Allan o Gaerfaddon

Chun Liao - Small is Beautiful

Chun Liao - Small is Beautiful

Un o fy hoff orielau Cymru yw’r un fach adran grochenwaith Prifysgol Aberystwyth, sy lawr stâr yn y Ganolfan Gelfyddydau. Ro’n i’n arfer cerdded heibio i hon heb feddwl aros ac edrych, nes i Philippa fy llusgo mewn un diwrnod, ac ers hynny dw i’n ffan mawr y lle. Dim ond dwy stafell gweddol bach yw hi, yr un ffrynt ag arddangosfeydd newidiadol, a’r cefn yn dangos dewisiadau o gasgliad cerameg y coleg.

Yn yr oriel flaen ar hyn o bryd mae arddangosfa Allan o Gaerfaddon (tudalen uniaith Saesneg, am ryw reswm), gwaith gan raddedigion cwrs ceramig Prifysgol Ffynnon Caerfaddon. Fy ffefrynnau i o’r casgliad oedd cwpl o weithiau gan Chun Liao (gweler uchod) a dau ddarn wych gan Matt Chambers (gweler isod).

Nid y darnau dw i wedi cynnwys yma sydd yn yr arddangosfa, ond pethau tebyg.

Mae’r sioe ar agor tan 21 Awst 2011. Diwedd yr wythnos!

Matt Chambers - Split Symmetry

Matt Chambers - Split Symmetry

Môn – Mynydd Parys a Phlas Newydd

Dydd Mawrth, tywydd gwaetha’r wythnos, os dw i’n cofio’n iawn. Ac mae’n bosbl mod i ddim, gan fod hyn yn bythefnos yn ôl, erbyn hyn. Fi yw blogiwr arafa’r byd.

Cyrraedd Amlwch yn gynnar, yn y glaw. Difaru gwisgo siorts, nid oherwydd y glaw, ond achos nid yw bob ffarmwr yn cadw ei lwybrau cyhoeddus mor glir â’i gilydd, ac mae un lôn werdd yn arbennig sy’n llawn meiri a dail poethion, ac yn malu nghoesau’n chwilfriw. Ni phoener, does dim lluniau.

Mae Mynydd Parys wedi’i gloddio am ei gopr ers Oes yr Efydd, ac am gyfnod yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, Amlwch oedd y ganolfan allforio copr fwya brysur yn y byd. Mae’r canrifoedd wedi gadael eu marc ar y mynydd; mae’r tirwedd arallfydol yn TARDISio fi yn ôl at y seithdegau, ond er gwaethaf y llu o gyfeiriadau ato ar Google, dw i’n methu ffeindio unrhyw dystiolaeth bod y mynydd wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad yr un bennod Doctor Who na Blake’s Seven. Digon hawdd i weld pam fyddai sut gymaint o bobl yn meddwl hynny:

Gan ein bod ni wedi dechrau mor gynnar, er bod y wâc yn ddigon hir roedden ni yn ôl yn y car erbyn amser cinio. Roedd y tywydd wedi bod yn ddigon braf, os yn oer yng ngwynt copa’r mynydd, ond yn ôl yn Amlwch closiodd y glaw o’n cwmpas eto, felly doedd dim awydd crwydro’r dre. Coesau bach yn rhy drwm am fwy o gerdded heddi, felly penderfynnu mynd i ymweld â Phlas Newydd, ger Llanfairpwll.

Prif nodwedd y Plas, i’r rhai sy’n hoff o luniau, yw ei gysylltiad â Rex Whistler, ac yn enwedig y murlun enfawr ganddo yn y stafell fwyta. Er mor drawiadol yw hwnna, ac yn gamp technegol, doedd y murlun ddim yn cyffwrdd ynddo i rhywsut. Gwell o lawer oedd y lluniau llai o faint, yn enwedig cwpl o’i “gariad”, Caroline Paget (chwaer ei noddwr, “Lord Anglesey”): un ohonyn nhw’n noethlun oedd yn destun cryn drafod yn ei amser, a’r llall yn bortread llawer mwy manwl. Dw i’n methu ffeindio copi o hwnna unrhywle ar y we, sy’n bryfoclyd iawn, ond oedd ’na rhywbeth llawer noethach am y portread bach o ben ac ysgwydd y ferch nag sydd i’w weld yn y noethlun go iawn, sy’n edrych i fi fel y llun wnaeth Leonardo DiCaprio jyst cyn i’r Titanic fynd i lawr.

Ar y llaw arall, dw i wedi darganfod, wrth sgwennu hwn o flogiad, taw Whistler oedd yn gyfrifol am y lluniau isod, sy’n rhoi esgus i fi ddefnyddio’r gwychair “plith-draphlith” am yr eildro ar y blog:

"¡OHO!" gan Lawrence a Rex Whistler (clawr)
"¡OHO!" gan Lawrence a Rex Whistler (dalennau clawr)

Jiawl, ddim wedi cyrraedd amser swper nos Fawrth eto, ac mae’n amser cinio yma yn y presennol, pythefnos wedyn. Bydda i’n lwcus i bennu blogio am Fôn cyn i ni fynd i Wrecsam

Tlysau Tregaron

Wythnos yn ôl, ar ein ffordd i Ynys Môn, treulion ni noson yn Nhregaron, gan fod ffrind yn dathlu ei phen-blwydd yn nharfarn y Talbot. Cyrraedd yn gynnar, braidd, er mwyn sieco mewn i’n gwely a brecwast, ac hefyd i gael cip yn siop ac oriel Rhiannon.

Mae’r siop wrthi’n dathlu ei phen-blwydd ei hunan eleni, a phedwar deg o flynyddoedd o greu gemwaith Cymreig yng ngogledd Ceredigion. Fel rhan o’r dathliadau, mae Rhiannon wedi penderfynnu arddangos ei chasgliad personol o emwaith y Celtiaid, mewn Amgueddfa Geltaidd fach newydd. Mae ’na wledd o bethau hyfryd yn y casgliad, a dyna fi’n difaru’n barod mod i wedi dod ar wyliau heb gamera ond yr un sy ar y ffôn newy’, ac felly dyma’r unig lun sy gyda fi sy ddim yn hollol ddiwerth, sef pedwar anifail bychan:

Ymlaen at y parti, a rhyfeddu ar y gwaith adnewyddu sy’n mynd ymlaen yn y Talbot. Dw i’n ei gofio fel lle go dywyll, o’r tro diwetha bues i yn ei berfeddion; erbyn hyn mae’r golau yn llenwi’r lle trwy ffenestri to. Yn y brif stafell fwyta, mae gwaith y ffotograffydd Rolant Dafis, astudiaethau o fyd natur sy hefyd yn taflu golau mewn i’r stafell.

Parti da, ’fyd. Canwyd cerdd dant gan y teulu a chlasuron pop Cymraeg gan bawb eraill. Ymunais yn y “la la las” a’r Mawredd Mawrion, do. Lot o sbort.

Treulion ni’r nos mewn gwely a brecwast yn Lledrod, tra bod y teulu wedi bwcio’r dafarn i gyd rhyngddynt, ond oedd y gwesty bach yn braf iawn, a’r jam cartref eirin Mair yn arbennig o dda.

Agenda Cudd

Pan fues i yng Nghaergrawnt wythnos o’r blaen, prynais i gopi o’r gylchgrawn Agenda, gan fod rhifyn “Cymreig” arbennig oedd e, gyda traethawd ar David Jones, a cherddi gan Mererid Hopwood, Gwyneth Lewis, Tony Conran, a llawer mwy.

Dw i ddim wedi darllen hanner ohono fe eto, ond nawr dw i’n gweld bod atodiad arlein ar gael, sy’n cynnwys cerddi gan Sheena Pugh, Tony Conran, Damian Walford Davies a mwy, a lluniau gan Mary Lloyd Jones a Nancy Wynne-Jones.

Hefyd mae’r portread gwych isod o Tony Conran. Sdim sôn am y ffotograffydd yn anffodus.

Tony Conran

Tony Conran

(Bron) Popeth (ar y we) yn Gymraeg

Hyd yn hyn, dw i wedi sôn am beiriant cyfieithu Google mewn termau eitha cul, Cymraeg/Saesneg. Ond mae ochr arall i’r ceiniog, sef bod (bron) holl gynnwys y we erbyn hyn ar gael i ni yn ein hiaith ein hunain, os ydyn ni’n fodlon rhoi tipyn bach o waith i mewn.

Er nad ydw i’n debyg iawn i ddarllen Metafilter yn y Gymraeg, mae’n anhygoel bod hynny yn bosibl. Ces i wefr o weld bar-lywio Mefi, rhywbeth dw i wedi gweld bron bob dydd ers 1999, wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg, bron pob gair yn ei le:

Picture 1

Gwych o beth, ond ddim digon o reswm i ddewis darllen cyfieithiad carpiog yn lle’r Saesneg gwreiddiol.

Un lle dw i wedi defnyddio teclyn Google heddiw, i ddarllen rhywbeth na fyddai gobaith i mi ddeall heb gyfieithiad cyn nawr, yw gwefan arddangosfa Hermann Hirsch*, sef safle uniaith Almaeneg sydd erbyn hyn yn ddealladwy i Gymry Cymraeg.

Mae’r arddangosfa yn Amgueddfa Trefol o Göttingen, am y tro cyntaf yn yr Almaen yn gwneud yn deyrnged i’r hanghofio unjustly artist. Mae’n darparu daith bywgraffyddol drwy fywyd a gwaith yr artist hyblyg, ac yn gosod pwyslais ar ei Südniedersächsische amser.

Diddorol gweld y gair Saesneg unjustly yn y canol, sy’n awgrymu bod y fersiwn Gymraeg yn dod trwy’r Saesneg yn gyntaf. Diddorol hefyd bod y gair teyrnged (am “eine Würdigung”) yna yn tro’n asesiad os dych chi’n bwydo’r teclyn â’r testun fesul paragraff. “Assessment” yn hytrach na “tribute” yw e yn y Saesneg, ond eto, os dych chi’n rhoi llai o gydestun i’r peiriant, mae’r gair yn newid i “appreciation”.

Mae’r dewisiadau y peiriant braidd ar hap weithiau: gan fwydo’r un ymadrodd uchod mewn ond heb yr atalnod llawn, mae Hirsche yn newid o fod yn “painter” i “artist”.

Ta waith am hynny, dw i dal yn gweld hyn fel datblygiad enfawr yn hanes y Gymraeg ar y we. A tu hwnt, wrth gwrs – cofiwch bod testun bob llyfr yn y byd yn cael ei sganio gan Google, sy’n golygu (mewn theori) y bydd bob llyfr yn y byd ar gael yn y Gymraeg, yn y man. Mae hynny yn dipyn o beth, ond yw e?

* Dw i wedi blogio am Hermann Hirsche yma o’r blaen, y tro diwetha i mi ddod yn ôl ar ôl hoe bach o’r blog, fel mae’n digwydd. Hen ewythr Philippa oedd e, a chafodd bron popeth o’i waith ei “brynu” gan y Natsïaid am brisiau chwerthinllyd. Ond cewch chi ddarllen gweddill ei hanes ar wefan Amgueddfa Drefol Göttingen, os dych chi’n gallu darllen Almaeneg.

Asthma Dwbl

Asme Gemelle

Asme Gemelle
Roberto Kusterle

Roberto Kusterle – ffotograffydd y ffantasig.
[wood s lot]

Mae’r llun uchod yn cyd-fyd yn dda (ar wahân i’r pysgoden ‘te) gyda’r llyfr dw i newydd bennu: A Primate’s Memoir – stori Robert Sapolsky (yn flaenorol) am ei brofiadau byw gyda babwns Kenyan dros mwy nag ugain mlynedd. Ardderchog.

Mwy o bobl barfog: The Family Jams – ffilm newydd am y daith yn 2004 gan Defi Banhart, Joanna Newsom a Vetiver, jyst cyn iddyn nhw dorri trwy i lwyfannau mawr y cylch gwyliau.

Geiriadur Adar – rhestr enfawr o enwau Saesneg adar y byd, gyda manylion geirdarddol. Pan dw i’n dweud enfawr, dw i’n meddwl enfawr. Mwy am eirdarddiadau enwau adar ar flog Heraclitean Fire.
[Languagehat a'r sylwadau yna]

Poster Coeden Bywyd, yn rhad ac am ddim, o’r Brifysgol Agored. Ces i un o’r rhain fel anrheg pen-blwydd, ac mae’n edrych yn smart iawn yn y stafell fach ’ma.

Holding Our Tongues – cyfres ABC ambyti ieithoedd brodorol Awstralia a’r ymdrech i’w hadfer, cynnal a chadw. Llawer o adnoddau diddorol yna.
[Languagehat]

Ar ôl gwylio’r gêm yng Nghlwb Rygbi Ffynnon Tâf ddydd Sadwrn, aethon ni i weld ein hen ffrindiau Punks Not Dad yn nhafarn Fagins. Yna ces i’r newyddion eu bod nhw wedi cael eu BoingBoingio yn diweddar. Bendigedig.

Nôl

Hermann Hirsch - Hunan-bortread

Hermann Hirsch
(1861-1934)
Hunan-bortread

Ein jüdischer Maler in Göttingen, arddangosfa o waith Hermann Hirsch, artist oedd yn hen-ewythr i’m partner, Philippa. Mae’r llun i’r chwith (rhowch glec am fersiwn mwy) yn un o ryw hanner dwsin sy gyda ni, wedi dod i lawr i Philippa trwy ei mam.
 

Never Knowingly Underwhelmed, blog Saesneg gan Andrew Collins. Wedi darllen ei hunangofiant yn diweddar, a braf yw darllen hanes rhywun na chafodd ei abiwso fel plentyn, yn seicolegol, na (oni bai am ddeiat o sbageti hwps ac Angel Delight) yn gorfforol. Dyw e ddim mor smyg ag mae hynny’n swnio.

Chasm Filler, blog MP3 eclectig iawn. Tim Buckley, Public Image Ltd a’r Boredoms o fewn yr wythnos diwetha.

We Can’t Paint, blog am ffotograffiaeth, a thrwy hwnna, Will Steacy, ffotograffydd o Philadelphia. [wood s lot]

Panda Flickr – dw i ddim yn ei ddeall, ond dw i’n ei hoffi fe. [mefi]

Fy hoff grŵp Facebook erioed – dw i’n siŵ bod yr athrawon Saesneg i gyd yn falch iawn o weld hyn.

Gall Cymru fod yn annibynnol? Gwefan newydd gan Plaid Cymru sy’n gofyn y cwestiwn hanfodol i’w bodolaeth nhw fel plaid. Rhaid i mi gyfaddau mod i wedi colli bach o ffydd yn y Blaid ers dabacl papur newydd Y Byd, ac mod i wedi bod yn byw gyda mhen gwleidyddol yn y tywod i ryw raddau am fwy na blwyddyn, felly mae hyn wedi dod fel sioc i mi, os yn sioc braf. Ydw, dw i mor fras â hynny; rhowch eich dadleuon ar wefan deca, gyda’r Adam Price hyfryd ’na yn eu cyflwyno, a wna i eu llyncu nhw’n gyfan. Neu, o leia, helpu lledu’r gair:

Darllen mwy – or watch an English language version.

Audrey Kawasaki

Newydd wneud arbedwr sgrîn o luniau Audrey Kawasaki, wedi’i hailddarganfod o gofnod ar Juxtapoz y bore ’ma. Wedi codi o ochr anghywir y gwely, mae angen pethau pert i godi’r ysbryd.

Tear Me gan Audrey Kawasaki

Tear Me gan Audrey Kawasaki

Mae ei blog Livejournal yn llawn lluniau o’i stiwdio, a dyma enghreifftiau o’r sioe mae hi’n cyflwyno yn Los Angeles. Wythnos nesa, os wyt ti yn yr ardal.