Archifau Categori: Crwydro

Cerdded mewn cylchoedd

Mae’n flwyddyn gron ers i fi benderfynnu cerdded bob dydd. Dw i heb golli diwrnod ers dechrau Mai diwetha heb gerdded o leia 10,000 o gamau, yn ôl yr unben yn fy mhoced, Mistar Peds. Wedi cerdded mewn bob fath o dywydd, achos does dim esgus. Wrth i’r misoedd fynd heibio, mae’r angen i gerdded bob dydd wedi tyfu i’r pwynt ble dw i’n ffeindio fe’n anodd dychmygu colli diwrnod. Yr unig reswm i beidio cerdded byddai salwch, ond dw i ddim wedi bod yn sâl ers blwyddyn gron, chwaith.

Dw i wedi cerdded tipyn erioed, ond dim ond eleni mae e wedi dod yn rhan mor ganolog o’m bywyd bob dydd. Ond mae ‘da fi ffordd i fynd nes i fi gyrraedd lefel Nick Papadimitriou, The London Perambulator, sy wedi troi cerdded ei filltir sgwâr yn rhywbeth agos at farddoniaeth. (Rhybudd: mae Russell Brand yn y ffilm, ond Russell Brand llai pryfoclyd nag arfer.)

Bydd llyfr Papadimitriou, Scarp, yn cael ei gyhoeddu mewn clawr meddal ddydd Iau. Edrych ymlaen.

Ffeindies i’r ffilm ar Metafilter, wrth edrych am bethau am Iain Sinclair, sy hefyd yn y ffilm. Wedi bod yn darllen ei nofel wych, Downriver, yn diweddar, a gwrando arno fe ar bodlediad Hackney, wrth i fi gerdded milltir sgwâr braidd yn wahanol i’r un mae Sinclair yn ei droedio.

Podlediad arall, sy’n edrych yn ddiddorol, ond dw i heb gael cyfle i wrando eto, yw Ventures and Adventures in Topography, gan Nick Papadimitriou and John Rogers, a wnaeth y ffilm uchod.

Dw i’n darllen mwy a mwy am gerdded yn Saesneg ar hyn o bryd, ond hoffwn i ffeindio llyfrau tebyg yn y Gymraeg? Oes ‘na rhywun dylwn i wybod amdano/amdani?

Beth wnes i ar fy ngwyliau

Ymwadiad Robin Ince-aidd: mae’r isod wedi’i sgwennu mewn hast, wedi’i olygu mewn rhagor o hast, gyda pharagraffiau cyfan wedi’u symud o’r diwedd i’r dechreuad ac yn y blaen. Mae hi bellach yn amser cinio ac wedyn bydd hi’n amser mynd am dro. Gallwn i ei adael yn y ffolder “drafftiau”, ac wedyn ei ddileu mewn hunan diflastod mewn wythnos, fel dw i wedi wneud gyda pob un blogiad dw i wedi dechrau arno ers mis Ebrill, neu ei bostio nawr fel y mae. Er mwyn peidio gadael i’r blog ‘ma farw yn gyfan gwbl, dw i am ei bostio fel y mae, gyda’r holl gamgymeriadau, gan obeithio ei fod e’n wneud digon o sens. Iw haf bîn warnd…

Bach o gefndir: treulies i ryw hanner yr haf diwetha yn gwisgo rhwymyn yna ar fy mhenlin, ar ôl ei droi am y trydydd tro mewn 5 mlynedd. Erbyn Steddfod Wrecsam, ro’n i llyncu cymaint o ibwproffên ro’n i’n dechrau poeni am fynd yn gaeth iddo. Ac yn hytrach na mynd at y doctor, ro’n i’n barod i dderbyn, fel mae Louis C.K. yn ei ddweud, taw dyma ffawd y dyn yn ei bedwardegau, a dylwn i ddod yn arfer byw gyda phoenau bach mewn darnau gwahanol o nghorff:

Mae hyd yn oed Louis C.K. wedi sylweddoli bod hyn ddim cweit mor anochel: mae e wedi ymuno â Gervais a Jupitus ar gambo’r cyn-dewion. Doedd bod yn dew ac yn segur ddim yn ffawd, roedd e’n ddewis personol. Dydw i ddim yn hollol dwp; dw i’n derbyn gwirionedd sylfaenol “calorïau i mewn, calorïau allan”. Ond er i mi ddechrau ar ddeiat newydd bob hyn a hyn, a llwyddo colli pwysau i ryw raddau, dw i erioed wedi dod i ben ar ail ochr y hafaliad yna, y “calorïau allan”.

Debyg mod i wedi defnyddio’r cartwn ‘ma o’r blaen, ond mae’n disgrifio fy mhersonaliaeth i’r dim:

Dyma ni’n dod at ddiwedd toriad haf hirfaith arall, ac am y tro cynta ers cyn cof, dw i’n edrych ymlaen at fynd yn ôl at y gwaith dysgu. Ddim mod i ddim yn mwynhau’r fel arfer, cofiwch, ond achos i fi gael haf anarferol eleni, mae’r batris wedi’u hailsiarsio, ac rwy’n barod i wynebu’r llwyth nesaf o ddysgwyr sionc, gwiwerodaidd.

Fel arfer, amser hyn o’r flwyddyn, byddwn i’n difaru mod i wedi wastraffu haf arall, ar y cyfan, trwy piso’r rhan fwya o fy amser rhydd i ffwrdd ar chwarae gemau cyfrifiadurol. Neu, amser maith yn ôl;l, pan oedd y byd yn ifanc a doedd dim sut peth â Twitter, ar flogio ac ati.

Yn eironig ddigon, y peth sy wedi fy helpu torri’r caethineb i’r rhithiol yw gêm dw i’n chwarae yn erbyn fy hun, ac un sy’n cael ei hybu gan y llywodraeth, ymysg eraill: cerdded bob dydd:

(Hysbys bach di-dâl: yr ap dw i’n ei ddefynddio i olrhain fy nghamau dyddiol yw TactioHealth. Mae fersiwn am ddim ar gael.)

Ers dechrau mis Mai, dw i wedi llwyddo mynd ma’s o’r drws bob dydd a cherdded fy mhwt beunyddiol: 10K o gamau ar y dechrau, ond wedi sbel o ffeindio bod wneud bach mwy na hynny yn ddigon hawdd, codi at 12,500 o gamau bob dydd. Mae hyn rhyw 5 i 6 milltir y dydd, ddim byd i sgwennu adre amdano, ond digon i sicrhau mod i’n ma’s o’r tŷ (ac oddi ar fy mhen-ôl) am o leia dwy awr y dydd. Fel arfer, mae’r wâc yn dechrau o’r drws ffrynt; sdim prinder o ffyrdd bychain, lonydd gwyrddion a llwybrau arfordirol o yn y filltir sgwâr, diolch byth. Fel mae’r llun uchod yn dangos, dw i’n eitha cyson fel arfer: wedi gweithio ma’s rhwydwaith o deithiau lleol sy’n ddigon amrywiol mod i byth yn gorfod meddwl “ble awn i heddi?” Fel y trydares i bwyddiwrnod, mae pedwar tŷ tafarn o fewn cyrraedd cerdded o’r lle ‘ma, a dw i erbyn hyn yn gwybod sut yn union i’w cyrraedd yn ystod wâc sy’n dod â fi adre gyda 12.5K cam yn fy mhoced a chwpl o beints o’r stwff da yn fy mola.

Y peth pwysica yw bod dim dewis gyda fi. Mae rhaid i fi gerdded bob dydd. Wedi “ennill y gêm” bob dydd ers dechrau mis Mai, mae’n dod yn fwyfwy anodd meddwl am beidio mynd ma’s am dro. Mae’n amser cinio nawr wrth i fi sgwennu hyn, a dw i’n dechrau teimlo braidd yn anghyfforddus eistedd ‘ma, a’r haul yn tywynnu. Mae’n anochel y daw’r dydd pan nad ydw i’n gallu ffeindio dwy awr yn ystod y 24 i fynd am dro, ond hyd yn hyn dw i wedi llwyddo. Wrth gwrs, dw i ddim wedi bod yn sâl ers dechrau mis Mai, ond efallai nid cyd-ddigwyddiad llwyr yw hynny, chwaith.

Mae hyn oll yn ffordd o ymddiheuro bod y blog yma wedi bod yn dawel ers cymaint o amser. Dw i ddim yn esgus am eiliad bod neb yn ymweld â’r lle yn ddyddiol a dweud “damo, dim byd newydd o hyd”; mae’r blog ‘ma wedi bod yn hanner cysgu ers o leia 2008, ond dw i dal yn teimlo bod dim llawer o bwynt cadw blog yn fyw os dwyt ti ddim yn postio dim byd newydd ar y peth. Ond mae gen i bethau dw i am sgwennu amdanyn nhw, ac o’r diwedd dw i’n teimlo fy mod i’n gallu treulio bach o amser o flaen y cyfrifiadur heb feddwl mod i’n lladd fy hunan yr un pryd.

Cerdded a chanu

“Will & Ed Walking Around Great Britain” – Rhan 1 a Rhan 2. Ffilm fer gan Molly King, myfyrwraig o Bournemouth.

Gwefan Will ac Ed, gyda mwy o fanylion am eu hanturiaethau.

Mae’n ddigon hawdd bod yn sinicaidd am bethau fel hyn, ond dw i wedi cael llond bol o fod yn sinicaidd. Dydy Saeson sy eisiau ail-gysylltu â’u traddodiadau brodorol ddim yn “hen elyn” i fi. Chwarae teg iddyn nhw.

Hefyd, maen nhw wedi f’atgoffa fi o hen ffrind, ac amser braf iawn yn fy mywyd i.

The Forest Prince and the Pig Man

Bydda i’n blogio am rywbeth arall ond bodio yn y man, siwr o fod, ond am nawr, dyma rhagolwg “The Forest Prince and the Pig” gan Craig Constantine, ffilm am lwcdeithio yn America.

Os ydy hynny wedi cosi dy fodiau, edrych ar beth ddigwyddodd i seren y ffilm ar ôl iddo benderfynnu bodio i noson gyntaf ei ffilm ei hun, yng Ngŵyl Ffilm Ddogfen Utah.

Mae’r ffilm yn agor ym Mhrydain, yn yr hen Gaergrawnt i fod yn fanwl gywir, yfory.

Dim ond reid

Penfoel Cilie, bore Gwener, o gilfach Plwmp

Ces i lot o sbort bodio i’r gogledd dros y Sul. Bore Gwener, fe es i o Blwmp am 9 o’r gloch y bore i’r Gledrid (ger Y Waun) am 1.45 y prynhawn. Gan gofio ei fod yn cymryd o leia 2 awr a hanner i yrru’r 100 milltir yma, dyw hynny ddim yn ffôl o gwbl. Bues i’n lwcus iawn o gael lifft o Langurig yr holl ffordd i’r Waun, bron a bod, ond hyd yn oed wedyn, do’n i ddim yn aros am fwy na chwarter awr yn unrhyw le ond yn Aberaeron, sy’n llawn twristiaid, o hyd.

Yr un stori dod yn ôl, ond i mi roi’r gorau i’r bodio yn Aberystwyth, gan fod y glaw bach yn rhy drwm, a bws ar gael ar ôl i mi gael cinio.

Prif nodwedd y bodio, ar wahan i ba mor hawdd oedd cael lifftiau, yw bod pob un lifft wedi dod o bobl yn eu 40au neu’n hŷn, ar wahan i’r lifft bach ola o Lanarth i Synod Inn gan foi ifainc oedd ar ei ffordd i wylio’r pêl droed yn nhafarn Ffostrasol. Oedd yn syndod i fi cymaint o bobl Twitter oedd yn synny mod i’n (1) bodio o gwbl a (2) yn llwyddo cael lifftiau. Prif nodwedd y bobl yno yw bod nhw’n ifancach na fi. Fel dwedodd un gyrrwr o gyn-athro wrtha i, rhywle rhwng Llanbadarn a Llangurig:

We’re really good at teaching kids about “stranger danger”, but not so good at showing them that they don’t have to be afraid for the rest of their lives.

Dw i ddim eisiau darllen gormod mewn i’r ffaith bod pobl ifainc wedi colli’r arfer o ffawdheglu, ond mae yn drist bod cenhedlaeth gyfan yn meddwl bod rhywbeth od am ei wneud.

Pontydd cario dŵr a threnau, Y Waun

Y peth gorau am fodio, ar wahan i’r ffaith ei fod yn rhad ac am ddim mewn arian a charbon, yw bod pobl yn siarad â chi. Wnes i gwrdd â rhyw ddwsin o bobl newydd dros y Sul, ac oedd gyda phob un ohonyn nhw eu storiau diddorol. O’r hen Gymro oedd wedi bodio yn ystod ei gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol yn y 50au, i’r Almaenwyr oedd newydd gosod paneli haul ar eu tŷ er mwyn dod oddi ar y grid. O’r Brummie oedd yn isel oherwydd colli ei wraig, ei fusnes, a’i hunan hyder (ond oedd wedi cadw ei Range Rover hynafol) i’r Dyn o Gaint oedd newydd adael ei ferch a’i cheffyl yn y coleg ger y lli, ac oedd yn gyrru yn ôl i ddyfnderoedd Lloegr mewn horsebox gwag. Pobl ffeind, bob un.

“Ond mae bodio yn beryglus“, wrth gwrs.

Ydy e? Oes tystiolaeth, neu ydyn ni’n gadael i’r Toris a’r tabloids rheolu ein ysymwybod yn ogystal â’n gwleidyddiaeth?

Sori am fod yn hipi, ond dim ond (rhannu) reid yw e. Mae rhaid i chi fod yn gall, wrth reswm, ond dydy hynny ddim yn golygu bod ag ofn pawb am byth. Mae bodio yn llawer saffach na hedfan, ym mhob ystyr.

‘Sai detholiad naturiol ddim eisiau i ni fodio, pam mae ein bodiau mor anhygoel o hyblyg?

The eyes of fear wants you to put bigger locks on your door, buy guns, close yourself off.

Bodio dros Gymru

(Ro’n i wedi anghofio i mi sgwennu cofnod am fodio nôl ym mis Mawrth eleni, felly ymddiheuriadau am y dwbli isod. Rhaid mynd ma’s mewn munud, felly dim amser i’w olygu.)

Jen hitchiking, gan Bob Elderberry ar Flickr (cc)

Mewn erthygl yng nghylchgrawn yr Ecologist, mae Adam Weymouth yn gofyn “ai bodio yw’r ffordd werddaf o deithio does neb yn ei defnyddio?”:

Last week I hitched from Oxford to Salisbury, a two hour drive which took me four. I chatted with a technician about cuts to the sciences, encouraged someone to take to the road themselves, and had an hour’s lecture on how to make my own diesel from chip fat. There aren’t many forms of transport where you find all that. And regardless of these pleasures, hitchhiking should be thriving. With petrol prices rising weekly, people struggling to make ends meet, record youth unemployment and an urgent need to cut carbon emissions, a revival seems to be long overdue.

Mae’r erthygl yn decrau gan sôn am y “ffaith” taw dim ond 9% o yrrwyr heddiw yn debyg i gynnig lifft i fodiwr, wrth cymharu â ffigwr o rhyw 25% chwarter canrif yn ôl. Nawr, fel mae’r awdur yn sôn, dydy 9% ddim mor isel â hynny – dw i’n ei ffeindi braidd yn anodd credu, a bod yn onest – ond mae un pwynt pwysig am y “ffaith” yma dydy’r awdur ddim yn rhoi sylw iddo, sef bod llawer mwy o draffig ar y ffyrdd y dyddiay yma. Os ydy’r rhifau yna yn iawn, dydy cwymp o 25% i 9% ers yr 80au ddim mor syfrdanol â hynny.

Nid newid agwedd y gyrrwyr sy’n gyfrifol felly, ond newid agwedd y bobl sydd, yn draddodiadol, yn fwy tebyg na neb i estyn bawd i fynd o A i B: pobl ifainc. Eto, mae’r ystadegau melltigedig yn cefnogi’r tybiaeth: y rhai rhwng 18 a 24 yw’r grŵp lleia tebyg i fodio bellach, a dych chi’n llai tebyg o gael lifft gan un o’r to ifanc hefyd.

Fel mae’n digwydd, dw i’n perthyn i’r genedlaeth a ddaeth i’w hoed yn ystod Oes Auraidd Olaf bodio, sef canol yr 80au i’r 90au cynnar. Fel myfyriwr serchus ond di- gerbyd yn y Sowth, byddwn i’n dibynnu ar lwcdeithio i nghario at fy nghariad yn y Mers bob yn ail benwythnos. Yn aml iawn, bydde’r daith o Bontypridd i Groesoswallt yn gyflymach wrth fodio na mynd ar y trên. Des i yn gyfarwydd â phob twll a chornel* y ffordd rhwng y ddwy dref bert yna, a dod i nabod ugeiniau o bobl ddifyr hefyd.

Ddes i byth ar draws yr agwedd “pam yn y byd wyt ti’n bodio?” adeg hynny, ond y tro diwtha i mi fodio lawr i Gaerdydd, oedd pobl yn siarad â fi fel yr oedd rhywbeth bach yn anarferol am y ffaith: car broken down, has it?

Wel, ta waeth am hynny, gyda’r pris petrol fel y mae, dw i’n meddwl ei fod yn hen amser i ni ddechrau meddwl am fodio fel “yr unig ffordd (gall) o deithio” unwaith eto.

A fel “ni”, dw i’n meddwl y fi.

Felly, oni bai bod y rhagolygon tiwedd am y penwythnos nesa yn wael iawn, dw i am fodio lan i’r Waun, am y tro cyntaf ers, gylp, 10 mlynedd. Os chi’n gweld dyn tew canol oed yn sefyll wrth ochr yr A44 ddydd Gwener nesa, cofiwch codi eich bys canol a chwerthin ar ei ben, a wna i gofio gweddîo dros eich enaid colledig.

Bodio yng Ngwlad y Lap. Llun gan Mika Meskanen ar Flickr (cc)

(Diolch @paulbrichardson, am y trydariad gwreiddiol!)

Môn – Mynydd Parys a Phlas Newydd

Dydd Mawrth, tywydd gwaetha’r wythnos, os dw i’n cofio’n iawn. Ac mae’n bosbl mod i ddim, gan fod hyn yn bythefnos yn ôl, erbyn hyn. Fi yw blogiwr arafa’r byd.

Cyrraedd Amlwch yn gynnar, yn y glaw. Difaru gwisgo siorts, nid oherwydd y glaw, ond achos nid yw bob ffarmwr yn cadw ei lwybrau cyhoeddus mor glir â’i gilydd, ac mae un lôn werdd yn arbennig sy’n llawn meiri a dail poethion, ac yn malu nghoesau’n chwilfriw. Ni phoener, does dim lluniau.

Mae Mynydd Parys wedi’i gloddio am ei gopr ers Oes yr Efydd, ac am gyfnod yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, Amlwch oedd y ganolfan allforio copr fwya brysur yn y byd. Mae’r canrifoedd wedi gadael eu marc ar y mynydd; mae’r tirwedd arallfydol yn TARDISio fi yn ôl at y seithdegau, ond er gwaethaf y llu o gyfeiriadau ato ar Google, dw i’n methu ffeindio unrhyw dystiolaeth bod y mynydd wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad yr un bennod Doctor Who na Blake’s Seven. Digon hawdd i weld pam fyddai sut gymaint o bobl yn meddwl hynny:

Gan ein bod ni wedi dechrau mor gynnar, er bod y wâc yn ddigon hir roedden ni yn ôl yn y car erbyn amser cinio. Roedd y tywydd wedi bod yn ddigon braf, os yn oer yng ngwynt copa’r mynydd, ond yn ôl yn Amlwch closiodd y glaw o’n cwmpas eto, felly doedd dim awydd crwydro’r dre. Coesau bach yn rhy drwm am fwy o gerdded heddi, felly penderfynnu mynd i ymweld â Phlas Newydd, ger Llanfairpwll.

Prif nodwedd y Plas, i’r rhai sy’n hoff o luniau, yw ei gysylltiad â Rex Whistler, ac yn enwedig y murlun enfawr ganddo yn y stafell fwyta. Er mor drawiadol yw hwnna, ac yn gamp technegol, doedd y murlun ddim yn cyffwrdd ynddo i rhywsut. Gwell o lawer oedd y lluniau llai o faint, yn enwedig cwpl o’i “gariad”, Caroline Paget (chwaer ei noddwr, “Lord Anglesey”): un ohonyn nhw’n noethlun oedd yn destun cryn drafod yn ei amser, a’r llall yn bortread llawer mwy manwl. Dw i’n methu ffeindio copi o hwnna unrhywle ar y we, sy’n bryfoclyd iawn, ond oedd ’na rhywbeth llawer noethach am y portread bach o ben ac ysgwydd y ferch nag sydd i’w weld yn y noethlun go iawn, sy’n edrych i fi fel y llun wnaeth Leonardo DiCaprio jyst cyn i’r Titanic fynd i lawr.

Ar y llaw arall, dw i wedi darganfod, wrth sgwennu hwn o flogiad, taw Whistler oedd yn gyfrifol am y lluniau isod, sy’n rhoi esgus i fi ddefnyddio’r gwychair “plith-draphlith” am yr eildro ar y blog:

"¡OHO!" gan Lawrence a Rex Whistler (clawr)
"¡OHO!" gan Lawrence a Rex Whistler (dalennau clawr)

Jiawl, ddim wedi cyrraedd amser swper nos Fawrth eto, ac mae’n amser cinio yma yn y presennol, pythefnos wedyn. Bydda i’n lwcus i bennu blogio am Fôn cyn i ni fynd i Wrecsam

Môn – Ynys Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch

Dydd Llun: hwn oedd y diwrnod gorau o’r gwyliau ar ran tywydd; perffeithrwydd, trwy’r dydd.

Wrth cyrraed Niwbwrch, aethon ni ar goll, trwy gam-ddarllen arwydd ffordd: mae “Llys Llewelyn” yn edrych yn debyg iawn i “Ynys Llanddwyn”, o’r pellter, mewn car, yn y bore, dim digon o goffi, ac yn y blaen.

Wedi ffeindio ein ffordd i’r maes parcio cywir, wnaethon ni sylwi bod dim amser gyda ni i wneud y wâc yn ein llyfryn yn y drefn iawn, pe hoffen ni gyrraedd yr ynys lanw cyn iddi gael ei hynysoli gan y môr. (Fel oedd yn digwydd, doedd dim rhaid i ni boeni, gan fod y llanw mor isel. Hyd yn oed ar ei uchelbwynt, gallen ni fod wedi rhydio’r stribed cul o ddŵr rhwng yr ynys a’r traeth yn hawdd, heb wlychu’n penliniau.) Penderfynnu, felly, i wneud pethau’n bendraphen. Wastad yn syniad da.

Mae Ynys Llanddwyn yn lle anhygoel, un o’r llefydd mwya trawiadol dw i wedi ymweld â fe erioed. Oedd hi’n helpu bod y tywydd mor berffaith, wrth gwrs, ac ein bod ni wedi cyrraedd cyn y torfeydd. Mae yn natur “Ynys y Cariadon” bod peth rhamant o’i chwmpas, ond mae’r gofalwyr wedi gwrthsefyll y temptasiwn i’w hail-frandio yn ormodol ar gyfer twristiaid. Mae ’na dwtshys bach o darth y Celt ambytu’r lle, ond hyd yn oed i sinig rhonc fel fi, mae pethau fel hyn yn tynnu gwên, yn hytrach na gwg:

Ar ben draw’r ynys fach, mae bwthynnod pilotiaid, lle mae arddangosfa fach sy’n olrhain hanes/myth Dwynwen, hanes mwy diweddar yr ynys, a pheth am fyd natur y lle.

Erbyn i ni wneud ein ffordd yn ôl i’r tir mawr, oedd yr ynys fach yn dechrau llenwi â thwristiaid. Sylwer beth wnes i yna.

Cerdded wedyn trwy’r coed ac at, mewn theori, Llys Rhosyr, ond gan mod i’n methu darllen y map yn iawn, aethon ni’r ffordd hir rownd, a cherdded rhyw dair milltir ma’s o’n llwybr. Ymyl arian y gwyriad oedd dod ar draws patsyn o goed ceirios gwyllt, a chael gwledd suddlon i’n cadw i fynd tan cinio.

Ceirios

Rhaid dweud bod Llys tywysogion Gwynedd braidd yn siomedig ar ôl yr henebion gwelon ni y diwrnod cynt, ond mae’n siwr bydd y safle traphwysig yma yn datblygu mewn amser; am wn i, mae’r gwaith cloddio dal yn mynd yn ei flaen.

Darn olaf y daith oedd ar hyd ffin Cwningar Niwbwrch, ond heb ddigon o amser/egni i fynd yn unlle ond yn ôl i’r car, welon ni ddim llawer ohono.

Gyda’r nos, ac wedi’n “swper pabell” arferol, ma’s i dafarn y Llong, Traeth Coch. Tafarn dda ar ran cwrw (Rampart, bragdy Conwy, perffaith ar ran lleoliad, ac yn hollol Seisnig ar ran naws y lle. Hyn oedd un o themau’r gwyliau; “I’m sorry?” yw Saesneg sir Fôn am “Do I look Welsh to you?”, mae’n debyg.

Serch hynny, ar ôl diwrnod bendigedig, a sychedig, y cwrw ffein a’r olygfa wych oedd yn plesio mwy na’r Seisnigwrydd yn digalonni.

O.N. Dyma fi’n blogio’n hirwyntog. Joio.

Môn – Traeth Lligwy a Din Lligwy

Dydd Sul diwetha, a ninnau’n llawn brecwast bendigedig Brynarth, bant â’r cart at Ynys Môn. (Rhaid bod bach o le yn y boliau o hyd, gan bod ni wedi stopio yn Pete’s Eats ar y ffordd i gael tamaid i ginio.)

Cyrraedd ein gwersyllfa ger Brynteg a chodi’r babell mewn llai o amser nag erioed. Dim amser i deimlo’n rhy smyg am hyn, gan fod ’na waith cerdded i’w wneud.

Llyfryn bach o deithiau cerdded sy gyda ni, yn yr iaith fain, sef Walks Around Ynys Môn, gan David Berry. Mae mewn cyfres dyn ni wedi defnyddio o’r blaen, ac yn ffitio yn y poced yn dwt. Wâcs rhwng dwy a hanner ac wyth milltir sy yma, a chan fod dim llawer o amser gyda ni cyn amser swper, penderfynnu ar un gweddol byr, a digon agos aton ni, sef yn ardal Moelfre. Dilyn llwybr yr arfordir o’r pentre at y gogledd, hyd at Draeth Lligwy. Ar y ffordd, gwelwn ni iêt mochyn arbennig (i rywun):

O draeth rhagorol Lligwy, a syched braf arna i, bach o siom yw ffeindio bod y “Dafarn Rhos” sy’n cael ei grybwyll yn y llyfryn, bellach yn dŷ haf yn hytrach na nhafarn o unrhyw iws i ddyn. Ond anghofio’r siom yn ddigon clou wrth gyrraedd Din Lligwy, olion pentre Brythonaidd-Rufeinig, mewn sefyllfa coediog â golygfeydd gwych o’r bae trwy’r coed. Llai na chwarter milltir o’r safle, mae heneb arall, o gyfnod cynharach byth, sef siambr gladdu Llugwy.

Crwydro yn digon sionc wedyn nôl i’r car ym Moelfre, a nôl i Ad Astra i fwyta un o’n “swperau pabell” arbennig (nwdls, ffa menyn, jar saws posh). Gyda’r nos, cwpl o beints o’r Ungorn yng Ngwesty’r California, Brynteg.

Dyn ni ar ein gwyliau!

Tlysau Tregaron

Wythnos yn ôl, ar ein ffordd i Ynys Môn, treulion ni noson yn Nhregaron, gan fod ffrind yn dathlu ei phen-blwydd yn nharfarn y Talbot. Cyrraedd yn gynnar, braidd, er mwyn sieco mewn i’n gwely a brecwast, ac hefyd i gael cip yn siop ac oriel Rhiannon.

Mae’r siop wrthi’n dathlu ei phen-blwydd ei hunan eleni, a phedwar deg o flynyddoedd o greu gemwaith Cymreig yng ngogledd Ceredigion. Fel rhan o’r dathliadau, mae Rhiannon wedi penderfynnu arddangos ei chasgliad personol o emwaith y Celtiaid, mewn Amgueddfa Geltaidd fach newydd. Mae ’na wledd o bethau hyfryd yn y casgliad, a dyna fi’n difaru’n barod mod i wedi dod ar wyliau heb gamera ond yr un sy ar y ffôn newy’, ac felly dyma’r unig lun sy gyda fi sy ddim yn hollol ddiwerth, sef pedwar anifail bychan:

Ymlaen at y parti, a rhyfeddu ar y gwaith adnewyddu sy’n mynd ymlaen yn y Talbot. Dw i’n ei gofio fel lle go dywyll, o’r tro diwetha bues i yn ei berfeddion; erbyn hyn mae’r golau yn llenwi’r lle trwy ffenestri to. Yn y brif stafell fwyta, mae gwaith y ffotograffydd Rolant Dafis, astudiaethau o fyd natur sy hefyd yn taflu golau mewn i’r stafell.

Parti da, ’fyd. Canwyd cerdd dant gan y teulu a chlasuron pop Cymraeg gan bawb eraill. Ymunais yn y “la la las” a’r Mawredd Mawrion, do. Lot o sbort.

Treulion ni’r nos mewn gwely a brecwast yn Lledrod, tra bod y teulu wedi bwcio’r dafarn i gyd rhyngddynt, ond oedd y gwesty bach yn braf iawn, a’r jam cartref eirin Mair yn arbennig o dda.