Shutterbug Follies

Os wyt ti’n ffan comics byddi di wrth dy modd gyda Bee – Shutterbug Follies gan Jason Little, Efrog Newydd. Yr unig problem yw, dyw y stori ddim wedi bennu eto: darllenais i drwy’r 37 tudalen sydd ar y wefan ac yn awr dw i’n ffaelu aros am rifyn 38.

O.N. O’n i meddwl oedd yr enw yn gyfarwydd – Jason Lytle yw canwr gyda Grandaddy, un o’r grwpiau gorau i ddod o’r Amerig yn ddiweddar. Dyma cyfweliad gyda nhw a dyma tirwedd Grandaddy.

Blacktop

Yr oedd yr arddangosfa yn siomedig braidd – doedd y lluniau y y Tabernacl ddim cystal â rhain ar y wefan hon.

Roedd Machynlleth yn brysur iawn – oes ’na fwymwy o siopau ‘pethau del’ bach nag oedd ’na, neu ydw i’n dychmygu pethau?

Treuliais i dair awr yn llyfrgell Huw Owen, darllen hen gopiau Barn a Planet. Ond y peth gorau ffindais i oedd erthygl Sight and Sound o 1970 oedd yn sôn am fy hoff ffilm erioed, Two Lane Blacktop.

[Gol. 21/11/09 trwshio linc mewnol.]

Mynd i Fachynlleth

Bydden ni’n mynd i Fachynlleth dydd Gwener, i ymweld â’r Tabernacl (lle mae arddangosfa gan Craigie Aitchinson, artist o’r Alban) ac edrych yn siopiau llyfrau’r dre. Wedyn, i Aberystwyth i’r Lyfrgell Genedlaethol – ‘sdim clem ’da fi beth sy ymlaen ’na, achos does dim sôn am arddangosfeydd ar eu gwefan, am wn i.

[Gol. 21/11/09 - dolenni MOMA ac Aitchinson wedi marw. Gwefan MOMA nawr yn uniaith Saesneg. Pethau wedi gwella yn y Llyfrgell.]

Prynu Peter Lord

Defnyddiais i nhocyn Amazon i archebu llyfr newydd gan Peter Lord Delweddau’r Genedl. Mae’n debyg does neb yn siarad Cymraeg yn Amazon: yn eu hôl nhw, teitl y llyfr yw ‘Diwylliant’.

Beth bynnag, mwynhais i’r llyfr cynta yn y cyfres (yn Saesneg) a wi’n edrych ymaen at darllen yr ail.

Mae Peter Lord yn un o’r tiwtoriaid ar y radd allanol ac yn gymrawd ymchwil ac arweinydd Prosiect Diwylliant Gweledol Cymru. Fe wnaeth e gyflwyniad i’r pwnc yn y seminar Dehongli Cymru ym Mhantycelyn dros y Pasg.