Chwefror 07, 2004

À bout de souffle (Jean-Luc Godard, 1960). Pan dwedais i, wythnos o'r blaen taw A Bande Apart oedd y ffilm gyntaf gan Godard i mi weld, ro'n i wedi anghofio am hyn. Dw i'n cofio gweld e rhyw 10 mlynedd yn ôl pan o'n i yng Nghaerdydd (yn Chapter falle, yntau ar y teledu).

Dyma ffilm gyntaf Godard, ac un a oedd yn anhygoel o wreiddiol yn ei arddull (y "jump-cuts", y goleuo naturiol, y trac sain swnllyd, ac ati) a'r characterisation (dim geiriadur handi) o'r cwpl chwaraewyd gan Serberg a Belmondo, sy wedi eu hail-greu gan gyfarwyddwyr Americanaidd trwy gydol y 44 o flynyddoedd ers i hon cael ei wneud.

Mae dvd yn cynnwys ffilm fer wnaeth Godard gyda Belmondo yn yr un flwyddyn, Charlotte et son Jules.


Chwefror 7, 2004 11:11 yh
Sylwadau
Postiwch sylw









Cofio fy manylion?