Solyaris (Andrei Tarkovsky, 1972). Prynais i hon ar eBay, a doedd dim byd arall i'w wylio, felly dyma fi yn ail-wylio hon ar fy mhen-blwydd.
Hon oedd y ffilm gyntaf gan Tarkovsky i mi weld, nôl yn y haf y llynedd, felly oedd yn ddiddorol weld hi eto ar ôl gweld y rhan fwya o ffilmiau'r cyfarwyddwr yn y cyfamser. Am un peth, doedd y pacing, oedd wedi fy nharo yn araf dros ben y tro cyntaf i mi weld, ddim yn teimlo mor anarferol o araf y tro 'ma. Mewn cymhariaeth â phethau fel Stalker a Nostalgia, mae hyn yn thriller cyffrous.
Chwefror 19, 2004 10:27 yh