Harri’r Fuwch

Erioed wedi gweld ffilm o Henry Cow o’r blaen, felly roedd yn fach o sioc i ffeindio’r clip yma tra’n pori Last.fm – clip o’r band yn improfeiddio o gwmpas cwpl o draciau o’r albwm In Praise of Learning. Nid yn unig ydy’r gerddoriaeth yn wych, ond mae safon y ffilmio yn dda iawn (gwylier yn “safon uchel”). Wedi gweld ambell i lun o Henry Cow ar y llwyfan, a nhwthau i gyd yn eistedd i chwarae, ro’n i wedi dychmygu eu bod nhw’n weddol di-fflach i wylio, ond i’r gwrthwyneb, maen nhw’n wych, trydanol, yn enwedig Chris Cutler, sy’n chwarae’r dryms fel neb arall dw i wedi gweld.

Tan nawr, dw i wedi gwaith mynd heibio i lais Dagmar Krause, ac wedi tueddu aros gyda’r albyms wnaethon nhw hebddi hi, ond mae’r clipiau ’ma wedi fy narbwyllo i ddal ati, ac i rando eto ar y gwaith wnaeth Henry Cow gyda’r gantores arbennig yma.

Gan fod y fideo wedi’i bostio gan Ffrancwr, ac mae’n cynnwys enghraifft prin o Brydeinwr mewn band sy’n boddran cyflwyno caneuon yn iaith ei gynulleidfa, dw i wedi mentro gadael sylw ar YouTube yn Ffrangeg. Byddai Mrs Jones, yr athrawes Ffrangeg yn Ysgol Dinas Brân yn falch iawn ohona i – nes iddi sylwi taw Google Translate sy’n gyfrifol am fy sgiliau ieithyddol anhygoel, nid ei gwersi hi.

[Gol. Newydd sylweddoli bod y clipiau sy lan ar YouTube yn dod o’r DVD yn y set bocs newydd. Well i mi ddechrau cynilo.

Emily

Wedi treulio’r noson casglu dolenni ambyti Emily, y band o Gorwen/Rhuthun/Manceinion/Llundain/Yr Eidal, yn y drefn ’na, mwy neu lai. Dw i wedi sôn amdanyn nhw ar y maes cyn nawr, ond ddim fan hyn. Gwelais i nhw sawl gwaith yng nghanol yr 80au, pan o’n i’n sgwennu yn gyson at Mark Williams, eu drymiwr a chreuwr sawl ffansîn indie pop.

Ar ôl i mi sgwennu hyn ar y maes, ges i ebost gan Robert Bruce, yn cynnig copiau o MP3au y demo cyntaf erioed, caneuon oedd ’da fi ar dâp blynyddoedd yn ôl, ond ddim wedi clywed ers dyddiau’r coleg. Wrth gwrs, neidiais i ar ei gynnig, a ches i wefr o hiraeth wrth wrando ar y traciau.

Co nhw:

Rhaid cyfadde nag yw’r traciau ’na wedi dyddio’n dda iawn, ond demos o’n nhw i fod, ac roedd y band yn ifanc iawn ar y pryd; Ollie dan ei 18, siwr o fod. Ces i fy synnu’n fawr heno gan yr albym Rub-Al-Khali, sy’n milltiroedd i ffwrdd o’r jangly pop oedd Emily wedi perffeithio erbyn diwedd y 80au. Mae Rub-Al-Khali yn fwystifil o jam cosmig, gyda offer chwythbrennau, gitarau gwyllt, lleisiau angelaidd a thrac 13 munud gyda’r teitl “Allah”. Mae’n eitha arbennig.

Diagonal

Rhif dau mewn cyfres does neb yn credu bydd yn parhau heibio i heddi, “bandiau gwych gwelais i yn y Dyn Gwyrdd eleni”.

Diagonal oedd y band cyntaf i ni weld ddydd Gwener y Dyn Gwyrdd, ac oedd yn syndod llwyr i fi eu gweld yn y rhaglen.

Ta beth, dechrau arbennig o dda. Ro’n i’n teimlo drostyn nhw gorfod gofyn am help ar ôl i’r basydd dorri tant yng nghanol y set, ac heb ddod ag un sbâr; lwcus bod Sibrydion yn fodlon helpu ma’s a benthyg bas iddo fe.

Mae clip bach o’u perfformiad lan ar y Tiwbs, ond dyw e ddim yn arbennig o dda o ran safon.

Mae’r albym cyntaf ar gael i wrando arno am ddim ar Last.fm, ond mae’n werth cael gafael yn y CD (neu’r feinyl, i’r fetishyddion) i chi gael progo ma’s mewn steil.

Y Wrach

Mississippi Witch, un o’r bandiau gwych gwelais i yn y Dyn Gwyrdd eleni.

Mae’n bosibl, ond ddim yn debyg iawn, taw hwn yw’r cyntaf mewn cyfres “bandiau gwych gwelais i yn y Dyn Gwyrdd eleni”. Ond y gwir yw bod Facebook yn mynd ar fy nhethau cymaint mod i’n gorfod postio stwff fan hyn er mwyn peidio ymweld â’r lle. Dw i’n cael fy sbamio gan fy chwaer fy hun, sy bach yn rhyfedd.

Llongyfarchiadau i No Good Boyo, gyda llaw.

Billy Bragg

Mae’n hanner awr wedi dau yn y bore, pam yn y byd ydw i ar ddihun?

Es i i weld Sir William of Bragg heno, yn Theatr Mwldan, a dod ma’s o’r theatr gyda bach o obaith yn y galon. Mae ar daith trwy Gymru ar hyn o bryd, gan gofio streic fawr y glowyr 25 mlynedd yn ôl. Y tro cyntaf i mi weld Bragg oedd yn yr adeg honno, pan wnaeth e chwarae Canolfan Hamdden Plas Madoc ger Wrecsam; welais i fe ’to rhyw dair blynedd yn ôl mewn clwb mawr yn Lerpwl, ond heno oedd y perfformiad gorau o bell ffordd.

Mae’n hawdd anghofio faint o ganeuon gwych mae Bragg wedi sgwennu. Uchafbwyntiau’r noson oedd Levi Stubb’s Tears, The Diggers’ Song a fersiwn doniol iawn o Ingrid Bergman, y gân sgwennodd e “gyda” Woody Guthrie.

Fel arfer gyda BB, oedd bron cymaint o siarad ag oedd o ganu, ond mae e wedi dod yn well raconteur dros y blynyddoedd, yn gyfarwydd go iawn, yn yr hen ddull. Mewn un rap hir iawn, wnaeth e sôn am y BNP, sy wedi dod yn gryf iawn yn ei hendre, Barking/Dagenham.

“O leia nag yw’r BNP yn broblem yng Nghymru hyd yn hyn”, dwedon ni yn y car ar y ffordd adre. A chyrraedd adre, a chlywed bod y Ceidwadwyr wedi denu mwy o bleidleisiau nag unrhyw blaid arall yn yr hen wlad, bod UKIP wedi llwyddo cipio sedd Ewrop arall diolch i bobl Cymru, a bod y BNP wedi ennill un sedd.

Ac yn yr amser dw i wedi treulio stripo ma’s y braster o gynllun y blog, maen nhw wedi ennill un arall. Griffin, ife? Dw i ddim eisiau gweld ei wyneb mochaidd, felly dw i ddim am glicio mwy o lincs heno. Wna i wrando ar ddagrau Levi Stubbs unwaith eto cyn trïal cysgu.

Asthma Dwbl

Asme Gemelle

Asme Gemelle
Roberto Kusterle

Roberto Kusterle – ffotograffydd y ffantasig.
[wood s lot]

Mae’r llun uchod yn cyd-fyd yn dda (ar wahân i’r pysgoden ‘te) gyda’r llyfr dw i newydd bennu: A Primate’s Memoir – stori Robert Sapolsky (yn flaenorol) am ei brofiadau byw gyda babwns Kenyan dros mwy nag ugain mlynedd. Ardderchog.

Mwy o bobl barfog: The Family Jams – ffilm newydd am y daith yn 2004 gan Defi Banhart, Joanna Newsom a Vetiver, jyst cyn iddyn nhw dorri trwy i lwyfannau mawr y cylch gwyliau.

Geiriadur Adar – rhestr enfawr o enwau Saesneg adar y byd, gyda manylion geirdarddol. Pan dw i’n dweud enfawr, dw i’n meddwl enfawr. Mwy am eirdarddiadau enwau adar ar flog Heraclitean Fire.
[Languagehat a'r sylwadau yna]

Poster Coeden Bywyd, yn rhad ac am ddim, o’r Brifysgol Agored. Ces i un o’r rhain fel anrheg pen-blwydd, ac mae’n edrych yn smart iawn yn y stafell fach ’ma.

Holding Our Tongues – cyfres ABC ambyti ieithoedd brodorol Awstralia a’r ymdrech i’w hadfer, cynnal a chadw. Llawer o adnoddau diddorol yna.
[Languagehat]

Ar ôl gwylio’r gêm yng Nghlwb Rygbi Ffynnon Tâf ddydd Sadwrn, aethon ni i weld ein hen ffrindiau Punks Not Dad yn nhafarn Fagins. Yna ces i’r newyddion eu bod nhw wedi cael eu BoingBoingio yn diweddar. Bendigedig.

Nôl

Hermann Hirsch - Hunan-bortread

Hermann Hirsch
(1861-1934)
Hunan-bortread

Ein jüdischer Maler in Göttingen, arddangosfa o waith Hermann Hirsch, artist oedd yn hen-ewythr i’m partner, Philippa. Mae’r llun i’r chwith (rhowch glec am fersiwn mwy) yn un o ryw hanner dwsin sy gyda ni, wedi dod i lawr i Philippa trwy ei mam.
 

Never Knowingly Underwhelmed, blog Saesneg gan Andrew Collins. Wedi darllen ei hunangofiant yn diweddar, a braf yw darllen hanes rhywun na chafodd ei abiwso fel plentyn, yn seicolegol, na (oni bai am ddeiat o sbageti hwps ac Angel Delight) yn gorfforol. Dyw e ddim mor smyg ag mae hynny’n swnio.

Chasm Filler, blog MP3 eclectig iawn. Tim Buckley, Public Image Ltd a’r Boredoms o fewn yr wythnos diwetha.

We Can’t Paint, blog am ffotograffiaeth, a thrwy hwnna, Will Steacy, ffotograffydd o Philadelphia. [wood s lot]

Panda Flickr – dw i ddim yn ei ddeall, ond dw i’n ei hoffi fe. [mefi]

Fy hoff grŵp Facebook erioed – dw i’n siŵ bod yr athrawon Saesneg i gyd yn falch iawn o weld hyn.

Gall Cymru fod yn annibynnol? Gwefan newydd gan Plaid Cymru sy’n gofyn y cwestiwn hanfodol i’w bodolaeth nhw fel plaid. Rhaid i mi gyfaddau mod i wedi colli bach o ffydd yn y Blaid ers dabacl papur newydd Y Byd, ac mod i wedi bod yn byw gyda mhen gwleidyddol yn y tywod i ryw raddau am fwy na blwyddyn, felly mae hyn wedi dod fel sioc i mi, os yn sioc braf. Ydw, dw i mor fras â hynny; rhowch eich dadleuon ar wefan deca, gyda’r Adam Price hyfryd ’na yn eu cyflwyno, a wna i eu llyncu nhw’n gyfan. Neu, o leia, helpu lledu’r gair:

Darllen mwy – or watch an English language version.

Pa bodlediad?

The Casbah – podlediad newydd i fi, ffeindiwyd ar Boing Boing tra’n chwilio am rywbeth arall. Cymysg ffrwythus iawn o syrff, bliws, soul a garej, ac un sy’n apelio ata i ar y munud.

Dw i’n geidwadol iawn gyda fy newis o bodlediadau. Dim ond tri cyson sy ’da fi, sef trindod sanctaidd y BBC, Kermode, Fry a Bragg. Does dim un podlediad arall wedi goroesi mwy na mis yn fy iTunes, er i mi drïal llawer.

Oes awgrymiadau am ragor? Beth sydd yn eich ffrwd, dŵd?

Miwsig i’r Mercher

MP3au sy’n mynd ar y pod am yfory. Lot o ail-fersiynau ac un albym newydd.

Rhwng An Daingean ac Hawai’i

Wythnos diwetha, ar ein gwyliau yn An Daingean, cwrddon ni â Clyde Sakamoto a’i wraig Gerrianne yn nhafarn An Droichead Beag, a chawson ni sgwrs diddorol iawn am ieithoedd Cymru, Iwerddon ac Hawai’i, ymysg pethau eraill. (Fel cwrw – diolch i Clyde, ffeindiais i dafarn arall ar bwys y dre sy’n wneud eu cwrw eu hunain.)

Dyna fi heddi, dal i fyny gyda’r blogiadau dw i wedi colli yn diweddar, a ffeindio cofnod This Recording sy’n cynnwys MP3 ail-fersiwn Hawaiieg o’r gân Nothing Compares 2 U. Mae’r gân ar drac sain y ffilm ’na gyda Russell Brand, felly dyw e ddim yn debyg y byddwn i wedi’i chlywed heb y blogiad.

Diawl, dw i’n sgwennu’n wael. Oes rhyfedd mod i’n wneud hyn mor anaml y dyddiau ’ma?

Ta beth, dyma’r MP3. Wedi cyfieithu’r teitl i gadw cyfreithwyr y Tywysog oddi ar fy nghefn.

Does Dim Byd yn Cymharu i Ti – Y Coconutz

“Coconutz” yw ffugenw Daniel Ho.

Dw i’n hoff iawn ail-fersiynau sy wedi’u cyfieithu. Wna i drial meddwl am fwy.

[Gol.]

Seu Gorge yn wneud Bowie yn Portiwgaleg, wrth gwrs.

Sigur Rós : Gobbledigook

Gobbledigook gan Sigur Rós?

Dim byd newydd ’na ‘te.

Braf clywed bod y band yn newid cyfeiriad tipyn bach. Ro’n i’n ffeindio’r albym diwetha bach yn rhy debyg i bopeth oedd wedi mynd o’i flaen, ond mae hyn yn wahnol. Dylanwad yr Animal Collective?

Mae’r gân ar gael am ddim (wel, am bris cyfeiriad ebost) ac mae fideo’n wych – lot o bobl ifanc noeth ac hardd ynddo, ond yn llawen yn lle pornograffaidd. Wedi’i ysbrydoli gan waith Ryan McGinley, ffotograffydd diddorol iawn.

Marillion, Grendel, a hynny i gyd

Ar yr un llaw, sut wnaeth band mor anhygoel o anghŵl a derivitive lwyddo llenwi Odeon Hammersmith a chyrraedd rhif 1 yn y siartiau yn yr 80au cynnar?

Ar y llaw arall, wnes i grio uwchben y sinc wrth wrando ar hon bore ddoe.

Does dim esgus yn y byd, mae e tu hwnt i bob dadl “pleserau euog”. Dw i’n gwybod yn iawn y dylwn i fod wedi bod yn gwrando ar Joy Division neu rywbeth, ond y gwir syml yw, yn 1983, yn y myddarffycin Waun, doedd dim byd yn well na hyn:

Nid bod neb yn darllen o hyd, ond oedd gan fy ffrind M.O., yr un wnes i deithio gyda fe i Lundain bell i weld y bois ’ma, Mini 1275 GT gyda’r enw “GRENDEL” yn y striben haul. Mae’n haws ffeindo trivia am y band di-werth yma ar y we nag yw e ffeindio tystiolaeth marwolaeth gwastraffus nghyfaill. Ac er eu bod yn ddi-werth, wrth gymharu â Velvet Undergrounds, Van Morrisioniaid a Datblygiadau’r byd roc byd eang, dw i ddim yn credu y bydd yr un band arall â’r gallu torri nghalon mor gyson â’r band yma.

Hanes “Hallelujah”

“It Doesn’t Matter Which You Heard”, erthygl wych ar hanes cân Leonard Cohen Hallelujah, o’r ail-fersiwn cynnar gan John Cale, i fersiwn iconaidd Jeff Buckley, i’w lle presenol fel y gân i fynd amdani pan mae angen cerddoriaeth gefndirol i “sad montage” mewn opera sebon neu sit-com. Un o brif bwyntiau’r awdur yw bod ’na ddim ots pa fersiwn yw’r un glywi di’n gyntaf, a does dim ots pa mor bell mae’r broses o gomodificeiddio (mae’n flin ’da fi) y gân yn mynd – ac mae wedi’i chanu ar American Idol erbyn hyn – dyma un o’r caneuon prin ’na sy’n mynd yn syth at dy galon, fel taw tithau yw’r person cyntaf i’w chlywed erioed.

Fersiwn y Leni Mawr clywais i gyntaf, wedyn Buckley sbo, ac mae’r ddau fel petai yn byw yn stafelloedd gwahanol nghof cerddorol. Dim un sy’n rhagori ar y llall, ac os ydw i’n troi at fersiwn Buckley yn fwy aml nag at y gwreiddiol, ei rinweddau megyddol sy’n gyfrifol am hynny: mae’n fel pigiad morffîn pan dw i’n teimlo’n isel.

Ond, eithr ac aros funud, diolch i’r trafodaeth ar Metafilter, dw i wedi darganfod fersiwn newydd i fi, sef yr un isod recordiwyd gan k.d.lang yn 2005 yn Sydney. Os ydy hi’n wir, fel y hawliwyd yn yr edefyn ar Mefi, taw cân am ryfeddodau’r orgasm benywaidd yw Hallelujah, dyna un rheswm arall i ddifaru bod k.d. yn chwarae i dîm Sappho.

(O.N. Peidiwch chwilio YouTube am fersiwn Jon Bon Jovi. Does dim un gân yn y byd sy mor gryf â hynny.)