Wythnosau yn ôl, ymddangoswyd erthygl gan Beca Brown (yn y Gymraeg) yn y cylchgrawn Barn. Nawr bod un o’r papurau newydd Saesnig wedi cyfieithu ei sylwadau, mae ymateb knee-jerk o’r Torïaid. Dyma’r blaid nad yw’n gwybod bod un o’i haelodau yn dad i Gadeirydd y BNP.
Category Archives: Newyddion
Gweld y lleuad o Gwebec
Collodd mabolgampwr Cwebecaidd ei fedel aur efydd yng Ngemau Canada am ddangos ei din i’r torfa. Rhoiodd bai ar wahaniaethau diwylliannol.
Cwestiwn: beth yw to moon yn Gymraeg?
Mwy am Gymuned
Ar ôl i mi ddweud ddoe bod diddordeb ’da fi yn y mudiad newydd Cymuned, daeth e-bost oddi wrth Owen Thomas, Llambed:
Yr oeddwn i yn y cyfarfod ddydd Sadwrn wedi teithio bob cam o Lambed i Fynytho mewn tua theirawr ac oherwydd ei bod hi mor llawn bu’n rhaid imi aros tu allan yn y gwynt a’r glaw ond yr oedd y cyfarfod ei hun yn wefreiddiol, yn eli i’r galon. Ar ôl misoedd o gael ein galw’n hilgŵn gan bob plaid dan haul o’r diwedd dyma gyfle i Gymry Cymraeg leisio eu barn hwy ynghylch pwysigrwydd diogelu cymunedau Cymraeg.
Gallwch ddarllen gweddill neges Owen yma, a mae gyda fe erthygl yn rhifyn newydd Barn (sy’n sôn am Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Ceredigion).
Yn ôl datganiad Cymuned (hefyd yn Barn y mis ’ma), maen nhw’n galw yn benodol am:
- fynd i’r afael â’r mewnlifiad anferth o siaradwyr uniaith Saesneg i’n bröydd Cymraeg gan sefydlu rheolaeth gymunedol ar bolisi tai yn yr ardaloedd hyn;
- fynd i’r afael â’r all-lifiad o’r boblogaeth Gymraeg ei hiaith o’n bröydd Cymraeg gan roi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai a darparu swyddi cymwys ar eu cyfer;
- ryddhau adnoddau i’r cymunedau Cymraeg a fydd yn eu galluogi i gymhathu’r mewnfudwyr uniaith Saesneg a datlblygu polisïau penodol a fydd yn cryfhau Cymreictod yr ardaloedd Cymraeg.
Fe allwch gysylltu â Cymuned gan hala ebost at cymuned@cymuned.org neu gan lythyr d/o Y Lolfa, Talybont, Ceredigion.
Seimon Glyn
Sylwadau Glyn yn ‘annerbyniol’ yn ôl Plaid Cymru. Unrhywun yn gwybod sut galla i ymuno â Cymuned?
Plaid Cymru a’r SNP yn uno
Simon Thomas
Wel, rwy’n gwybod bod Simon Thomas wedi ennill sedd Ceredigion, ond dyw’r niferau ddim ar gael. Bydd rhaid i mi edrych ar y teledu, neu rywbeth.
Llafur yn cipio Ynys Môn
Why Welsh?
Why Welsh? – cwestiwn da, wa’.
International Herald Tribune
Newyddion ar y we?
Wrth gwrs, mae’n wych cael y newyddion yn eich iaith eich hunan ond fel gwefan hawdd ei defnyddio a darllen does dim byd gwell na’r International Herald Tribune.