Iaith y Mynci?

Newydd sylweddoli bod un o’r lluniau dw i’n defnyddio ym mhenawd y blog bellach* yn edrych fel sylw ar y busnes “iaith y mynci”. Dyw e ddim. Damain a hap, fel y rhan fwya o’r stwff sy’n digwydd rownd fan hyn.

Oni bai… bod newyddiaduron y Daily Mail wedi bod yn ymweld â Morfablog, ac arna i mae’r bai am bopeth. Os felly, mae’n flin iawn ’da fi.

Ar y cwestiwn o sut i ymateb i’r adolygiad erchyll o’r llyfr Bred of Heaven, dw i’n tueddu cytuno â Carl, er i mi ddeall, a chydymdeimlo â phwynt Seimon Brooks hefyd:

@ Ddim yn anghytuno. Ond rhaid gweinyddu'r gyfraith mewn modd hafal. Ni ellir gneud eithriad yn achos hiliaeth wrth-Gymreig yn unig.
@SeimonBrooks
Simon Brooks

Yn yr achos penodol hwn, dw i’n credu taw’r peth cyntaf dylen ni wneud yw prynu y llyfr. Dw i wedi dechrau arno heddi; mae’n dda iawn, ac mae’n delio â rhagfarn y wasg Seisnig yn erbyn Cymru a’i phobl yn y pennod cyntaf oll.

* [Gol. 26/08/11] wedi dileu’r lluniau yn y pennawd.

27 di-derfyn

Dw i wedi dechrau defnyddio fuelly.com i gadw llygad ar faint o danwydd ni’n llosgi yn y car, ac am y tro cyntaf erioed, dw i’n sylwi beth yw pris petrol, i’r ceiniog. I’r degfed rhan o’r ceiniog, i fod yn fanwl gywir.

Y bore ’ma, rhoddais i werth £37 yn union, am 136.9c y liter, ond anghofiais i sgwennu lawr sawl liter oedd wedi mynd mewn. Nawr dw i’n sylwi bod 3700 / 136.9 = 27.027027027027027 ac yn y blaen, ac mae hyn wedi codi fy nghalon. Ond yw rhifau’n bert?

Ydw, dw i’n darllen Alex’s Adventures in Numberland o hyd. Ac hefyd, 2666.

Fuelly

Creu Lle ar y We i’r Iaith

(“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach ar-lein yn y Gymraeg ddydd Gwener 3 Medi 2010″)

Gwadwn y byd digidol
yn ein hiaith llawn-edrych-nôl.
Iaith ar y gwynt, iaith ar gof,
iaith ddi-reg, iaith yr ogof,
iaith ddiwerth ei hawen
yw’n hiaith os cedwir hi’n hen.

Ond “Na!” yw’n datganiad ni
heddiw; ymrown i’w noddi
oblegid y mae blogwyr
a mil sy’n dân yn y mur,
bloedd cannoedd yn bywiocáu,
yn trydar mewn catrawdau.
Rhaid i’r hen iaith frwydro’n ôl –
Y Gad yw’r byd digidol!

Osian Rhys Jones

Hand it Over

Cerdded i’r bws y bore ’ma, y tro cyntaf mae wedi teimlo’n ddigon twym i fod yn wanwyn. Ar y bws, un o’r gyrrwyr gwallgo, sy’n gyrru fel ynfytyn er mwyn cyrraedd Aberteifi â digon o amser i sbario i gael mwgyn bach cyn gyrru nôl i Aberystwyth. Gyda bonws ychwanegol o gael Wunnerful Radio One yn chwarae yn uchel dros y lle i gyd. Rhaid bod yn anghymdeithasol a plygio mewn i’r iPod. A beth sy’n dod lan ar y shyffl ond, wel, Brothers and Sisters, are you ready to testify?

Cyrraedd y dre a digon o amser i ffeindio rhywbeth newydd i’w ddarllen. A’r peth cyntaf i mi weld yn Smiths yw stondin llawn I Am Ozzy, ar bris arbennig o £3.99. Wedi bod yn darllen trwy’r dydd heddi a heno, ac mae’n sgrech o lyfr. Bob stori Sabbath dych chi wedi clywed o’r blaen, ac un neu ddau chi ddim. Newydd gyrraedd rhan dau o’r llyfr, sef Ozzy ar ei ben ei hun, neu’n hytrach, Ozzy dan adain Sharon Arden. Rhywsut, dw i ddim yn meddwl bydd ail hanner y llyfr cymaint o hwyl â’r hanner cyntaf.

Gweld David Edwards amser cinio, sy’n dweud ei fod e wedi priodi! Ddim yn siwr os yw e’n tynnu nghoes neu beidio, yn enwedig pan mae’n mynd ymlaen i ddweud ei fod yn dechrau recordio eto cyn bo hir gyda band newydd, Dave Datblygu a’r IRA Bomb Threat. Dweud hefyd ei fod e’n edrych ymlaen at adeg llawer mwy creadigol iddo fe, nawr bod gennym lywodraeth Tori eto, ac yn joio eironi bod David Cameron i fod yn ffan y Smiths, band a berfformiodd gân â’r teitl Shoplifters of the World Unite.

Ar ôl y dosbarth, ffeindio cwpl o lyfrau ail-law hardboiled mewn siop elusen: Another Little Drink gan Peter Cheyney a Deep Water gan Patricia Highsmith, hen ffefryn ac awdur cyfres anfarwol Tom Ripley.

Ar y bws adre, dechrau gwrando ar hen albyms Sabbath wrth ddarllen llyfr Ozzy, a chyrraedd hanner ffordd trwy Paranoid (dyma fe ar Spotify) erbyn i mi gerdded adre. Am newid, ddim wedi treulio noson gyfan chwarae WoW, ond wedi gwylio cwpl o bennodau’r cyfres Outnumbered gyda Ph, a drama bach yn dodji am y Royal Wedding.

Agenda Cudd

Pan fues i yng Nghaergrawnt wythnos o’r blaen, prynais i gopi o’r gylchgrawn Agenda, gan fod rhifyn “Cymreig” arbennig oedd e, gyda traethawd ar David Jones, a cherddi gan Mererid Hopwood, Gwyneth Lewis, Tony Conran, a llawer mwy.

Dw i ddim wedi darllen hanner ohono fe eto, ond nawr dw i’n gweld bod atodiad arlein ar gael, sy’n cynnwys cerddi gan Sheena Pugh, Tony Conran, Damian Walford Davies a mwy, a lluniau gan Mary Lloyd Jones a Nancy Wynne-Jones.

Hefyd mae’r portread gwych isod o Tony Conran. Sdim sôn am y ffotograffydd yn anffodus.

Tony Conran

Tony Conran

Hwn yw dŵr

Mae ’na ddau bysgodyn ifanc yn nofio yn y môr ac maen nhw’n digwydd cwrdd â physgodyn hŷn.

Mae’r hen bysgodyn yn amneidio ar y ddau ifanc a dweud “Bore da, hogia. Sut mae’r dŵr?

Mae’r ddau bysgodyn ifanc yn nofio ymlaen am sbel nes bod un ohonyn nhw yn edrych draw at y llall ac yn dweud “Beth yn y byd ydy dŵr?

David Foster Wallace, This is Water.

Er mor hyfryd yw’r llyfr uchod, a finne newydd ei brynu, gan fod DFW ddim ambyti’r lle bellach, a chan fod ei gyhoeddwr wedi ymestyn araith chwarter awr i lenwi llyfr 141 tudalen er mwyn codi £11 amdano, dw i ddim yn teimlo’n rhy euog am roi dolen i’r testun llawn. Os nag wyt ti wedi dod ar draws DFW o’r blaen (do’n i ddim wedi tan wythnos diwetha), mae hwnna yn lle da i ddechrau.

Dim barf

Island Cliff

Island Cliff
Linda Norris

Llawer o waith newydd ar wefan Linda Norris, yr artist o Faenclochog.

Bring Me the Head of Philip K Dick – drama Radio 3 o’r cyfres gwyddonias cyfredol. Heb wrando arni eto, mae ar yr iPod am yfory. Ar gael ar iPlayer am sbel bach eto, neu mae MP3 ’da fi, os dych chi’n styc. Rhowch wybod.

The One-Straw Revolution gan Masanobu Fukuoka, clasur amaethyddiaeth amgen o Siapan, yn ôl mewn print, gyda rhagair gan Wendell Berry.

I Am Goodbye – fideo o gân o’r albym newydd gan Bonnie ‘Prince’ Billy, sy jyst yn hyfryd. Gwylio hyn heb wenu a dwyt ti ddim yn ffrind i fi, gyfaill. Dw i newydd lawrlwytho’r albym (a bydda i’n ei brynu unwaith mae ar gael), ac mae’n braf iawn clywed yr hen Will swnio’n hapus am unwaith.

Ffeindiwyd y fideo uchod ar Naturalismo, un o fy hoff flogiau cerddoriaeth. Dw i ddim wedi bod yn cadw lan gyda’r blogiau’n diweddar, felly mae llawer o emau i’w darganfod yna, gan gynnwys cwpl o draciau o glasur colledig y 70au cynnar.

Rheolau Monk – cyngor Thelonius Monk i aelodau ei fand. Dw i’n hoffi’r darn ar y gwaelod:

They tried to get me to hate white people, but someone would always come along + spoil it.

Rhywbeth arall do’n i ddim yn sylweddoli faint o’n i’n gweld ei eisiau wrth i mi ddatgysylltu o’r we yw xkcd. Dyma enghraifft o beth dw i wedi bod yn colli:

Correlation doesn't imply causation, but it does waggle its eyebrows suggestively and gesture furtively while mouthing 'look over there'.

Correlation

Nôl

Hermann Hirsch - Hunan-bortread

Hermann Hirsch
(1861-1934)
Hunan-bortread

Ein jüdischer Maler in Göttingen, arddangosfa o waith Hermann Hirsch, artist oedd yn hen-ewythr i’m partner, Philippa. Mae’r llun i’r chwith (rhowch glec am fersiwn mwy) yn un o ryw hanner dwsin sy gyda ni, wedi dod i lawr i Philippa trwy ei mam.
 

Never Knowingly Underwhelmed, blog Saesneg gan Andrew Collins. Wedi darllen ei hunangofiant yn diweddar, a braf yw darllen hanes rhywun na chafodd ei abiwso fel plentyn, yn seicolegol, na (oni bai am ddeiat o sbageti hwps ac Angel Delight) yn gorfforol. Dyw e ddim mor smyg ag mae hynny’n swnio.

Chasm Filler, blog MP3 eclectig iawn. Tim Buckley, Public Image Ltd a’r Boredoms o fewn yr wythnos diwetha.

We Can’t Paint, blog am ffotograffiaeth, a thrwy hwnna, Will Steacy, ffotograffydd o Philadelphia. [wood s lot]

Panda Flickr – dw i ddim yn ei ddeall, ond dw i’n ei hoffi fe. [mefi]

Fy hoff grŵp Facebook erioed – dw i’n siŵ bod yr athrawon Saesneg i gyd yn falch iawn o weld hyn.

Gall Cymru fod yn annibynnol? Gwefan newydd gan Plaid Cymru sy’n gofyn y cwestiwn hanfodol i’w bodolaeth nhw fel plaid. Rhaid i mi gyfaddau mod i wedi colli bach o ffydd yn y Blaid ers dabacl papur newydd Y Byd, ac mod i wedi bod yn byw gyda mhen gwleidyddol yn y tywod i ryw raddau am fwy na blwyddyn, felly mae hyn wedi dod fel sioc i mi, os yn sioc braf. Ydw, dw i mor fras â hynny; rhowch eich dadleuon ar wefan deca, gyda’r Adam Price hyfryd ’na yn eu cyflwyno, a wna i eu llyncu nhw’n gyfan. Neu, o leia, helpu lledu’r gair:

Darllen mwy – or watch an English language version.

Byd y Powysiaid

Mae adolygiad y “Powys Journal” diwetha yn y TLS newydd, sy’n sôn am that old Powys thrill.

Dw i hanner ffordd trwy un o fy hoff lyfrau John Cowper Powys, A Glastonbury Romance, ar hyn o bryd, ond heb symud ymlaen gyda fe ers wythnosau. Mae bob tro o leia un o’i lyfrau yn y tŵr wrth y gadair, ond mae rhaid bod yn y hwyliau iawn i JCP; does dim pwynt ei ddarllen os nag yw’r hwyl arnat ti.

Mae’n braf gweld bod mwy o lyfrau JCP mewn print y dyddiau ’ma nag ar unrhyw adeg ers y seithdegau. Byddai’n brafiach byth pe bai’r un dadenni diddordeb yng ngwaith ei frodyr. Mae Sundial Press wedi ail-gyhoeddi dau o lyfrau Theodore yn 2008, sef Unclay a Kindness in a Corner, ac mae Mr Weston’s Good Wine mewn print o hyd, ond mae’r rhan fwya o’i waith yn annodd ffeindio erbyn hyn.

Oes ’na ffans y Powysiaid yn darllen yr henflog?

Hugh MacDiarmid

Mae hi bron â bod pum mlynedd ers i ni sôn am Hugh MacDiarmid fan hyn, a siwr o fod bron cyhyd ers i mi dynnu ei lyfrau o’r silff “llyfrau i’w darllen yn iawn rhywbryd”, ond dw i wedi dod ar draws casgliad recordiadau MacDiarmid yn archif Prifysgol Pennsylvania. Mae gwrando ar y detholiad bach o’i gerdd “The Kind of Poetry I Want” yn ddigon i’m hala yn ôl at y silff. Dyw safon y recordiad ddim yn uchel iawn, ond mae ganddyn nhw hefyd recordiad gwych o MacDiamid yn darllen “A Drunk Man Looks at the Thistle”.

Dyna’r prynhawn wedi’i sorto ‘te.

Fin nos, Fan hyn

Bron wedi bennu fy nhraethawd ar Gerallt Lloyd Owen. Dyw i ddim yn hapus gyda fe, ond ‘sdim amser ’da fi i ail-ddechrau. Fel hyn o’n i’r tro cynta nes i gwrs coleg. Popeth yn funud ola, ddim digon o ddarllen cefndir, traethodau nid cweit mor dda â gallen nhw fod. Och.

Wrth edrych trwy rhestr ail-gyfeiriadau y weflog, mae’n debyg nid fi yw’r person ola i bennu ei draethawd. (Tip i’r person oedd yn chwilio am “Gerallt Lloyd Owen – Ei Bywyd”: mae treiglad meddal ar ôl ‘ei’. Croeso. A phob lwc.)

Shutterbug Follies

Os wyt ti’n ffan comics byddi di wrth dy modd gyda Bee – Shutterbug Follies gan Jason Little, Efrog Newydd. Yr unig problem yw, dyw y stori ddim wedi bennu eto: darllenais i drwy’r 37 tudalen sydd ar y wefan ac yn awr dw i’n ffaelu aros am rifyn 38.

O.N. O’n i meddwl oedd yr enw yn gyfarwydd – Jason Lytle yw canwr gyda Grandaddy, un o’r grwpiau gorau i ddod o’r Amerig yn ddiweddar. Dyma cyfweliad gyda nhw a dyma tirwedd Grandaddy.