The Forest Prince and the Pig Man

Bydda i’n blogio am rywbeth arall ond bodio yn y man, siwr o fod, ond am nawr, dyma rhagolwg “The Forest Prince and the Pig” gan Craig Constantine, ffilm am lwcdeithio yn America.

Os ydy hynny wedi cosi dy fodiau, edrych ar beth ddigwyddodd i seren y ffilm ar ôl iddo benderfynnu bodio i noson gyntaf ei ffilm ei hun, yng Ngŵyl Ffilm Ddogfen Utah.

Mae’r ffilm yn agor ym Mhrydain, yn yr hen Gaergrawnt i fod yn fanwl gywir, yfory.

Alejandro Jones

Diolch i Carl am bwyntio ma’s bod un o sêr Separado!, y canwr Alejandro Jones, wedi ymddangos ar Morfablog pum mlynedd yn ôl, yn sgil y stori amdano gael ei rwystro rhag swyddogion mewnfudo wrth iddo ymweld â Chymru:

“I told them that I’d come to see the land of my ancestors, but they didn’t know anything about Wales’ links with Argentina. During the interrogation they asked me the same questions over and over again to see if I was lying.”

Diddorol bod y cysylltiad wedi dod i’r amlwg. Gwelais i’r ffilm yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni, ac mae’n hollol wych. Ar ôl y ffilm daeth Gruff Rhys a Dyl Goch i’r llwyfan i ateb cwestiynau’r cynulleidfa. Y cwestiwn cyntaf oedd gan ferch o Swydd Efrog:

Gruff, loved the film, and sorry if this is a stupid question from someone who knows very little about Welsh history, but isn’t the whole thing a hoax?

O ymateb y bobl eistedd o’m cwmpas i, nid hi oedd yr unig un yn y babell oedd wedi bod yn meddwl hyn.

Ateb Gruff?

Yes, we made it all up. We filmed the whole thing in Snowdonia. The only thing that really happened the way we show it was the teleportation scenes.

Seren.

Dw i’n mynd i weld y ffilm eto, mewn sinema gyda seddau go iawn, wythnos nesaf, ac edrych ymlaen yn arw at gael y DVD. Tybed a fydd cyfle ar hwnna i glywed hanes Alejandro a swyddogion mewnfudo Lloegr?

Dyma’r treilar eto, rhag ofn i chi beido gweld eto.

Cymru yn y “Dead Zone”

Map Cymru yn y ffilm "The Dead Zone"

O’n i wedi anghofio am yr hen sgrîn-lun yma, wnes i dynnu wrth wylio’r ffilm David Cronenburg, The Dead Zone. Mae’r ffilm yn addasiad o’r nofel gan Stephen King, ac yn un o emau prin yr 80au. Byddwn i’n ei rhoi yn agosach at gopa rhestr addasiadau nofelau King na’r boi ’ma, yn sicr. Ymysg y tair uchaf, dwedwn i, er bod hi’n anodd gwahanaethu rhwng hon, The Shining a Stand By Me; ffilmiau mor wahanol i’w gilydd, a phob un yn glasur o’i math.

Ond mae’n amhosibl bod yn wrthrychol am y ffilm unwaith ti wedi sylwi bod cymeriad Christopher Walken â lliain sychu llestri Cymru ar wal ei fflat. Hoffwn i feddwl bod mam Johnny Smith (Walken) wedi bod draw i Gymru fach ar ei holidês rhywbryd, a dod â’r lliain iddo fel anrheg. Rhywle rhwng sylweddoli bod Martin Sheen yn mynd i ddinistrio’r byd, a phenderfynnu bod rhaid iddo farw, roedd rhaid i Johnny ffeindio pinnau bawd a hongian map bach kitsch o Gymru ar ei wal.

“Thanks, Mom.”

(Diolch i Carl am “ffefrynnu” y llun ar Flickr, a dod â’r atgoffion yn ôl.)

Separado!


(Gwyliwch y fersiwn fwy, mae’n lot well.)

Dw i’n edrych ymlaen yn arw at weld Separado!, ffilm gan Dylan Goch am ymdrechion Gruff Rhys i ganfod y cerddor o’r Wladfa, René Griffiths. Bydd ymddangosiad yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd, y lle delfrydol i weld ffilm ffordd seicadelig Gymreig, tybiwn i.

Mae rhifyn newydd Sight & Sound yn cynnwys adolygiad da o’r ffilm, sy’n ddiddorol o agored ynglyn ag anwybodaeth cyffredinol y Sais am hanes Cymru:

..the most striking (especially for anyone outside of Wales unaware of this particular historical byroad) is the sheer strangeness of Argentines named Griffiths or Jones dipping from Spanish into Welsh [..] Not knowing any better, one might be tempted to take this for an elaborately staged leg-pull..

Drueni am capsiwn y llun aeth gyda’r erthygl: Powys ranger: Gruff Rhys. Sdim ots bod Gruff ddim yn dod o Bowys, mae e’n Gymro, ac yn gwisgo helmed. Dim byd mawr, wrth gwrs, ond digon i gadw fi ar-dihun y bore ’ma am bump o’r gloch, ar ôl dihuno i fynd i’r tŷ bach.. Rant i flog arall, falle.

Prawf Bechdel

Beth yw Prawf Bechdel? Mae’n dod o gartwn gan Alison Bechdel, o 1985:

Yn y bôn, mae ffilm yn pasio’r prawf:

  1. Os oes o leia dwy ferch ynddi, sy’n
  2. Siarad â’i gilydd
  3. Am rybeth ar wahan i ddyn

O ystyried y ffilmiau dw i wedi gwylio yn diweddar, sdim lot sy wedi newid ers yr wythdegau.

  • Edge of Love – dwy ferch sy’n siarad am ddau ddyn.
  • Mamma Mia (ie, beth amdano?) – lot o ferched, sy’n siarad am bedwar dyn. Mae un sgwrs am arian, ond mae hynny yn arwain at Muriel ganu “Money, Money, Money”, ddim y gân mwya ffeministaidd yn hanes y byd.
  • The Dark Knight – dim ond un ferch, os dw i’n cofio yn iawn.
  • The Kite Runner – un ferch.
  • Gone, Baby, Gone – digon o ferched, ond dw i ddim yn cofio sgwrs rhwng dwy ohonyn nhw
  • Lars and the Real Girl – pob sgwrs naill ai ambytu Lars, neu am y ferch, sy ddim yn ferch go iawn, actiwali

Mae’r trafodaeth ar MetaFilter yn llwyddo meddwl am rai ffilmiau sy’n pasio, ond mae’r ddifyr pa mor anodd yw e. Mae’n agoriad llygad, a dweud y lleia.

Pontypool

Pontypool, y mwfi.

Says the director during a break from post-production duties, “When I tell people, ‘Oh yeah, it’s about how the English language gets infected with a virus,’ they say, ‘Wha?’ But it catches their attention. I tell them again and maybe go on to say, ‘Yeah, yeah, the first words to be infected are terms of endearment — sweetheart and honey and sugar.’ They’re like, ‘What the fuck?” But people seem genuinely curious because it’s such a crazy idea.”

Nid ffilm Cymreig yw hi, yn anffodus. Dw i’n cymryd taw Pontypool, Ontario yw’r un yn y teitl.

MeFi

O, gwmpas

Gwelon ni The Golden Compass neithiwr, ac er i mi ddarllen a gwrando ar sawl adolygiad, ces i fy synnu pa mor wael oedd hi. Roedd pethau da amdani, a dw i’n falch rhoddais i’r DVD ar fy rhestr; roedd y rhan fwya o’r actorion yn iawn, ac oedd cynllun celfyddydol y ffilm yn wych. Ond oedd strwythur y peth yn gawlach llwyr. Mwy fel treilar hir am ffilm arall roedd hi, un set piece ar ôl y llall, heb amser i’r gwyliwr cymryd mewn pwy yw pwy, beth yw beth, a ble yw ble, cyn cael ei chwipio bant i ochr draw y byd, mewn zeppelin, neu ar gefn arth, neu gyda chriw o wrachod, sipsiwns dŵr a’r cowboi o’r Big Lebowski.

Gwraidd y broblem yw llyfrau Pullman, nid bod dim byd o’i le gyda nhw fel llyfrau, wrth gwrs. Ond gan fod y ffilm yn gorfod apelio at bobl sy ddim wedi darllen y llyfrau, ar y cyfan, mae rhaid trial stwffio i mewn bob syniad mor gyflym ag sy’n bosibl, ac i esbonio popeth gyda chlampau mawr o esboniadaeth bob pum munud. Mae hyn yn gweithio’n iawn gyda’r demoniaid – efallai byddai gwneuthurwr ffilm dewrach wedi trystio ei gynulleidfa i weithio ma’s arwyddocâd yr anifeiliaid heb esbonio’n fanwl mewn gor-lais, ond bai Hollywood yw hynny, nid Chris Weitz ei hunan. Ond mae’r busnes am y “llwch” yn torri’r ffilm yn racs. Mae’n sbel ers i mi ddarllen y llyfrau, ond ydw i’n iawn i feddwl bod y syniad yna yn cael ei gyflwyno yn ara deg, dros y ddau lyfr cyntaf? Efallai taw fi sy’n cam-gofio. Ta beth, pan daeth llwch i mewn i’r stafell, o’n i’n gallu clywed fy nghydwylwyr dechrau tagu ar yr esoniadaeth. Roedd e’n fy nrysu fi, a dw i wedi darllen y llyfrau.

Collon nhw gyfle yma, gyda’r llaw. I gyd oedd angen oedd cael Lee Scoresby i esbonio:

The Dust abides. I don’t know about you but I take comfort in that. It’s good knowin’ it’s out there.

(Dylwn i symud i Hollywood bois. Dyfodol disglair, ac yn y blaen.)

Tua diwedd y ffilm mae Lyra yn esbonio i Roger (sy’n cael ei ladd yn y llyfr, ond wrth gwrs nid yma) bod digon o’r stori ar ôl i wneud o leia dwy ffilm arall, a byddai’n syniad da iddo fe ddarllen y blydi llyfrau’n gyntaf i beidio bod mor ar goll y tro nesa. Wel, geiriau i’r diben ’na.

Siom, felly.

Ond diddorol oedd ffeindio, trwy’r erthygl ar Wikipedia ac wedyn fan hyn y rheswm am y gwahaniaeth rhwng teitl y llyfr Northern Lights fel y mae ym Mhrydain, a’r llyfr a ffilm The Golden Compass. Roedd yr holl beth yn deillio o gamddealwriaeth ar ran cyhoeddwyr Americanaidd Pullman. Roedd e am rhoi, fel teitl i’r gyfres i gyd, The Golden Compasses, sy’n cyfeiriad at ddelwedd Milton o offer cynllunio Duw:

The golden compasses, prepared
In God’s eternal store, to circumscribe
The universe, and all created things.

Dim byd i wneud â’r alethiometer, felly. Wnaeth Pullman newid ei feddwl am deitl y gyfres, gan ddewis dyfyniad arall o eiddo Milton, ond erbyn hynny oedd ei deitl gweithiol am y gyfres wedi glynu wrth y llyfr cyntaf yn America, ac wedyn i’r ffilm yn ei thro. Tan y bore ’ma ro’n i’n meddwl taw newid yr teitl er mwyn cael cysondeb rhwng y tri llyfr (The [Adjective] [Noun]) wneathon nhw, a dyna beth dwedais i wrth fy nghydwylwyr neithiwr. Well i mi fynd a dweud y gwir wrthyn nhw, ‘te.

Bread and Roses – Ken Loach

Fe aethon ni i’r sinema neithiwr i weld ffilm newydd Ken Loach, Bread and Roses, ffilm gyntaf tymor newydd Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan. Ffilm dda iawn, gyda phob cryfder a gwendid arferol Ken Loach (oedd hi’n debyg iawn i’w ffilm am Ryfel Cartre Sbaen, Land and Freedom).

Fel arfer, oedd ffurflen o’r Cymdeithas yn gofyn am ein ymateb i’r ffilm a fel arfer, oedd y ffurflen yn uniaith Saesneg. Difynnais i linell o’r ffilm ar fy ffurflen, a daeth mewn cân Sbaeneg ei hiaith am brofiadau gweithwyr mewnfudol o Fecsico sy’n gweithio’n glanhau blociau swyddfeydd Los Angeles. Y cyfieithiad yn y is-teitlau oedd:

I had to learn this damned English;
I had no choice.

Yr un profiad a gafodd ein teidiau. Lwcus bod dewis ’da ni erbyn hyn, ond dyw hi?