A Trip to Toytown – post anhygoel ar Lost in Tyme, y blog MP3 seicadelig/prog/gwerin-asid heb ei ail. Maent wedi cymryd fel ysbrydolaeth y rhestr hwn o 119 cân “Toytown Pop” o 1966 i 1974, wedi ffeindio MP3 o bob trac (y rhan fwya ddim ar gael ar CD erioed, felly wedi’u rhwygo o’r senglau gwreiddiol) a’u rhoi at ei gilydd i wneud gwerth pum cryno ddisg o hyfrydwch.
Dw i’n teimlo bach yn annifyr postio pethau fel hyn ar flog Cymraeg. Wedi’r cwbl, fel mae Marmalade Skies yn ei ddweud:
Toytown Pop is English and is derived from aspects of British lifestyle and culture. Influences include: Edward Lear, Alice in Wonderland, Listen With Mother (and later, of course, Watch With Mother), George Formby, Flanders & Swann, The Goons, The Wind in the Willows, Enid Blyton, Beatrix Potter, English fairytales, Lord Kitchener and his pals, Oscar Wilde and Victoriana in general.
Ond dyna oedd mhlentyndod i ryw raddau, yn hytrach na Wil Cwac Cwac a Mistar Urdd. Ngholled i, siwr o fod, ond o leia oedd y trac sain yn dda.



