Chwefror 16, 2004

Lilja 4-ever (Lukas Moodysson, 2002). Ddim cystal â'i ffilm ddiwetha, Together. Roedd yr actorion i gyd yn dda, a'r stori yn bwerus, heb os, ond gyda thema mor dywyll mae angen bod yn ofalus wrth chwarae gyda elfennau o realaeth hudol, a dyw'r rhai yma ddim yn gweithio yn dda. Ydyn ni fod i fod yn falch bod Lilja a Volodya gyda'i gilydd ar y diwedd. Mae'r ddau ohonyn nhw wedi lladd eu hunain, wedi'r cwbl. Dydy hynny ddim yn arwydd o ddiweddglo hapus, fel arfer.

Chwefror 16, 2004 09:25 yh
Sylwadau
Postiwch sylw









Cofio fy manylion?