Newydd cyrraedd adre ar ôl trip ardderchog i’r Gogledd. ‘Sdim amser ’da fi sgwennu nawr, ond hoffwn ddweud ‘helo’ wrth Eileen, a diolch iddi hi am ddweud wrth rhestr postio Clwb Malu Cachu am y cwrs undydd.
Category Archives: Crwydro
Bant i’r Plas
Dyn ni’n bant i’r gogledd mewn sbel. Aroswn yn Mlaenau Ffestiniog heno (gobeithio bydd amser ’da ni i ymweld â siop lyfrau’r Hen Bost a chartref olaf John Cowper Powys). Dydd Sadwrn awn ni i gwrs un dydd ym Mlas Tan y Bwlch, cwrs Llafar Gwlad.
Dwyers, Waterford
Tro nesa dw i’n mynd i Iwerddon, rhaid i mi ymweld â Tŷ Bwyty Dwyers, yn Waterford. Yn y cyfamser, dw i am ceisio rhai o’u ryseitiau.
Ffindes i’r wefan trwy dolen i morfablog gan Caitriona, merch y teulu sy’n rhedeg y tŷ bwyta a cynllunydd gwe chwaethus iawn.
Ymchwiliad trefol
Ymchwiliad trefol. Un o’m hobiau llai call pan o’n i’n byw yng Nghaerddydd oedd dringo dihangfeydd tân swyddfeydd canol y ddinas a cheisio cyrraedd y to. (Fel arfer, ar ôl noson yn nhafarnau ein prifddinas). ‘Sdim byd well ’na eistedd ar ben rhyw swyddfa cyfreithydd a gwylio’r traffig a’r bobl feddw yn y stryd islaw.
CDs o’r Dinasoedd
Yn Abertawe a Chaerdydd dydd Sadwrn diwetha, fe waries i lawer gormod o arian ar CDiau rhad. Hen stwff fel Love, Cream, Leonard Cohen a Capt. Beefheart, stwff mwy cyfamserol fel Beck, Aphex Twin ac yr Orb ac casgliad gan fy hoff band Saesneg ar y foment, Grandaddy. Mae un gân, Fentry, gyda clip sain o ffilm o’r enw “Tomorrow“, sy’n swnio yn wych (fel maen nhw’n dweud ar y clawr a nearly perfect movie made in the 70′s). Sa i wedi ei gweld, dyw hi ddim ar gael ar fideo.