Cwrs Carlam Bioleg

Wedi bod â diddordeb mewn bioleg erioed, ac un o’r pethau dw i’n difaru o’m dyddiau ysgol yw mod i ddim wedi mynnu astudio bioleg a Saesneg hyd at lefel A, fel yr oeddwn i eisiau, ond wedi astudio ffiseg a mathematig (a’u methu’n llwyr) fel oedd fy athrawon eisiau. Stori hir.

Wedi meddwl troeon am ail-gydio yn y pwnc, ac es i mor bell â chofrestru ar gwrs gyda’r Brifysgol Agored rhyw dro, ond newid daeth i’r byd, a rhaid oedd ei ohiro. Stori hir arall.

Braf felly, yw dod ar hyd i Gwrs Carlam Bioleg gan Hank Green. Cwrs fideo yw e, wedi’i wneud gan rhywun sy’n gwybod sut i wneud fideos bachog (un o’r Brodyr Vlog yw Hank), ac wedi cynhyrchu at safon uchel iawn. Dydy ei ddull cyflwyno ddim yn mynd i fod at ddant pawb, mi wn, ond mae’n fy siwto i i’r dim, gan fy mod i’n ddwyieithog: Cymraeg ac Americaneg yw fy nwy iaith erbyn hyn, mae’n debyg.

Mae’r Brawd Vlog arall, John Green, hefyd yn cynnal Cawrs Carlam, a ffocws hwnna yw Hanes y Byd. Mae hefyd yn werth ei wylio, a dw i am ddal i fyny gyda fe ar ôl cinio heddi.

Pontgarreg a’r Welsh Not


Perl bach o golofn “Atgofion Bore Oes” gan B. Watkins, o’r Teifi-Seid yn 1932. Sôn am ei ddyddiau ysgol ym Mhontgarreg mae e, a’r defnydd cyson o’r Welsh Not gan y sgwlyn:

Cof gennyf un tro mewn cysylltiad a’r uchod am un hogyn mwy cyfrwys na’r gweddill ohonom, yn arbed y gosp trwy ddichell. Gofynnwyd i’w gyhuddwr beth oedd y geiriau ddefnyddiodd, ac atebodd yntau, “Saf fanna.”

“Please, sir,” meddai y llall, “Savannah is a seaport town in America.” Bu raid i’r ysgolfeistr chwerthin, a chafodd yr hogyn lonydd am y tro.

Llawer mwy yng nghasliad toriadau gwasg Ceredigion, er bod rhaid i chi ddefynddio’r fersiwn Saesneg i ddod o hyd i’r rhan fwya o’r cynnwys.

Diolch yn fawr i’r Cneifiwr, am f’atgoffa am yr adnodd gwych yma.

Tlysau Tregaron

Wythnos yn ôl, ar ein ffordd i Ynys Môn, treulion ni noson yn Nhregaron, gan fod ffrind yn dathlu ei phen-blwydd yn nharfarn y Talbot. Cyrraedd yn gynnar, braidd, er mwyn sieco mewn i’n gwely a brecwast, ac hefyd i gael cip yn siop ac oriel Rhiannon.

Mae’r siop wrthi’n dathlu ei phen-blwydd ei hunan eleni, a phedwar deg o flynyddoedd o greu gemwaith Cymreig yng ngogledd Ceredigion. Fel rhan o’r dathliadau, mae Rhiannon wedi penderfynnu arddangos ei chasgliad personol o emwaith y Celtiaid, mewn Amgueddfa Geltaidd fach newydd. Mae ’na wledd o bethau hyfryd yn y casgliad, a dyna fi’n difaru’n barod mod i wedi dod ar wyliau heb gamera ond yr un sy ar y ffôn newy’, ac felly dyma’r unig lun sy gyda fi sy ddim yn hollol ddiwerth, sef pedwar anifail bychan:

Ymlaen at y parti, a rhyfeddu ar y gwaith adnewyddu sy’n mynd ymlaen yn y Talbot. Dw i’n ei gofio fel lle go dywyll, o’r tro diwetha bues i yn ei berfeddion; erbyn hyn mae’r golau yn llenwi’r lle trwy ffenestri to. Yn y brif stafell fwyta, mae gwaith y ffotograffydd Rolant Dafis, astudiaethau o fyd natur sy hefyd yn taflu golau mewn i’r stafell.

Parti da, ’fyd. Canwyd cerdd dant gan y teulu a chlasuron pop Cymraeg gan bawb eraill. Ymunais yn y “la la las” a’r Mawredd Mawrion, do. Lot o sbort.

Treulion ni’r nos mewn gwely a brecwast yn Lledrod, tra bod y teulu wedi bwcio’r dafarn i gyd rhyngddynt, ond oedd y gwesty bach yn braf iawn, a’r jam cartref eirin Mair yn arbennig o dda.

Lladd Iaith Cernyw – Pwy, Pam, a Phryd?

Shifft Ieithyddol yng Nghernyw, 1300-1750 (Wikipedia)

Shifft Ieithyddol yng Nghernyw, 1300-1750 (Wikipedia)

Where Cornish was Spoken and When: a Provisional Synthesis, gan Matthew Spriggs yn Cornish Studies, 2003. Erthygl academaidd ar hanes y Gernyweg o gyrhaeddiad yr Eingl-Sacsoniaid tan ei “marwolaeth” yn yr ail ganrif ar bymtheg. Difyr iawn, ac yn ddadleuol, dwedwn i.

We know from the laws of Ine of the late seventh century that British subjects of Anglo-Saxon kings were treated in a discriminatory manner compared with English ones. But by that time who were the British? The definition must surely have been essentially linguistic. Language shift in the case represented a shift in ethnicity. The British were not genocidally dispersed; by language shift they too became English.

Doedd yr un peth ddim wedi digwydd trwy’r adeg oedd y Rhufeiniaid ym Mhrydain; roedd y Brythoniaid wedi cadw eu hiaith, er iddynt fenthyg o’r Lladin. Dim ond dan y Sacsoniaid ddiflanodd y Frythoneg o’r tir a fyddai’n dod yn “Lloegr” yn y pen draw.

(Ymwadiad diangen: Nid Ydwyf yn Ieithydd Hanesyddol. Os ydych chi’n deall y stwff yn well na fi, neu yn gwybod lle alla i ddarllen rhagor er mwyn deall yn well, defnyddiwch y blwch sylwadau, da chi.)

Diolch i Robert Humphries (ar Facebook) am y linc i’r erthygl.

Alejandro Jones

Diolch i Carl am bwyntio ma’s bod un o sêr Separado!, y canwr Alejandro Jones, wedi ymddangos ar Morfablog pum mlynedd yn ôl, yn sgil y stori amdano gael ei rwystro rhag swyddogion mewnfudo wrth iddo ymweld â Chymru:

“I told them that I’d come to see the land of my ancestors, but they didn’t know anything about Wales’ links with Argentina. During the interrogation they asked me the same questions over and over again to see if I was lying.”

Diddorol bod y cysylltiad wedi dod i’r amlwg. Gwelais i’r ffilm yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni, ac mae’n hollol wych. Ar ôl y ffilm daeth Gruff Rhys a Dyl Goch i’r llwyfan i ateb cwestiynau’r cynulleidfa. Y cwestiwn cyntaf oedd gan ferch o Swydd Efrog:

Gruff, loved the film, and sorry if this is a stupid question from someone who knows very little about Welsh history, but isn’t the whole thing a hoax?

O ymateb y bobl eistedd o’m cwmpas i, nid hi oedd yr unig un yn y babell oedd wedi bod yn meddwl hyn.

Ateb Gruff?

Yes, we made it all up. We filmed the whole thing in Snowdonia. The only thing that really happened the way we show it was the teleportation scenes.

Seren.

Dw i’n mynd i weld y ffilm eto, mewn sinema gyda seddau go iawn, wythnos nesaf, ac edrych ymlaen yn arw at gael y DVD. Tybed a fydd cyfle ar hwnna i glywed hanes Alejandro a swyddogion mewnfudo Lloegr?

Dyma’r treilar eto, rhag ofn i chi beido gweld eto.

Diwedd y Byd O’r Parsel Canol

Ddim yn siwr sut ydw i wedi colli hwn hyd yn hyn, ond mae’r blog O’r Parsel Canol yn edrych yn wych. Does dim amser ’da fi nawr i fynd trwy ei archif i gyd (dechreuwyd y blog ym mis Ebrill y llynedd) gan ein bod ni ar ein ffordd heddi i dreulio wythnos wlyb mewn pabell yn sir Faesyfed (syniad da ar y pryd). Ro’n i’n ddiolchgar iawn i weld bod Gwenddolen wedi postio manylion sioe Troedyrhiw Diwedd y Byd; gwelon ni hwn neithiwr yng Nghapel Crannog, ac roedd e’n fendigedig. Os cewch chi gyfle i weld un o’r perfformiadau sydd ar ôl, ewch, da chi.

Nos Sul, 11 Gorffennaf (7.30) – Capel Bethesda, Llanwrtyd, Sir Frycheiniog
Nos Fawrth, 13 Gorffennaf (8.00) – Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, Gwynedd
Nos Fercher, 14 Gorffennaf (7.30) – Capel Siloam, Cwmystwyth, Ceredigion
Nos Iau, 15 Gorffennaf (8.00) – Capel Trelech, Sir Gaerfyrddin
Nos Fercher, 28 Gorffennaf (7.30) – Capel Seion, Crymych, Sir Benfro

Pob tocyn: £4.00

Gan ein bod ni’n mynd i Bowys nawr, dw i’n meddwl am fynychu’r perfformiad nos Sul yn Llanwrtyd, er ei fod yn clasho gyda rownd derfynol Cwpan y Byd. Naill ai hwnna, neu’r un nos Fercher yng Nghwmystwyth. Yn bendant, mae’n rhywbeth sy’n werth ei weld mwy nag unwaith, os cewch chi gyfle.

Reit, bant â ni!

Land of Dope and Stories

Braf i weld, o’r No Good Boyo, bod criw o Gyfeillion Bryn y Briallu am ryddhau eu bro o ddylanwad drwg Ein Prif Pen Pabi, yr hen Iolo Morgannwg. Fel y wyddoch, siwr o fod, mae cofeb i’r sgamster mawr wedi’i ddadorchuddio ar y bryn blodeuog yn Llundain yn diweddar. Dyw’r Cyfeillion ddim yn hapus:

Friends chairman Malcolm Kafetz said: “The man in question, Edward Williams, otherwise known as Iolo Morganwg, had an extraordinary and interesting but not necessarily praiseworthy life. He had a bookshop, wrote poems and folk songs and discovered a series of influential medieval chronicles. It was only after some 100 years that these were discovered to be forgeries. The Friends do not want monuments on the Hill, but particularly not this one.

“This chap was bankrupt and a forger. A bloody criminal. This plaque has just appeared out of nowhere. It is a diabolical cheek.”

Yn gwmws.

I ddangos fy undod gyda Chyfeillion y Briallu, os byddan nhw’n llwyddiannus yn eu hymdrechion i gadw’r bryn yn lân o gofebion i Gymry amheus, fe wnaf i fy ngorau glas i gael gwared â’r llechen i Edward Elgar ar wal yr ardd gymunedol yn Llangrannog. Dw i’n gwybod bod Elgar yn gyfansoddwr gwych, ond mae rhaid cofio ei fod e hefyd yn “ardent Wolverhampton Wanderers fan” ac yn “keen amateur chemist”.

Na fydd unrhyw cysylltiad rhwng fy ymgyrch yn erbyn y llechen a’r ffaith bod Elgar yn Sais ac yn gyfrifol am un o gonglfeini mwya cenedlaetholdeb ei wlad. Dw i’n derbyn bod Elgar yn bwysig i Saeson diwylliedig, ac i’r rhai sy’n mynd i Noson Olaf y Poms hefyd, ond does dim ots ’da fi. Os nag oes lle i Iolo ar Fryn y Briallu, fydd dim lle i Elgar wrth ymyl Rhaeadr y Gerwn. Os nag yw safle geni Gorsedd y Beirdd yn werth ei gofnodi, mae’n anodd gweld sut i gyfiawnhau “Elgar came here once on his holidays” fel sail cofeb barhaol.

Beth amdani, Gyfeillion? Fancy a bit of mutual cultural cleansing?

Cofeb i Iolo Morgannwg, yn Llundain

Cofeb i Iolo Morgannwg, yn Llundain


Cofeb i Edward Elgar, yn Llangrannog

Cofeb i Edward Elgar, yn Llangrannog

Dylwn i wneud yn glir, gan fy mod i ddim mor fedrus â’r brwsh direidi a’r Boio, mod i ddim o ddifri am dynnu’r llechen i Elgar. Er mod i’n cofio bod bach yn bemused pan clywais i am y cynllun gwreiddiol, dw i’n derbyn bod Elgar yn artist mawr, ac nid dim ond yn llygaid Lloegr chwaith. (Dw i’n eitha hoff o’i Cello Concerto fy hunan.) A bod yn onest, mae’r plac i Dylan Thomas ar y Pentre Arms yn fy moddran i llawer mwy, gan fod y dafarn yna yn lleoliad o bwysigrwydd diwylliannol go iawn, ond gan fod mwy o dwristiaid wedi clywed am Dylan nac am Fois y Cilie, well i mi beidio wneud gormod o ffws am hwnna chwaith.

Yr Inuit a’r Saeson

Yr Inuit a’r Saeson, hanes y perthynas rhwng y ddau bobl. Lluniau gwych, ac adroddiadau cyfoesol yn y Saesneg wreidddiol:

And being ashore, vpon the toppe of a hill, he perceiued a number of small things fleeting in the Sea a farre off, whyche hee supposed to be Porposes, or Ceales, or some kinde of strange fishe: but comming nearer, he discouered them to be men, in small boates made of leather.

[via nutlog]

Hwn yw y Gododdin

Mae Gododdin wedi mynd nôl i’r Hen Ogledd. Ac mae Russell Goodway yn dangos bod ei grap e ar hanes cynnar Ynys Prydain yn dipyn bach yn gryfach na’r un Jack Straw*, ond nid llawer:

“Since the Gododdin were a tribe of South Scotland, I understand why Scotland should claim that Arthur was Scottish,” he said. “But I am bound to say that the case for a Welsh Arthur is stronger.”

Wel, Cymry oedd y Gododdin, Russ, felly wyt ti yn llygad dy le. ’Sdim angen ymddiheuro dros y ffaith.

Yr oedd llythyr ddoe yn y Western Mail gan Lyn Jenkins, Gwbert, oedd yn wneud pwynt da iawn am duedd o gyfeirio at y Cymry fel y Celtiaid:

That land may now be called Scotland, but those people [Owain ab Urien et al] were indisputably Welsh — they could hardly be anything else with those names! Strathclyde or Ystrad Clud was Welsh speaking until about 1250 at least. The Welsh have a continuous history of [sic] this island since at least 600 BC. Why do so many historians attempt to write us out of the history of England and Scotland by changing our identity?

* Mewn erthygl yn Yr Observer yn diweddar, dwedodd Straw taw’r Eingl-Sacsoniaid oedd y first people in Britain. Sa i’n gallu ffindio’r erthygl ar wefan y Guardian, yn anffodus.

Ymateb i Argyfwng ein Pobl

Daeth y canlyn o erthygl gan Gwyn Edwards yn Y Faner Newydd, Hydref 2001. Geiriau un o Henaduriaid yr Hopi ydyn nhw. (Pwyslais fel yn yr erthygl wreiddiol.)

Rydych chi i gyd wedi bod yn dweud wrth y bobl mai dyma’r Unfed Awr ar Ddeg, nawr rhaid i chi fynd yn ôl a dweud wrth y bobl mai dyma’r Awr. Ac mae yna bethau i’w hystyried.

Ble rydych chi’n byw?
Beth ydych chi’n ei wneud?
Beth yw eich perthynas ag eraill?
A ydych yn y berthynas iawn?
Ble mae eich dwr?
Byddwch yn garfarwydd â’ch gardd.
Mae’n amser i lefaru eich Gwirionedd.
Crewch eich cymuned.
Byddwch yn dda i’ch gilydd.

A pheidiwch ag edrych i’r tu allan i chi’n hunan am yr arweinydd.

Gall hwn fod yn amser da! Mae yna afon nawr sy’n llifo’n gyflym iawn. Mae hi mor fawr ac mor gyflym fel bod rhai yn ofni. Fe fyddan nhw’n ceisio dal eu gafael ar y lan. Fe fyddan nhw’n teimlo eu bod yn cael eu rhwygo ac y byddan nhw’n dioddef yn enbyd. Boed i chi wybod fod i’r afon gyrchfan. Dywed yr Henaduriaid fod yn rhaid i ni ollwng gafael ar y glannau, ymwthio i ganol yr afon, cadw ein llygaid ar agor a’n pennau uwchlaw’r dwr.

A dywedaf wrthych am edrych i weld pwy sydd yno gyda chi a llawenhau. Ar yr adeg yma mewn hanes rhaid i ni beidio â chynryd dim yn bersonol, yn arbennig ni’n hunain. Oherwydd y funud y gwnawn ni hynny bydd ein twf ysbrydol a’n taith yn dod i ben.

Mae amser y blaidd unig wedi dod i ben. Ymglasglwch at eich gilydd!

Alltudiwch y gair ‘ymdrech’ o’ch meddwl a’ch geirfa. Rhaid i bopeth rydyn ni’n ei wneud nawr gael ei wneud mewn modd cysegredig ac yn llawen.

Ni yw’r rhai rydyn ni wedi bod yn aros amdanyn nhw.

Jeffrey Zeldman ar 9/11

Erthygl gan Jeffrey Zeldman:

Suddenly pop culture looks like excrement smeared by a mental patient.

Of course it always did. But suddenly the shallowness feels shameful. Am I the only one who feels this way? What dream have we been living in?

Somehow in my pursuit of happiness I failed to notice that children were dying in Iraq.

Somehow when car bombs exploded in London, or gunfire ripped the West Bank, I felt a moment of sorrow and disbelief, then went about my business – never realizing that love was my business, the world was my business.

We use love to sell mouthwash.

Madoc, Myth a Paul Muldoon

Wrth darllen cadwyn trafod Metafilter sy’n sôn am Columbus a’r “darganfod” America, es i ffeindio tudalennau gwe am y Myth Madoc. Fe ffeindiais i ddwy erthygl ddiddorol am gerdd Saesneg gan Paul Muldoon – Madoc: a Mystery. Un gyda’r teitl Penguins, Welsh Indians and Talking Horses: The Treatment of Colonialism in Paul Muldoon’s Madoc ac un ferrach o’r enw Remapping America.