Ysbrydion Reznor am ddim

Mae Nine Inch Nails wedi rhyddhau albym newydd, Ghosts sydd ar gael i’w lawrlwytho nawr (ond mae’r safle yn cael ei hamro ar hyn o bryd). Os tala di’r $10 am ddau CD cewch chi lawrlwytho’r cyfan am ddim yn syth, a chei di’r CDau yn y post unwaith maen nhw’n cael eu rhyddhau yn gynnar ym mis Ebrill. Os nag oes ots ’da ti am gael y CD, cei di’r cyfan am $5, mewn sawl fformat: MP3, Apple lossless, FLAC…

Ddim yn siwr os wyt ti moyn talu $5 am y 36 trac? Cei di lawrlwytho’r 9 trac cyntaf yn rhad ac am ddim. Dyna beth dw i’n neud nawr.

Mae’r holl beth ar gael dan drwydded Comins Creadigol – os wyt ti’n talu $75 am y fersiwn “deluxe” cei di ail-ficsio’r cynnwys a’u rhyddhau.

Sa i wedi prynu dim byd gan NIN ers 15 mlynedd, ond dw i’n mynd i brynu hyn.

Mae hyn yn creu tipyn o stwr ar y Rhyngwe. Dyma’r trafodaeth ar Metafilter lle clywais i amdano. Dyma’r stori ar Digg.com sy wedi denu 7254 o bleidleisiau.

Gwrando ar y traciau cyntaf nawr. Fatha ambient tywyll, gwahanol iawn i’r hen stwff adeg Closer dw i’n gyfarwydd â fe. Dim canu.

Mae’r traciau am ddim ar gael yma hefyd.

7278 o bleidleisiau.

Oh no! Steve Hillage!

Fideo mewn 8 rhan o Steve Hillage yn ei bomp. Siwr o fod y “freak” cyntaf i mi glywed – diolch i gasgliad recordiau Tina, chwaer fy ffrind Tony. Methu cysylltu yn syth at y fideo, yn anffodus, felly bydd rhaid mynd draw i eichTiwb i’w weld.

Roedd yn hawdd chwerthin ar ben rhywun fel Hillage yn yr 80au, ond tra bod pobl fel John Lydon wedi ymuno â’r byd sioeau realiti a comeback pob 5 mlynedd, mae Hillage wedi cario ymlaen heb becso dam. Mae ffasiwn yn croesi ei lwybr pob 10 mlynedd neu rywbeth, ond ti’n cael yr argraff bod hyn ddim yn bwysig iawn i’r boi.

Mae lot o Hillage ’da fi ar feinyl, ond dim lot ar CD. Dyma un trac i chi, rhag ofn bod chi ddim yn gyfarwydd.

Steve Hillage – Light In The Sky

Mae hon yn dod o’r albym cyntaf i mi glywed, yn lolfa Tony R, nôl yn 1979 mae’n debyg. Dylwn i fod wedi bod yn gwrando ar Joy Division, siwr o fod, ond anodd dweud mod i’n dyfaru cael fy magu ar y stwff gwallgo ’ma. Rhaid mod i ddim wedi gwrando mewn blynyddoedd maith, achos dim ond nawr dw i’n sylwi bod Gilli Smyth yn dyfynnu Captain Beefheart yng nghanol y gân.

Amser cael fy nglis arno.

Flower Travellin’ Band

Sa i wedi lanlwytho MP3 ers sbel, ond dw i’n gwybod bydd o leia un darllenwr cyson y blog wrth ei fodd â hyn, sef y cyfar fersiwn Sabbath cyntaf erioed, gan un o fandiau mwya dylanwadol y sîn Siapan yn y 70au cynnar, Flower Travellin’ Band

Flower Travellin’ Band – Black Sabbath (MP3, 12MBish)

Yn ôl Julian Cope, nid ail-fersiwn yw hwn:

For a start, Flower Travellin’ Band do not cover the song “Black Sabbath”. Instead, they let its tyres down and ride it across a ploughed field. They do to it what no British band ever could have done. The 4/4 becomes an ambient metal assault over which Joe sings the lyrics when he himself feels like it, rather than following any of the original’s tension.

Mae’n werth traco lawr yr albym (ar gael o Amazon). Mae ganddo cwpl o “gyfars” gwych eraill – 21st Century Schizoid Man ac, ym, House of the Rising Sun – ac un o gloriau mwya roc a rol yr adeg.

“Krautrock gan Judas Priest”

Yn ôl y blogiad lle ffeindiais i’r fideo isod, dyna sut gaeth yr awdur ei gyflwyno at gerddoriaeth Circle. Y blaenaf o’r bandiau NWOFHM (hi, Maff!), mae Circle yn ddim byd os nad yn gynhyrchiol: eu halbym byw Rakennus oedd seithfed CD o’u heiddo yn ystod 2007, sef mwy o recordiau nag mae rhai bandiau yn rhyddhau mewn 20 mlynedd.

Emynyddiaeth Appalachia

Pori yn Llyfrgell Digidol Appalachia lle des i o hyd i gasgliad o emynau mewn steil traddodiadol yr ardal, sef “lined-out hymnody”. Mae’r dull ’ma wedi goroesi ymysg rhai o Fedyddwyr Kentucky.

Dyma Jeff Todd Titon yn disgrifio’r arddull:

The leader sings the very first line, and the congregation joins in when they recognize the song. After that, the song proceeds line by line: the leader briefly chants a line alone, and then the group repeats the words but to a tune that is much longer and more elaborate than the leader’s chant or lining tune. Music historians call this procedure lining out.

Ceir clywed ambell i enghraifft fan hyn ac mae CD ar gael.

Mae arddull gyda ei wreiddiau yn yr ynysoedd hyn, ac mae dull traddodiadol Gaeleg yr Alban dal yn fyw. Yn wir, mae ’na rhai sy’n olrhain gwreiddiau cerddoriaeth sanctaidd pobl duon America yn ôl trwy meistri ceithweision i ynysoedd ac ucheldiroedd yr Alban.

Yn flaenorol: Ffidlera ar yr Hen Ffin – cerddoriaeth werin Appalachia.

Gol. Diolch i Philippa am fy atgoffa am draddodiad brodorol Cymreig o ganu pwnc.

Blwyddyn Newydd Dda! Na, wir i chi!

Falle nad yw’n dda, yn garmigaidd, i ddechrau blwyddyn newydd gyda blogiad am rhywbeth mor ddiflas â thrafod vanitas. Pan wnes i ddileu’r blog neithiwr, dyfynnais i gwbled gan Philippa:

Pa angen dim amgenach
Na’r awr, ’nawr, o fod yn iach.

Dyna’r ysbryd dw i am gadw ato eleni. A does dim byd yn ymgorffori ysbryd Eros fel cerddoriaeth pync digyfaddawd America yr 80au.

Take it away, Bob…

A dyma MP3 fel anrheg bach ymddiheurio-i-fy-hunan-am-fod-mor-negyddol-weithiau:

Hüsker Dü – Sorry Somehow (6Mb) – o’r albym Candy Apple Grey.

Shimmy-Disc

Erbyn i mi bennu’r cofnod hwn, mae’n debyg bydd Pigion y Dydd wedi ymddangos ar y blog, sydd dim byd byd ond lincs ambyti bandiau ar y label Shimmy-Disc. Nôl yn yr 80au hwyr a dechrau’r 90au, cyn i Nirvana a’r we sbwylio popeth i bawb, oedd gweld logo Shimmy-Disc ar gefn record gan fand do’t ti erioed wedi clywed amdanyn nhw, yn ddigon o reswm i roi dy ddecpunt i Mr Spiller. Dw i’n cofio prynu record lle do’n i ddim yn siwr p’un o’r geiriau ar y clawr oedd enw y band, a p’un oedd teitl y record – ac i fod yn onest, dim ond y funud hon ydw i wedi setlo’r dryswch yna, 19 o flynyddoedd yn diweddarach.

Cwmni un dyn oedd y label, a fel gyda phob label gwych mi oedd ’na “house style” – yn union y fath steil fyddet ti’n disgwyl gan foi oedd yn arfer bod yn y Butthole Surfers.

Dyma gwpl o ffefrynnau o’r casgliad Shimmy, wedi’i ffeindio ar y we – dim ond un CD sy ’da fi, mae popeth arall ar feinyl.

Bongwater – Nick Cave Dolls
Dogbowl – Carnival in the Swamp
King Missile – Take Stuff From Work

A dyma geiriau i’r un ola, ar ffurf cartwn ffeindiais i mewn ffansîn o’r pryd, ac sy wedi bod yn cuddio mewn copi o Cosmic Trigger ers 15 mlynedd.

Fnord, sbo.

Take Stuff From Work

Mwy o dalent Dinas Nevada

Beth yw e am Ddinas Nevada? Dim ond rhyw 3,000 o bobl sy’n byw ’na, ond mae hynny yn cynnwys Gary Snyder, Terry Riley a Joanna Newsom.

Mae hefyd yn gartre i Noah Georgeson, cerddor/cynhyrchydd sy wedi gweithio gyda Newsome, Banhart, Bert Jansch ac eraill, ac sy bellach wedi rhyddhau ei albym ei hun – clywir fersiynau acowstig o’r caneuon o hwnna yn y sesiwn radio yma.

Wedyn mae ’na Mariee Sioux – darllenais i amdani hi yn Arthur y bore ’ma wrth eistedd ar yr orsedd (lle dw i’n darganfod y rhan fwya o’m cerddoriaeth newydd y dyddiau ’ma). Cantores “gwerinol” yw hi, gyda thinc o arallfydolrwydd Newsom amdani. Pethau i’w lawrlwytho fan hyn.

Ac mae Alela Diane, Casual Fog, Kings and Queens (oedd yn arfer bod yn aelodau cyn-fand Newsom, The Pleased), ac, wel, mae hynny’n ddigon, siwr o fod.

Sut mae hwn yn digwydd? Rhywbeth yn y dŵr? Neu dim ond lot o rieni hipiaidd?


Gol: mae Utah Phillips yn byw ’na hefyd.

Vetiver ddim o’r un Ilk

Sawl wythnos yn ôl, wedi darllen erthygl ar Richard Youngs, es i Amazon ac ordro CD gan ei fand “proto-prog” Ilk. Pan cyrhaeddodd y disg, o’n i bach yn siomedig – nid prog mohoni, ond rhywbeth tebyg i stwff Devendra Banhart.

Dim byd yn erbyn Defi blew, ond nid beth o’n i’n disgwyl.

Ddim yn meddwl mwy amdano ar y pryd. Pethau i’w neud, pobl i’w gweld.

Neithiwr, chwarae’r CD eto, wrth fynd trwy’r holl stwff dw i wedi prynu yn diweddar. Eto, meddwl bod dim ffordd disgrifio’r gerddoriaeth ’ma fel prog o unrhyw fath. Wedi dweud hynny, mae’n eitha da, a rhywbeth hoffwn i wrando arno fwy. Yn y peil “i’r iPod” gyda fe ‘te.

Y bore ’ma, rhoi fe yn y Mac, aros i iTunes wneud ei stwff a ffeindio manylion y traciau ac ati, a dyna fe: nid Ilk yw e o gwbl, ond albym cyntaf Vetiver. Mae label y CD yn dweud ILK, ond Vetiver biau’r cynnwys.

Wedi dweud wrth label Ilk – tybed a ga’i gopi o’r CD cywir ganddyn nhw?

Mojo Nixon a thrindod sanctaidd mwfi’r heol

Gynnau’r wythnos ’ma, gwyliais i Death Proof Quentin Tarantino. Dyw e ddim yn ffilm sy’n mynd i ychwanegu llawer at enw da Tarantino – un i’r sbotwyr trenau, efallai. Ond fel sbotwr trenau fy hunan, y peth mwynheuais i fwya ynddo oedd yr 20 munud ola: o’r eiliad mae stuntwoman Zoë Bell yn dweud bod hi am fynd am dro mewn car sydd ar werth am un rheswm syml – yr un model yw e â’r car yn Vanishing Point.

Y broblem wedyn yw bod Tarantio wedi dod â ffilm canwaith yn well na Death Proof i’r cof, un sy ddim yn wastraffu mwy na hanner ei amser rhedeg ar siarad, siarad, siarad. (Dw i’n gwybod bod siarad yn rhan fawr o ffilmiau QT, ond o leia oedd cymeriadau Resovoir Dogs a Pulp Fiction â rhywbeth diddorol i’w trafod.)

Ta beth, wedi mynd ati i ffiendio copi ar lein o Vanishing Point, ac wedyn y ffilm orau yn hanes y byd, erioed, Two Lane Blacktop (jyst er mwyn i mi gael copi wrth law yn y swyddfa, sdim modd i mi ripo fe oddi ar y DVD), dyma fi gofio un o fy hoff ail-fersiynau, “This Land is Your Land” gan Mojo Nixon. (Mae linc i’r albym ar Rapidhsare yna yn y sylwadau rhywle: Root Hog or Die.)

I have a dream; I have a vision –
That everybody on the planet is gonna get together
And they’re gonna go to the amusement park of my mind – MOJO WORLD!
Where’s there’s water slides with loop-the-loops
And BBQ sauce in the waterslides
And there’s go-kart tracks going round the middle of the loop-the-loop and the water slide
And there’s a drive-in movie theater
Showing Vanishing Point, Two Lane Blacktop and Thunder Road every night…

Dw i am fynd.

Ond yn gyntaf, dw i am ffeindio copi o Thunder Road rhywle ar yr interwebs. Blydi Bruce Springsteen, sbwylio pethau i bawb.

Dymar’ gân:

Mojo Nixon – This Land Is Your Land

Steve Albini: poker hardcore

Newydd ffeindio hyn trwy bori tagiau Metafilter: edefyn holi Steve Albini ar fforymau poker Gwasg 2+2. Mae Albini yn dod ar draws fel y fath o berson fyddet ti moyn gweithio gyda fe, a chwarae poker gyda fe wedyn. O beth mae’n dweud, mae’n debyg byddet ti’n cael dy arian yn ôl. Mae’n Sôn am ei stiwdio, am ei brofiadau yn y “busnes”, ac am y bobl mae e wedi gweithio gyda nhw, o Nirvana i Joanna Newsom.

Dyma hanes sydyn Albini – mae’n cynnwys “geiriau drwg”, felly, os wyt ti yn y gweithle… pam yn y byd wyt ti’n darllen hyn?

Hefyd, dyma fe‘n siarad am pam dylai bandiau ceisio wneud cymaint o’r gwaith “gweinyddol” (trfnu gigs, hysbysebu ac ati) ag sy’n bosib i’w hunain.