Chwefror 14, 2004

Stalker, (Andrei Tarkovsky, 1979).

Heb y sawl gwasanaeth DVD-trwy'r-post dw i wedi defnyddio'n diweddar, mae'n annhebyg iawn y byddwn i wedi gweld unrhyw ffilm Tarkovsky ond Solaris erbyn hyn, ond dyma fi wylio Stalker ddoe, ac mae Mirror i ddod yfory.

Araf, wrth gwrs. Ddim yn ei deall, wrth reswm. Bendigedig. Ac un o hoff ffilmiau Joel Schumacher. Wrth gwrs.

Stalker ar nostalghia.com.

Chwefror 14, 2004 10:48 yh
Sylwadau

Pa wasanaethau DVD drwy'r post ti'n iwsio? Dwi efo Movietrack ond yn ffeindio fo'n limited braidd ar adegau. Dwisio dal fyny ar ffilmiau Hal Hartley a Ozu a ddim yn gwybod lle i gychwyn...

Cytuno fod stalker yn ffantastic. O'n i di ngludo i'r sgrin. Welais ti'r ecstras. Da iawn o'n i'n meddwl, rhoi goleuni ar sawl mater ac anghygoel fod blwyddyn o ffilmio wedi ei ganslo yn gyfangwbl oherwydd problemau sdoc! Yn tydi manylder gweledigaeth Tarkovsky'n dod drosodd yn berffaith yn y ffilm?

Postiwyd gan: Nwdls am Chwefror 28, 2004 12:41 yh

Dw i wedi newid i Webflix.com - sy'n bach yn well na Movietrac ond dal gyda'r un broblem sef dim digon o gopiau o'r pethau dw i eisiau gweld. Dw i'n aros am Andrei Rublyov ers i mi ymuno, mis yn ôl. Mae ffilm sy newydd gyrraedd heddi (Breathless, y ail-fersiwn) yn rhif #21 ar fy rhestr, sy'n awgrymu i fi taw dim ond un copi 'da nhw o bob ffilm Kurosawa a sawl peth arall.

Wnes i drial Lovefilm hefyd, ond oedd hwnna'n waeth byth: dim un o'r 50 ffilm o'n i wedi dewis ar gael.

Mae'n debyg bod marchnad i wasanaeth sy'n arbenigo yn ffilmiau tramor ac hen glasuron.

Postiwyd gan: Nic Dafis am Chwefror 28, 2004 01:40 yh

Nais won. Mae rhywun yn gyndun i brynu'r DVD's ma pan nad wyt yn gwybod sut beth fyddan nhw. Un copi o Kurosawa...lawr i;r llyfrgell am rheina felly. Ti dal yn keen am gyfnewid DVD's mae gen ti Throne of Blood yndoes? Neu ydi'r digwyddiad post wedi pisio ti off? Gallen ni wneud recorded delivery. Ambell un newydd gen i..."The Conversation" gan Coppola. Ffilm anghygoel o dda.

Dydi dy sylwadau di ddim yn dangos nifer y sylwadau guda llaw...

Hwyl
Rhods

Postiwyd gan: Nwdls am Chwefror 28, 2004 08:41 yh

Dw i'n fodlon wneud o hyd, ond i fod yn onest does dim amser 'da fi wylio myw na'r ffilmiau dw i'n cael o Webflix ar hyn o bryd. Falle yn yr haf, pan na fydda i'n gweithio.

Dydi dy sylwadau di ddim yn dangos nifer y sylwadau guda llaw...

Ddim yn deall hyn. Mae'n gweithio i mi.

Postiwyd gan: Nic Dafis am Chwefror 28, 2004 11:19 yh

Ma nhw'n gweithio rwan!

Postiwyd gan: Nwdls am Chwefror 29, 2004 12:37 yh
Postiwch sylw









Cofio fy manylion?