Rashômon (Akira Kurosawa, 1950). Gan fod 'na sôn am hyn yn nodiadau ar dvd The Virgin Spring, a chan fy mod i wedi prynu copi trwy eBay ond heb ei gwylio, heno oedd yr amser perffaith.
Wnaeth y ffilm hon dorri tir newydd gyda ei wahanol fersiynau o'r un digwyddiadau, rhywbeth sy'n ddigon cyfarwydd erbyn hyn. Ar y pryd doedd pobl ddim yn gallu handlo fe, mae'n debyg.
Un o'r sawl cawr y byd delweddau symudol sy wedi cael ei ddylanwadu gan y ffilm hon yw'r anfarwol Homer Simpson:
Marge: "C'mon Homer, Japan will be fun! You liked 'Rashomon'..." Homer: "That's not how I remember it..."
(Mae'r lein 'ma yn cael ei ddyddynu yn llyfr anferth ar bartneriaeth Kurosawa a Toshiro Mifune, The Emporor and the Wolf gan Stuart Galbraith IV. Chwarae teg iddo.)