Pedwar Peth

Wel, wel, dim ond munudau ar ôl i mi sôn am Cat, dw i’n sylwi mod i wedi cael fy nhagio ganddi.

Mouseover for translations, Cat.

Pedwar swydd dw i wedi’u cael

  1. Garddwr Tirwedd
  2. Llyfrgwerthwr
  3. Gwas fferm organig (y fferm, nid y gwas)
  4. Sensor Ffasgaidd ar maes-e.com

Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd

  1. Two Lane Blacktop
  2. Dazed and Confused
  3. Withnail and I
  4. ET

Pedwar lle dw i ewdi byw ynddyn nhw

  1. Y Waun, Wrecsam
  2. Caerdydd
  3. Llangrannog, Ceredigion
  4. Pontgarreg, Ceredigion

Pedwar rhaglen teledu dw i eu caru

  1. Shameless
  2. Jam
  3. Bandit
  4. Why Don’t You?

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau

  1. Nantucket, UDA
  2. Connacht, Iwerddon
  3. Yr Ynys Hir, Yr Alban
  4. Steddfod

Pedwar o’m hoff brydau bwyd

  1. Cawl Dail Poethion
  2. Wyau Môn
  3. Miod Ambarél Bwgan
  4. Fflapjacs Philippa

Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd

  1. maes-e
  2. Bloglines
  3. Flickr
  4. BBC Cymru a’r Byd

Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn

  1. Castell Dinas Brân
  2. Y Pentre Arms, chwarae poker
  3. Tŷ Bwyta’r Cnapan, Tydraeth
  4. Nantucket

Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio

  1. Criddle
  2. Dafydd
  3. Dogfael
  4. Nwdls

Cameron: mwy deniadol na’r Nats?

Unrhywun gweld eisiau Nat Watch?

Reit, dyna beth o’n i’n meddwl.

Ond jyst rhag ofn bod hiraeth arnoch chi, dyma Cam Watch, sori, Notting Hell i lenwi’r bwlch yn eich bywydau. Mae’n debyg taw Nats Lloegr, sef David Cameron a’r Toris Newydd, yw’r bleiddiaid mawr drwg y dyddiau ’ma, ac nid Nats Cymru.

Wrth gwrs, does dim tystiolaeth yn y byd bod y ddau flog yn eiddo yr un person, dim ond pethau fel steil y blog, y ffugenw “doniol” (Cameroon – heh), a’r cyfeiriad di-enw Gmail i anfon mwy o gynnwys i’r blogiwr di-enw. (Bydd yn ofalus os wyt ti’n wneud hynny – os ydw i’n iawn, mae o leia un person wedi colli ei swydd ar ôl cysylltu â’r blogiwr hwn.)

Ond dyw’r llys-enwau dyfeisiol ddim yn stopio yna, o nadyn.

Ddydd Sadwrn diwethaf, postiodd “Cameroon” gofnod am Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru Cabinet newydd y Toriaid, cofnod sy’n dwyn y teitl Cheryl the Peril. Yn ôl Google, mae dim ond un person arall wedi bod yn ddigon hy i alw Cheryl Gillan gan yr enw ’na ac hynny dim ond deunddydd cyn i Cameroon “bathu” yr enw, sef Leighton Andrews, Aelod Cynulliad, blogiwr, a ffan tymor hir (gynt) o Nat Watch.

Ydy Leighton a “Cameroon” yn berthnasau, tybed? ;-)

Encore : Cerddoriaeth yng Nghymru

Diolch i Dafydd am y ddolen i arddangosfa arlein diweddaraf y Llyf Gen, sef Encore : Cerddoriaeth yng Nghymru. Mae’n llawn o luniau gwych fel hyn o’r Blew. Yn anffodus, fel mae Dafydd yn sôn, mae llawer o gamgymeriadau yn y teitlau, ac yn enwedig, yn nyddiadau, y lluniau, ond dw i’n siwr y caiff y rheiny ei sorto ma’s toc.

Gwych hefyd yw gweld enghreifftiau o effemera Cymdeithas yr Iaith yn dechrau ymddangos ar lein, ar ôl i Gymdeithas roi ei chasgliad i’r Llyfrgell.

cymraeg: your search was empty

(Bosibl mod i wedi blogio am hyn o’r blaen, ond mae e wedi fy ngwylltio eto, felly dw i’n mynd i ranto amdano eto. Diolch am fod yn amyneddgar.)

Sôn am Blaid Lafur wrth-Gymraeg, newydd sylwi eu bod nhw wedi peidio esgus, bellach, bod eu gwefan yn ddwyieithog. Chwiliwch am y gair “cymraeg” yn ofer, ond os dych chi’n ddigon clyfar i’w dreiglo, mi ffeindiwch chi un cofnod dwyieithog ar y safle. A theitl y cofnod hwnnw?

“Adeiladu dyfodol llewyrchus i’r iaith.”

Ai shit iw not.

“Gweledigaeth Llafur i’r iaith Gymraeg yw un o iaith sydd yn agored i bawb, yn berchen i bawb, nid yn un o iaith sydd yn perthyn i’r elit.”

Gweledigaeth twll fy nhin, Leighton, mae hyn yn sinigiaeth bur, sy’n ailadrodd ystradebau tra llwyddo atgoffa pobl o “gynllun cudd” Plaid Cymru i greu apartheid ieithyddol yng Nghymru. Yr unig bobl sy’n creu argraff bod yr iaith Gymraeg yn “berthyn i’w elit” yw dy Blaid di dy hunan. Dadl “when did you stop beating your wife?” yw hon.

Wrth gwrs mae “elit” yng Nghymru, a dw i’n siwr bod llawer ohonyn nhw yn siarad Cymraeg (mae rhai ohonyn nhw wedi dysgu, fel oedolion, fel tithau, Leighton) ond mae pob copa walltog ohonyn nhw yn siarad Saesneg, felly pam dydy gwefan uniaith Saesneg y Blaid Lafur ddim yn sôn am yr iaith honno fel un sy’n “perthyn i’r elit”?

Linda Norris

Mae gwaith newydd gan Linda Norris ar ei gwefan, ac mae’n wych.

Sôn am bethau gwych, mae’r swyddfa yn y tŷ newydd yn wynebu’r môr, ac er mod i ddim yn gallu gweld y môr ei hunan, mae machlud yr haul yn fendigedig o fan hyn. Bydd yn anodd iawn gweithio gyda pethau fel hyn yn mynd ymlaen tu ma’s i’r ffenestr.

“Anathemata” David Jones

Pethau i’w gwneud, #374 – darllen Anathemata David Jones. Cerdd dw i erioed wedi mynd yn bell trwyddi hi, ond un sy’n talu’r darllenydd yn ôl am yr ymdrech angenrheidiol.

Yn ôl Anne Carson Daly yn Poetry Wales mae’r gerdd yn llawn haeddu lle yn gwmni clasuron moderniaeth megis gweithiau James Joyce, T.S.Eliot ac Ezra Pound.

Adolygwyd y gerdd gan W.H.Auden yn rhifyn cyntaf New York Review of Books yn 1963.

Rhywbeth i wneud trwy’r gaeaf hirlwm sydd o’n blaen.

They can all speak English anyway…

Sawl gwaith ydyn ni wedi clywed hyn? Gwraidd y ddadl (er nad yw’n cael ei fframio fel hyn yn aml) yw:

Does dim angen rhoi’r hawl sylfaenol i fyw eu bywyd yn eu hiaith eu hunain yn eu gwlad eu hunain i siaradwyr Cymraeg, gan eu bod nhw i gyd yn gallu siarad Saesneg erbyn hyn.

Yr “erbyn hyn” sy’n bwysig.

Mae’n dadl ni, y ddadl nas clywir yn y wasg Saesneg, yn mynd rhywbeth fel:

Mae pob siaradwr Cymraeg yn gallu siarad Saesneg (i ryw raddau) achos nad oes ganddo/ganddi’r hawl sylfaenol i fyw eu bywyd yn eu hiaith eu hunain yn eu gwlad eu hunain.

Mae llywodraeth Prydain wedi datgan yr wythnos yma, mwy neu lai, y bydd mewnfudwyr sy’n gwrthod dysgu Saesneg (neu’r “British language” mewn un fersiwn dorgalonus o eironig) yn cael eu trin fel dinasyddion ail-radd. A fydd rhaid i Gymry Cymraeg sefyll prawf o’u “Prydeindod” fel wnaethon nhw ym 1847?

Os felly: i ble cawn ni ein halltudio?

Drws agored Alun Pugh

Clasur o ddifyniad gan y Puwster yn y Daily Post ddoe:

Conservative AM William Graham asked the minister to urge the Welsh Rugby Union to increase its use of the language on its website. But Mr Pugh said: “I think we are pushing at an open door there.”

Os Ewch chi i wefan y WRU, mi gewch chi eich croesawu gan dudalen uniaith Saesneg, wedyn eich ailgyfeirio at dudalen arall uniaith Saesneg. Am wn i, does dim yr un gair o Gymraeg ar y wefan. Sut mae hyn yn “ddrws agored”?

Ydy Alun Pugh wedi’i gam-ddifynnu yma, neu ydy e wir yn meddwl bod hyn yn gam ymlaen at y Gymru Ddwyieithog mae e’n ei gweld mor glir ar y gorwel?

Ypdêt! Mae’r geiriau “Undeb Rygbi Cymru” wedi’u cynnwys mewn un o’r GIFiaid wedi’u hanimeiddio! Da iawn, WRU, chwarae teg!


Ypdêt arall! Fi sy’n anghywir a chreulon, mae arna i ofn. Newydd ffeindio hyn yn archifau’r wefan:

Heddiw, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru gynlluniau i ddatblygu Polisi Iaith Gymraeg er mwyn cynnwys defnydd helaethach o’r Gymraeg yn ei fusnes.

Mae’r Undeb yn chwilio am ffyrdd i ymgorffori defnydd o’r iaith Gymraeg yn ei waith, a hynny yn enwedig drwy lunio fersiwn Gymraeg o’r wefan www.wru.co.uk.

Mae hynny yn ddyddiedig 25 Mai – felly mae’r drws ar agor ers sbel nawr. Unrhywun yn gwybod pryd bydd y fersiwn Gymraeg yn barod?

Mae awgrymiad y peiriant ymchwilio ar y safle yn ddiddorol:

Cymraeg = 1 canlyniad
Commercial = 67 canlyniad

;-)

Paul Flynn

Diolch i Chris Castle am ddod â hyn i’n sylw: cyfieithiad o erthygl Barn gan Paul Flynn o 2001.

To find the Welsh nation, we must search in the language. That’s the abode where the centuries of the wisdom, humour and ambitions of the peoples of Wales live.

There is an embryo body in the Welsh Labour Party dedicated to the memory of Lord Cledwyn that is slowly emerging. Sadly most of the party leadership is content to stand aside and collect the electoral dividend of Plaid Cymru’s divisions.

The warning on the threat to Welsh should be heeded by all parties. Ireland bitterly regrets that their tardy action to support their language came only when it was close to extinction.

Drueni nad yw’r wreiddiol ar gael ar y we. Tybed oes cynllun i roi hen erthyglau Barn arlein? Trysor i’r genedl, ac yn y blaen.

Hir ei dafod, byr ei wybod.

I fod yn deg i Alun Pugh, mae e’n gwybod yn union beth mae’n wneud, sef yr un peth mae Plaid Lafur wedi bod yn wneud ers dyddiau George Thomas: cadw’r di-Gymraeg yn ofnus o’r Nashis gan ddweud eu bod nhw mewn perygl o fod yn ddinasyddion ail-radd yn eu gwlad eu hunain. Sôn am y bobl sy’n galw am, a gweithio tuag at sichrau, hawliau sifil i’r 20% o bobl Cymru sy’n siarad Cymraeg fel eu bod nhw yn fygythiad i hawliau sifil y 80% o bobl Cymru sy ddim yn siarad Cymraeg. Mae hyn yn dacteg oedd Southern Democrats yr UDA yn ei ddefnyddio yn y 60au i gadw cefnogaeth y croenwynion tlawd; demoneiddio protestwyr hawliau sifil.

Ac hyn yn yr un wythnos a gollon ni Rosa Parks.

Gorddweud?

Dych chi wedi gweld y ffilmiau o heddweision llusgo aelodau Cymdeithas yr Iaith gan eu gwallt yn ystod protestiadau’r 70au? O’r “Cymry da” gweiddi a phoeri arnyn nhw ar loriau y Swyddfa Bost yn y 60au? Heb y protestiadau heddychlon sy wedi cadw pwysau parhaol ar yr “awdurdodau”, fyddai dim hawliau ieithyddol ’da’r Cymry Cymraeg o gwbl. Mae Alun Pugh yn siarad fel bod siaradwyr Cymraeg yn mynnu bod yn well na’r rhai sy ddim yn medru’r iaith. Ein lle ni yw gofyn am gonsesiynau gan gwmnïau mawrion fel Tesco a Microsoft, ac i beidio bod yn rhy anamyneddgar os dydyn nhw ddim yn cweit yn barod i’n bodloni. Gwell peidio cynhyrfu’r dŵr gormod gan fynnu eu bod nhw’n trin y Gymraeg yn gyfartel â’r Saesneg, neu fyddan nhw… beth? Tynnu eu busnes ma’s o Gymru? Gwynt teg iddynt.

Tasai llywodraeth Cymru â digon o geilliau i basio Deddf Iaith sy’n werth yr enw, byddai’n bosibl dweud wrth Microsoft “either you produce Welsh language versions of all your software, or we install Linux and Open Office on every publically owned computer in Wales”. Ond yn hytrach na hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gorfod mynd at Bill Gates a’u capiau yn eu dwylo, gofyn yn boleit, cynnig talu am y gwaith cyfieithu gydag arian y trethdalwr, ac wedyn dweud diolch yn fawr iawn i Microsoft ym mhob datganiad i’r wasg am y tair blynedd nesaf, fel eu bod nhw wedi wneud ffafr i ni, gan adael i ni wario ein arian ni ar feddalwedd dyn ni wedi talu i’w ddatblygu.

We are idiots babe,
It’s a wonder we can even feed ourselves.

Bob Dylan said that.

Cei di fod yn fy mreuddwyd i
Os ga’ innau fod yn dy freuddwyd di.

Dylan ddwedodd hynny, hefyd.

Bocs cinio fegan

Blog gan fam fegan gyda lluniau o’r ciniawau di-anifail mae’n paratoi i’w mab bob dydd.

Ar yr un trywydd: Bento Moblog, a blog bwyd Frykitty (wedi’i flogio yma o’r blaen).

Meddwl lot am fwyd oherwydd i mi godi llawer o bwysau’n diweddar, stôn a hanner dros y flwyddyn ’ma, ac hyn ar ôl i mi golli bron yn bedwar stôn dros y ddwy flynedd cyn hyn. Hoffwn i gael fy mhysau o dan reolaeth eto, ac un o’r pethau sy’n helpu yw paratoi cinio dyddiol ar y diwrnodau dw i’n ma’s o’r tŷ, yn lle prynu pethau llawn garbohydradau, braster ac/neu aspartame.

Mmm, aspartame.

Ta beth, dw i’n crwydro. Ac mae’n amser cinio.

John Bauer

Newydd dod ar draws cofnod blog ar yr artist John Bauer o Sweden. Am wn i, dw i heb weld gwaith Bauer o’r blaen, ond mae’n hyfred. Cyfoeswr agos i’r Sais Arthur Rackham, roedd steil y ddau artist yn debyg, ac roeddent yn dilanwadu ar ei gilydd.

Mae gwefan Amgueddfa John Bauers yn cynnwys oriel ond er bod llun bach Jac yr Undeb yna, dw i’n methu’n lan ffeindio fersiwn Saesneg o’r safle. Dim ots, mae’r lluniau yn werth eu gweld. Mae’n debyg bod stori Bauer yn un drist; fe foddwyd yr artist, ei wraig a’u mab 3 oed pan suddodd eu fferi i Jonkoping.

[Gol.] Sganiadau o safon uwch. Pwt bach ar Wikipedia.

Charles W. Cushman yng Nghymru

Mae BoingBoing wedi sôn heddi am gasgliad Charles W. Cushman, ffotograffydd amatur o Americanwr. Mae’r lluniau yn dyddio o 1938-1969, ond yn 1961 daeth e yma, i Gymru, ar ei wyliau. Mae’r lluniau o Aberystwyth yn wych, a ti’n gallu gweld faint sy wedi newid a faint sy wedi aros.

Aberystwyth yn 1961

Peidiwch â cholli’r dolenni eraill yn y cofnod BB, sef Casgliad Edward S. Curtis a America Mewn Lliwiau, 1939-1945.