Sut i beidio cyfieithu gwefan

National Assembly for Wales: Healthplanonline – credwch neu beidio, mae’r ddolen honna yn anelu at dudalen Gymraeg ei hiaith, er fod y llabed <title>, bob llabed <meta>, sawl llabed <alt> a hyd yn oed enw’r ffeil ei hunan yn uniaith Saesneg. Dw i’n hoff iawn o’r linc ‘Saesneg’ gyda’r testun <alt> sy’n dweud ‘Cymraeg’. Darllen heb ddarluniau? Tyff.

Tai, Gwaith ac Iaith

Ddoe, fe brynais Tai, Gwaith ac Iaith, argymhellion Cymuned i Arolwg y Cynulliad o’r Iaith Gymraeg. Wedyn, casglais i lyfr o’n i wedi ei archebu misoedd yn ôl o’r llyfrgell, Reversing Language Shift gan Joshua Shipman.

Braf gweld, wrth ddarllen y peth gan Simon Brooks (Cymuned), ei fod e wedi darllen y peth gan Shipman.

Honna Fishman yr adferir iaith leifrifol trwy sefydlogi cymunedau ieithyddol; gan eu diffinio fel y cwlwm rhwng aelwyd, teulu a chymdogaeth. Oherwydd bod hyn yn dasg anodd, ceir tuedd weithiau gan ymgyrchwyr iaith i bwyso am fuddugoliaeth sy’n haws eu cyrraedd, megis darpariaeth yn yr iaith leiafrifol mewn llywodraeth, y cyfryngau ac ym maes statws cyhoeddus.

Pwysleisia Fishman na allai’r rhain fyth gymryd lle y gymuned ieithyddol naturiol.

O ymhwyso dadansoddiad Fishman i Gymru, gellir gweld mai hanes y mudiad iaith fu pwyso am fuddugoliaethau corfforaethol neu ‘symbolaidd’ megis arwyddion ffyrdd dwyieithog, S4C a Deddf Iaith Newydd, yn hytrach na gwarchod ac amddiffyn sail tirogaethol cymunedau naturiol Cymraeg.

O hyn ymlaen, bydd eisiau gwneud gwarchod y cymunedau naturiol Cymraeg sy’n weddill yn brif nod ein hymdrechion i adfer y Gymraeg os yw’r iaith i fyw.

A dyma difyniad o wynebddalen llyfr Fishman:

When one significant section of the community burns with the sense of injustice, the rest of the community cannot safely pretend that there is no reason for their discontent.

Ken Hale

Kenneth L. Hale 1934 - 2001

Kenneth L. Hale 1934 - 2001

Dydd Llun, bu farw Ken Hale, ieithydd a gweithredwr dros ieithoedd lleiafrifol.
“The loss of local languages and of the cultural systems which they express, has meant irretrievable loss of diverse and interesting intellectual wealth. Only with diversity can it be guaranteed that all avenues of human intellectual progress will be traveled.”

“The Human Value of Local Languages” – Ken Hale

Arwyddion Gwael

Amser maith yn ôl, oedd rhyw sôn rhywle am greu Amgueddfa Ar-Lein Arwyddion ‘Cymraeg’, h.y. lluniau o arwyddion heol, neu arwyddion masnachu neu, hyd yn oed, arwyddion Eisteddfodol sy wedi cam-sillafu. Am wn i, ni ymddangosodd y fath peth felly fe af i ati i’w greu. Oes engreifftiau ’da chi? Cysylltwch â fi, os felly.

Diolch i Harry Campbell am y ddau ola, uchod.

Orthograffi ieithoedd America

Darn bach yn Linesandsplines sy’n sôn am orthograffi ieithoedd brodorol America:

If I remember right, many writing systems were imposed on tribes by European missionaries, mostly in the nineteenth century. Bringhurst said that the mid-1800s were the heyday for devising new alphabets (novel sets of symbols, not new fonts) and so the Native American languages provided many opportunities for this sort of stuff.

Lego a’r Maori

Stori diddorol o’r BBC am ymdrechion cwmni teganau Lego i atal trychineb cysylltiadau cyhoeddus. Yn eu gêm uwch-dechnoleg newydd, Bionicle, mae Lego wedi dwyn enwau Polynesaidd (gan gynnwys Tohunga, sy’n golygu iachäwr brodorol) am eu harwyr robotaidd plastig.

Maen nhw’n cael eu herio gan Maui Solomon, cyfreithwr sy’n arbenigo mewn hawliau eiddio deallusol ac hawliau a rhwymedigaethau pobl brodorol.