joe Dante.
Cockfighter gan Charles Willeford, y llyfr a oedd sail y ffilm.
Adolygiad o'r DVD Americanaidd (nid yr un sy 'da fi, sydd heb unrhyw un o'r pethau ychwanegol - amser i wastraffu mwy o arian ar eBay?) sy'n cynnwys lluniau o'r ffilm.
Rules of Attraction, The (Roger Avary, 2002). Hnn. Stori arall gan Brett Easton Ellis am bobl hunanol bod yn gas wrth ei gilydd.
Dw i wedi blogio hyn draw ar yr briflog, ond mae rhestr o ffilmiau obscure ar Ask Mefi yn wych, os dych chi'n edrych am rywbeth oddiarffordd.
A Short Website About Kieslowski - gyda bywgraffiad byr, lluniau ac ati.
Am rywbeth mwy dwfn, dyma broffeil gan Senses of Cinema, o'u cyfres Great Directors.
Z punktu widzenia nocnego portiera (Krzysztof Kieslowski, 1978) - ffilm fer ar y DVD Ffilm Fach am Ladd. Yn ôl y IMDb, mae hon yn ffilm ddogfennol, ond sa i'n credu 'ny. Oeraidd iawn. Y ffilm gynharaf gan Kieslowski dw i wedi ei gweld hyd yn hyn.
Mae DVD hwn yn llawer well yn nhermau pethau ychwanegol na'r rhai Dekalog. Mae cyflweliad â Slavomir Idziak, sinematograffwr ar Ffilm Fach.. yn werth ei weld.
Solaris (Steven Soderbergh, 2002). Ddim cystal ag o'n i'n cofio o'i gweld yn y sinema y llynedd, yn bosib achos bod cymeriad Rheya yn fy atgoffa i o rywun, a dw i'n meddwl y byddai Clooney yn well off gyda Viola Davis. Mae'r Davies arall yn y ffilm, Jeremy, yn anhygoel, y perfformiad mwya llawn ticiau ers Brad Pitt yn 12 Monkeys.
Krótki film o zabijaniu (Krzysztof Kieslowski, 1988). Bosib bod hyn yn gabledd, ond mae'n well 'da fi y fersiwn sydd yn y Dekalog, mewn sawl ffordd. Y peth mwya oedd y ffordd mae Jacek (y llofrudd) a Piotr (y cyfreithwr) yn cael eu gweld yn yr un caffi jyst cyn i Jacek fynd yn y tacsi. Yn y fersiwn teledu mae Jacek yn taflu hufen o'i goffi at y ddwy ferch sy'n chwarae tu mas i'r caffi, ac yn gwenu arnyn nhw fel angel. Hwnna oedd un o'r eiliadau mwya pwerus yn y ffilm. Yn y fersiwn hirach, yn syth ar ôl iddo fe wneud, dyn ni'n cael araith oddi wrth Piotr am ryddid, a sut mae dyn yn rhydd i ddewis ei lwybr ei hun ac yn y blaen, ac yn y blaen. Oedd enghraifft arall lle oedd Kieslowski wedi dangos mwy o ffydd yn ei gynulleidfa yn y Dekalog nag oedd e yn y fersiwn sinema, ond dw i'n rhy flinedig i'w gofio nawr.
Animatrix, The (sawl un, 2003) - yr unig bennod a oedd yn dal fy niddordeb oedd yr un cyntaf, Final Flight of the Osiris, a hwnna oedd yr unig un o'n i wedi gweld yn y sinema. Siomedig iawn.
Bangkok Haunted (Oxide Pang Chun & Pisut Praesangeam, 2001) - wnes i ddim gwylio'r holl peth. Oedd cwpl o bethau diddorol, ond do'n i ddim yn barod i daflu fy hunan i mewn i'r storiau (mae'n ffilm o dri hanner), felly wnes i bigo trwyddi, heb llawer o ddiddordeb.
Full Frontal (Steven Soderbergh, 2002). Ffilm "myfyriwr" Soderbergh. Hoffwn i weld eto, achos (unwaith eto) do'n i ddim mewn hwyliau da pan welais i hi. Y peth gorau amdani oedd rhaid o'r cyfweliadau â'r actorion yn eu roliau, Julie Roberts, yn enwedig. Llawer o pethau ychwanegol da ar y DVD.
Clay Pigeons (David Dobkin, 1998). Ffilm do'n i ddim yn gwybod dim byd amdani cyn ei gwylio. Ddim yn gyfarwydd â'r cyfarwyddwr (chwarae teg, hon oedd ei ffilm gyntaf). Mae'n ffilm llawn o berfformiadau dros ben llestri (yn enwedig Vince Vaughan fel yr ail-psycho o'i yrfa; ond Georgina Cates fel y tart heb unrhyw sôn am heart) ond sawl un tawel, falle yn fwy diddorol: Joaquin Phoenix yng nghanol pethau, ond hefyd Janeane Garofalo (enw newydd arall). Tipyn bach gormod o castiau camerau fflachlyd, di-angen, ond werth ei rhentu, yn bendant.
Mystic River (Clint Eastwood, 2003). Ffilm orau Eastwood ers The Unforgiven. Diolch byth fod e wedi stopio rhoi ei hunan yn ei ffilmiau.
Speed (Jan de Bont, 1994) - am ddechrau da i flwyddyn arall o ffilmiau. Weithiau, mae rhaid jyst gwylio beth sydd ar y bocs.