Bwrw’r Bol

Mynd i briodas wythnos nesa, a does gen i ddim byd i’w wisgo, felly bant â fi heddi i’r metropolis i brynu siwt newydd. Wel, i brynu siwt, atalnod llawn. Dw i heb wisgo siwt ers fy mhriodas fy hunan yn 1994, a gadawais i hwnna yng Nghaerdydd gyda’r gyn-wraig.

Bach yn siomedig i ffeindio mod i’n methu ffito mewn i drowser 38″ bellach, ac oedd rhaid prynu rhai 40″, ond oedd pethau gwaeth i ddod. Prynais i grys yn Fat Face, heb foddran ei geisio, gan ei fod yn Extra Extra Large. Pan ges i hwnna adre, wnes i ffeindio fod e’n ffito, mewn ffordd, ond dim ond os dw i ddim eisiau eistedd, neu symud, neu ddim byd felly.

Mae Philippa, sy’n berson caredig, yn dweud bod meintiau dillad yn amrywio o siop i siop, ac mae’n siwr ei bod hi’n iawn. Ond dw i wedi dod lan stâr nawr i sieco bod pedwar batri AA ar gael yn y swyddfa. Mae’n amser dod â Wii Fit ma’s o’i ymddeoliad cynnar.

Dw i wedi bod yn un o’r bobl roli-poli sy’n rolio a pholio ambytu’r lle erioed, a dw i wedi bod yn dewach na hyn hyd yn oed (amser o’n i’n briod, natch). Ond nôl yn 2003-4 collais i rhyw tair stôn a hanner, dim ond i’w hail-ennill dros y ddwy flynedd nesa. Amser ‘ny, o’n i wedi dechrau cael problemau gyda fy mhenliniau hefyd, ac mae’r problemau yna wedi dod yn ôl. Mewn siop elusen y prynhawn ’ma, ar ôl i mi bennu mynd trwy’r bocs feinyl (el-pî Bois y Felin!), ces i uffarch o job codi ‘to. Wneu rhyw jôc gael am record collector’s knee, ond mae’n digwydd bach yn rhy aml y dyddiau yma.

Felly, ie, mae gen i bwyntiad gyda’r Wii bore fory am 8 o’r gloch, a bydda i nôl ar yr unig ddeiat sy wedi’i brofi i weithio: bwyta llai o bopeth, a symud ambytu’r lle mwy. Dosbarthu dros y Blaid yn Sarnau yn y bore yn ffordd dda i ddechrau.

Canlyniadau

Ces i ganlyniadau cyntaf o’r Brifysgol ddoe. Sgorais 20 allan o 20 ar ymarfer treigladau, a 18 o 20 ar droi brawddegau i’r iaith safonol. Paid â chwerthin yn y cefn; treuliais i lot o amser arnyn nhw – sori, arnynt.

Dwedais i wrth fy mam ar y ffôn neithiwr. Gofynodd hi pam na ches i ganlyniadau mor dda amser nes i radd y tro cyntaf (yn Nhreforys, 1987-90). Un reswm posibl: oedd bywyd cymdeithasol ’da fi pan o’n i’n stiwdent ifanc. Nes i ddim ffeindio llyfrgell y Polytechnig tan mis Tachwedd. Ond oedd staff i gyd yn yr undeb yn fy nabod i.

Reswm arall: y tro ’ma mae diddordeb go iawn yn y pwnc mod i’n ei astudio. Oedd rhai o’m gyrsiau yn y Poly yn ddigon diddorol, a rhai o’r athrawon yn arddechog, ond, ar y cyfan, dewisais i gyrsiau achos oedd fy ffrindiau yn eu wneud, neu achos do’n nhw ddim yn swnio yn rhy anodd.

Tro ’ma, dw i’n trïal cael gafael ar bobeth sydd ar fy rhestr darllen a stwff ychwanegol hefyd. Swot merchetaidd, neu beth?

Ymchwiliad trefol

Ymchwiliad trefol. Un o’m hobiau llai call pan o’n i’n byw yng Nghaerddydd oedd dringo dihangfeydd tân swyddfeydd canol y ddinas a cheisio cyrraedd y to. (Fel arfer, ar ôl noson yn nhafarnau ein prifddinas). ‘Sdim byd well ’na eistedd ar ben rhyw swyddfa cyfreithydd a gwylio’r traffig a’r bobl feddw yn y stryd islaw.

Prynhawn Da a choes gig oen

Mae Philippa wedi mynd i Lanelli i ymddangos ar raglen S4C digidol Prynhawn Da. Ro’n i’n mynd i fynd gyda hi ond ro’n i’n ddigon lwcus i ennill yr wobr gyntaf mewn raffl neithiwr – coes enfawr cig oen. Felly, mae rhaid i fi aros gartre a’i choginio. Dw i erioed wedi coginio darn o gig mor fawr.

Prynais i’r tocyn ar ôl treilio pump awr rhedeg stondin bric-a-brac yn y pentre, codi arian i Gronfa’r Milflwyddiant. Fel arfer, dw i ddim yn treulio lot o amser edrych ar ymwelwyr yn Llangrannog. Dyw hi ddim yn brofiad dymunol, ar y cyfan.

Y bore ’ma, gyrrais i Aberteifi i fynd â’r gweddillion y stondin i siop Oxfam. Gwrando ar Libertino yn y car – fy hoff tâp ar hyn o bryd.